Prosiect Achyddol Bartrum

Dyfarnwyd £304,839 i Dr Bleddyn Huws, yr Athro Gruffydd Aled Williams a’r Athro Patrick Sims-Williams o Gronfa Datblygu Adnodd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) ar gyfer prosiect ymchwil newydd, creu fersiwn electronig chwiliadwy o weithiau enwog Dr Peter C. Bartrum ar yr achau Cymreig, sef Welsh Genealogies A.D. 300 – 1400 (1974, argraffiad diwygiedig 1981), a Welsh Genealogies A.D. 1400 – 1500 (1983).  Bydd y gwaith terfynol, a gyhoeddir ar ffurf gwefan a DVD, yn cynnwys diwygiadau cyhoeddedig ac anghyhoeddedig yr awdur ei hun.

Cychwynnwyd y gwaith yn Hydref 2006.  Penodwyd Dr Gwen Angharad Gruffudd yn Ymchwilydd Ôl-Ddoethurol ar y prosiect, Dr Iwan Price yn Gynorthwydd Gweinyddol, a Claire Melton o’r Adran Gyfrifiadureg yn Ymgynghorydd Bas-Data rhan amser.

Ystyrir bod y gweithiau hyn yn adnodd hollbwysig i haneswyr ac ymchwilwyr ym maes y celfyddydau a noddid gan yr uchelwyr sy’n cael eu coffáu yn yr achau, sef yn benodol llenyddiaeth, pensaernïaeth, a herodraeth. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, y maent yn gyfrolau pur anodd cael gafael arnynt (gyda dim ond un set yn yr Alban i gyd, er enghraifft), ac y mae’r set a gyflwynwyd i Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, gan y diweddar P. C. Bartrum ei hun yn unigryw gan ei bod yn cynnwys yr holl ddiwygiadau a wnaethpwyd ganddo rhwng dyddiad cyhoeddi’r gwaith a mis Hydref 2004.

Anelir at lansio’r wefan a chyhoeddi’r DVD, a fydd yn cynnwys llyfryn Cymorth i Ddefnyddwyr, erbyn diwedd 2009. Am ragor o fanylion, cysylltwch ag Adran y Gymraeg ar cymraeg@aber.ac.uk neu ewch i: www.aber.ac.uk/aberonline/cy/archive/2006/11/uwa11506/