Digwyddiadau
Rydym yn rhedeg nifer o ddigwyddiadau gwahanol yn ystod y flwyddyn.
Gweler isod rhestr o'r digwyddiadau sydd ar y gweilch.
Problemau mewn Geiriadura Celtaidd (I)
Stokesday / Dydd Stokes / Lá Stokes, Aberystwyth
Cynhelir y gynhadledd undydd hon ar y 6ed o Fehefin yn Nhŷ Trafod, Canolfan Delweddu, Prifysgol Aberystwyth i agor cyfres o gyfarfodydd academaidd blynyddol o ieithyddion a ffilolegwyr sy'n gweithio ym maes geiriaduraeth Geltaidd. Mae geiriaduraeth yn ddisgyblaeth ysgolheigaidd sy'n astudio geirfa a'r grefft o lunio geiriaduron, a gellir adnabod olion geiriaduraeth mor gynnar â diwedd y 4ydd mileniwm CC, gyda'r enghreifftiau cyntaf y gwyddys amdanynt yn destunau cynffurf (cuneiform) Sumeraidd. Defnyddid y gair dictionarium erbyn diwedd y 14eg ganrif, ac mae cyfrifiaduron wedi newid geiriaduraeth tua diwedd y ganrif ddiwethaf. Gan fod Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd wedi dechrau prosiect ymchwil i gynhyrchu Geiriadur o Hen Gelteg Prydain ac Iwerddon, a ariennir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme, ymddangosai'n rhesymol dechrau trafodaeth ysgolheigaidd ar wahanol broblemau ynglŷn â gwneud geiriaduron, sydd â sawl agwedd o ran natur. Yn wir, rhaid inni ofyn cwestiynau am lunio corpora, dyfnder ac onglau dadansoddi geiriau unigol, maint yr enghreifftiau a system y croesgyfeiriadau, rôl sylwebaethau etymolegol a gramadegol – a dim ond brig y mynydd iâ yw hyn. Bydd y gyfres hon o gwestiynau yn cael ei thrafod gan eiriadurwyr nodedig sy'n gweithio ar eiriaduron ieithoedd Celtaidd modern a chanoloesol (Cymraeg, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Manaweg) yn ogystal â Chelteg hynafol ac ieithoedd eraill sydd wedi bod mewn cysylltiad ag ieithoedd Celtaidd yn hanesyddol. Gan mai Prifysgol Aberystwyth yw cartref y Geiriadur Eingl-Normanaidd, a bod Canolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd Prifysgol Cymru, sydd hefyd wedi'i lleoli yn Aberystwyth, yn gartref i Geiriadur Prifysgol Cymru, y geiriadur Cymraeg hanesyddol, mae Aberystwyth yn lleoliad perffaith ar gyfer cyfarfodydd o'r fath, a elwir yn Stokesday / Lá Stokes i gyfateb i Bloomsday (Lá Bloom), a gynhelir yn flynyddol yn Nulyn ym mis Mehefin. Dyma ein teyrnged i Whitley Stokes (1830 – 1909), iethydd Celtaidd arloesol.
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim. Gweler isod y rhaglen:
6 Mehefin 2026: 9.30- 17.40
Tŷ Trafod
Adeilad Delweddu, Campws Penglais, Aberystwyth, SY23 3BF
| Amser | |
|---|---|
| 09.30 – 11.20 |
Simon Rodway (Prifysgol Aberystwyth): Sylwadau agoriadol. Bernhard Maier (Prifysgol Tübingen): Whitley Stokes and Celtic lexicography: the evidence of his correspondence. Andrew Hawke (Geiriadur Prifysgol Cymru, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru): Problems of Welsh Lexicography: the view from GPC. |
|
Coffi |
|
|
11.50 – 13.00 |
David Stifter (Prifysgol Maynooth): Corpus PalaeoHibernicum – Developing a lexical database of Old Irish. Karen Jankulak (Geiriadur Eingl-Normaneg, Prifysgol Aberystwyth): Celtic in the Anglo-Norman Dictionary. |
|
Cinio |
|
|
14.15 – 15.50 |
Alexander Falileyev (Prifysgol Aberystwyth): Dictionary of Early Celtic of Britain and Ireland: counting problems. Juan Luis García-Alonso (Prifysgol Salamanca): Etymologizing Hispano-Celtic: Challenges in Identifying Reliable Lexicographical Units in Fragmentarily Attested Languages. Ranko Matasović (Prifysgol Zagreb): Which words cannot be found in the Etymological Dictionary of Proto-Celtic (and why). |
|
Te |
|
|
16.10 – 17.40 |
David Mandić (Faclair na Gàidhlig, Caeredin): Some editorial dilemmas in Faclair na Gàidhlig. Christopher Lewin (Prifysgol Caeredin): Manx lexicography: background, opportunities, challenges. Simon Rodway (Prifysgol Aberystwyth): Cau pen y mwdwl. |

Lansiad Llyfrau

Hydref 2025 - Oktoberfest at the Mouth of Στουκκία, 25 Mlynedd o Hen Gelteg yn Aberystwyth
25 Years of Ancient Celtic at Aberystwyth / 25 Mlynedd o Hen Gelteg yn Aberystwyth
25 Hydref 2025
Tŷ Trafod
Y Ganolfan Ddelweddu, Campws Penglais, Aberystwyth, SY23 3BF
Printable Microsoft Word version of the Program
| Amser | |
|---|---|
| 09:30 - 11:20 |
Simon Rodway (Prifysgol Aberystwyth): Introduction: 25 Years of Ancient Celtic studies at Aberystwyth. Patrick Sims-Williams (Prifysgol Aberystwyth): The Celticity of “Celtic Britain”. Nicholas Zair (University of Cambridge) & Mark Darling (Julius-Maximilians-Universität Würzburg): Celtic in the curse tablets from Uley. |
|
Egwyl paned |
|
| 11:50 - 13:00 |
Torsten Meissner (University of Cambridge): Some (very) British names. David Parsons (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru): Celtic before Cornish: some thoughts on the earliest linguistic evidence from south-western England. |
| Egwyl ginio | |
| 14:15 - 15:50 |
Alexander Falileyev (Prifysgol Aberystwyth): ‘New’ Gaulish names from Aquitania and their importance for Celtic historical grammar Juan Luis García-Alonso (University of Salamanca): Again on Hispano-Celtic vs Celtiberian: was there a Non-Celtiberian Celtic in Northern Hispania? Corinna Salomon (University of Vienna): Graphematical considerations regarding the Greek supplementary letters in Gallo-Latin inscriptions. |
| Egwyl paned | |
| 16:10 - 17:40 |
John T. Koch (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru): PIE > Celtic: implications of new evidence for an updated working hypothesis. Luka Repanšek (University of Ljubljana): Back to the Perfect: Reconsidering the 3rd sg. perfect ending of *CeH-roots in Ancient Celtic. Simon Rodway (Prifysgol Aberystwyth): Closing remarks. |

Cwrs Preswyl
Bob haf, cynhelir Cwrs Preswyl yr Adran ar gyfer disgyblion ysgol Cymraeg blwyddyn 12 ar gampws y Brifysgol yn Aberystwyth. Darperir rhaglen wych o sesiynau amrywiol ar wahanol agweddau ar y cwricwlwm Safon Uwch gan aelodau o staff yr Adran, awduron ac arbenigwyr eraill. At hynny, darperir llety, swper a brecwast yn Neuadd Pantycelyn, ynghyd ag adloniant gyda'r hwyr.
Seminarau
Mae'r Adran yn cynnal cyfres o Seminarau bob Semester, ac yn gwahodd academyddion o Aber a thu hwnt i gyflwyno papur ar destun o'u dewis.
Gellir dod o hyd i recordiad o Seminarau blaenorol ar Sianel YouTube yr adran.
Am ragor o wybodaeth neu am restr o'r Seminarau sydd i ddod, ewch i dudalen Gylchgrawn Ar-lein "Y Ddraig".
