Prifysgol Aberystwyth
Chwilio am Gwrs
Astudio gyda Ni
Mae ymchwil arloesol y Brifysgol yn bwydo’n syth i’n gwaith dysgu, gan gyfoethogi ein cyrsiau a chreu profiad dysgu heb ei ail, gan eich helpu i feithrin sgiliau a datrys problemau go iawn.
Astudiaethau Israddedig:
Astudiaethau
Ôl-raddedig:
Opsiynau Astudio Eraill
Ymchwil yn Aberystwyth
Mae ymchwil Aberystwyth yn helpu i newid y byd er gwell, drwy wneud gwahaniaeth i fywydau go iawn. Rydym yn ymdrin â rhai o heriau mwyaf taer cymdeithas, gan gynnwys newid hinsawdd, iechyd byd-eang, newidiadau cymdeithasol, ac archwilio’r gofod.
Darganfyddwch Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i lleoli ar arfordir y gorllewin, rhwng Mynyddoedd y Cambria a Bae Ceredigion. Mae’r gymuned yn amrywiol a chroesawgar o fewn tref farchnad hanesyddol ar lan y môr sydd â diwylliant Cymreig cosmopolitan. Gyda chymaint i’w gynnig, bydd gennych ddigonedd o ddewis.
Newyddion
Gweld y newyddion yn llawnCoffáu ffoaduriaid rhyfel mewn arddangosfa Senedd
Mae arddangosfa yn y Senedd am effaith rhyfel a dadleoli yng Nghymru sy’n coffáu ffoaduriaid rhyfel wedi’i hagor gan Weinidog o Lywodraeth Cymru.
Pam y dylai'r DU edrych y tu hwnt i dwf at 'economeg newydd' sy'n gweithio i bawb
Mewn erthygl yn The Conversation, mae'r Athro Jasper Kenter yn trafod sut ni all economeg draddodiadol ymateb i argyfyngau byd-eang fel anghydraddoldeb a newid hinsawdd.
Gallai model mathemateg ddatgloi triniaethau meddygol newydd
Gellir gwneud i ronynnau sydd mor wahanol â swigod sebon a phelferynnau drefnu eu hunain yn union yn yr un modd, yn ôl astudiaeth newydd a allai ddatgloi’r broses o greu deunyddiau newydd sbon - gan gynnwys y rhai hynny sydd â dibenion biofeddygol addawol.
Lansio arolwg ar fusnesau cefn gwlad Cymru
Mae tîm o academyddion a arweinir gan y Brifysgol yn cynnal ymchwil newydd i gyflwr busnesau cefn gwlad yng Nghymru.
