Polisi Cyffredin Prifysgol Aberystwyth ar Ddefnyddio Deunydd Hawlfraint Trydydd Parti

1. Diben y Polisi

Diben y polisi hwn yw sicrhau bod Prifysgol Aberystwyth (y cyfeirir ati o hyn allan fel “y Brifysgol”), ei staff, ei myfyrwyr a defnyddwyr eraill ei chyfleusterau yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ynghylch hawlfraint wrth ddefnyddio deunydd hawlfraint trydydd parti ar gyfer dysgu ac addysgu, ymchwil a mathau eraill o fusnes sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol.

2. Cwmpas/Perthnasedd y Polisi hwn

2.1 Yr hyn y mae’n ei gynnwys

2.1.1 Mae’r polisi hwn yn ymwneud â materion sy’n gysylltiedig â defnyddio deunydd trydydd parti, sydd o dan hawlfraint, yn unig.

2.1.2 Mae’r polisi hwn yn berthnasol i staff a myfyrwyr y Brifysgol ac unrhyw un arall sy’n defnyddio adnoddau’r Brifysgol i wneud unrhyw waith copïo neu atgynhyrchu o unrhyw fath (e.e.  llungopïo, sganio, atgynhyrchu digidol).

2.1.3 Mae’r polisi hwn yn amlinellu’r cyfreithiau hawlfraint ac mae’n berthnasol i bob deunydd print, electronig a digidol sydd dan hawlfraint a ddefnyddir yn ystod gweithgareddau’r Brifysgol. Er mwyn osgoi ansicrwydd, mae’r deunydd hwn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, testun, delweddau, cronfeydd data, dyluniadau graffig, logos, recordiadau sain, ffilmiau, darllediadau, rhaglenni cyfrifiadurol (meddalwedd) a deunydd electronig sy’n cael ei storio ar weinyddion, gyriannau lleol a phell ac ar wefannau’r rhyngrwyd.

2.2 Yr hyn nad yw’n ei gynnwys

2.2.1    Nid yw’r polisi’n cynnwys perchnogaeth y Brifysgol ar ddeunyddiau hawlfraint a grëwyd gan aelodau unigol o’r staff a myfyrwyr unigol. Ar gyfer ymholiadau am hawlfraint yng ngwaith y staff a’r myfyrwyr eu hunain, gweler y Polisi Hawliau Eiddo Deallusol Cyffredin.

3. Cyfrifoldeb

3.1 Cyffredinol

3.1.1 Cyfrifoldeb Cyfarwyddwyr Athrofeydd, Deoniaid, Penaethiaid Ysgolion, Penaethiaid Adrannau, Cyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu a Chyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymorth yw sicrhau bod y Polisi hwn yn cael ei weithredu, ynghyd ag unrhyw ganllawiau cysylltiedig wrth iddynt gael eu cyhoeddi o bryd i’w gilydd.

3.1.2  Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Gwybodaeth sy’n gyfrifol am weithredu ar unrhyw risg ddifrifol neu faterion yn ymwneud ag adnoddau i’r  Dirprwy Is-Ganghellor (Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyrwyr).

3.2 Aelodau’r Brifysgol

3.2.1 Cyfrifoldeb aelodau unigol o’r staff, eraill sy’n gweithio ar ran y Brifysgol neu’r myfyrwyr yw gwneud defnydd cyfreithlon o ddeunydd trydydd parti mewn modd priodol. Ni ddylid tresmasu ar hawliau neilltuedig deiliaid hawlfraint.

4. Polisi Manwl

4.1 Cyffredinol

4.1.1 Mae’r Brifysgol yn parchu egwyddor gwarchod hawlfraint pob gwaith a grëwyd gan drydydd parti ac yn glynu at yr egwyddor honno, ac mae’n mynnu bod ei staff a’i myfyrwyr yn gwneud hynny hefyd. Mae’r Brifysgol yn ymdrechu bob amser i gydymffurfio â deddfwriaeth hawlfraint y DU (Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 a’r Rheoliadau cysylltiedig) a deddfwriaeth gyfatebol mewn awdurdodaethau eraill y mae’r Brifysgol yn gweithredu ynddynt ac i lynu at delerau trwyddedau hawlfraint. Os bydd unigolyn yn torri deddfwriaeth neu drwyddedau hawlfraint gellid dwyn achos cyfreithiol yn erbyn yr unigolyn neu’r Brifysgol. Mae’r Brifysgol yn ystyried bod torri hawlfraint yn fater difrifol iawn a gallai gymryd camau disgyblu pe byddai hynny’n digwydd.

4.2 Caniatâd

4.2.1 Rhaid peidio â thresmasu ar hawliau neilltuedig deiliaid trwyddedau.  Yr hawliau neilltuedig hynny yw:

  • Copïo’r gwaith
  • Dosbarthu copïau i eraill
  • Perfformio, dangos neu chwarae’r gwaith yn gyhoeddus
  • Cyfleu’r gwaith i’r cyhoedd
  • Gwneud addasiad neu wneud unrhyw un neu rai o’r uchod yng nghyswllt addasiad

4.2.2    Cyn copïo neu ddefnyddio deunydd y mae rhywun arall yn awdur arno mewn unrhyw ffordd, rhaid i’r unigolyn bennu a yw’r deunydd hwnnw’n destun hawlfraint drwy ystyried a yw’r defnydd y bwriedir ei wneud ohono naill ai

  • Yn gyfreithlon o dan eithriad statudol,
  • Wedi’i ganiatáu o dan gyfraith “delio’n deg” neu gyfraith arall, neu
  • Wedi’i ganiatáu drwy drwydded

4.2.3 Os nad oes yr un o’r uchod yn berthnasol, rhaid i’r unigolyn gael caniatâd deiliad yr hawlfraint. Dylai’r sawl a ofynnodd am y caniatâd gadw’r caniatâd hwnnw hyd nes na fydd angen defnyddio’r deunydd sydd dan hawlfraint mwyach. Os trosglwyddir y deunydd sydd dan hawlfraint i archif, rhaid trosglwyddo’r dogfennau caniatâd hefyd.

4.3 Canllawiau a gweithredu

4.3.1 Mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu arweiniad manwl ar gyfraith hawlfraint a’r trwyddedau sefydliadol y mae’n llofnodwr iddynt.  Mae’r manylion ar gael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/copyright/ 

Disgwylir i’r staff a’r myfyrwyr ymgyfarwyddo â’r canllawiau hyn a’u rhoi ar waith bob amser wrth ymdrin â gwaith sydd dan hawlfraint.

4.3.2 Bydd y Brifysgol yn gosod hysbysiadau hawlfraint gerllaw pob offer perthnasol y gellid eu defnyddio i atgynhyrchu deunydd sydd dan hawlfraint.

4.3.3 Os bydd staff neu fyfyrwyr y Brifysgol yn ansicr ynghylch eu bwriad i atgynhyrchu neu ailddefnyddio gwaith trydydd parti sydd dan hawlfraint, gallant gysylltu â:

Gwasanaethau Gwybodaeth  Prifysgol Aberystwyth is@aber.ac.uk neu ffonio est.2400.

4.4 Cydymffurfio a chosbau

Yn ogystal â’r rhwymedïau a ddarperir o dan y gyfraith i ddeiliaid hawlfraint (a all fod yn erbyn y tresmaswr a/neu’r Brifysgol):

4.4.1 Os bydd unrhyw achos lle y mae aelod o staff cyflogedig y Brifysgol yn camymddwyn yng nghyswllt y polisi hwn neu’n mynd yn groes iddo, gellid cymryd camau disgyblu o dan weithdrefnau priodol y Brifysgol.

4.4.2 Ymdrinnir ag achosion lle y mae myfyrwyr yn mynd yn groes i’r polisi fel achosion o gamymddwyn academaidd a bydd y gweithdrefnau disgyblu safonol yn berthnasol.

4.5 Cymeradwyo a Diwygio’r Polisi

Caiff y polisi hwn ei oruchwylio gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth sydd wedi’i awdurdodi i wneud mân ddiwygiadau, cywiriadau a phwyntiau o eglurhad i’r polisi hwn.  Bydd diwygiadau sylweddol sy’n effeithio ar fwriad a dyhead y polisi’n destun adolygu a chymeradwyo gan Weithrediaeth y Brifysgol.

5. Deddfwriaeth Berthnasol, Codau Ymarfer ac ati

Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 (legislation.gov.uk)

Canllawiau Llywodraeth San Steffan ar hawlfraint: Intellectual property: Copyright - detailed information - GOV.UK (www.gov.uk)

6. Polisïau a Gweithdrefnau Cysylltiedig

  • Rheolau a Rheoliadau Myfyrwyr

 

Mae'r Polisi hwn yn cael ei gynnal gan Julie Hart, Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ym mis Mehefin 2022 a bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Mehefin 2023.