Prosiect Achyddol Bartrum
01 Tachwedd 2006
Cychwynnwyd y gwaith yn Hydref 2006. Penodwyd Dr Gwen Angharad Gruffudd yn Ymchwilydd Ôl-Ddoethurol ar y prosiect, Dr Iwan Price yn Gynorthwydd Gweinyddol, a Claire Melton o’r Adran Gyfrifiadureg yn Ymgynghorydd Bas-Data rhan amser.
Ystyrir bod y gweithiau hyn yn adnodd hollbwysig i haneswyr ac ymchwilwyr ym maes y celfyddydau a noddid gan yr uchelwyr sy’n cael eu coffáu yn yr achau, sef yn benodol llenyddiaeth, pensaernïaeth, a herodraeth. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, y maent yn gyfrolau pur anodd cael gafael arnynt (gyda dim ond un set yn yr Alban i gyd, er enghraifft), ac y mae’r set a gyflwynwyd i Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, gan y diweddar P. C. Bartrum ei hun yn unigryw gan ei bod yn cynnwys yr holl ddiwygiadau a wnaethpwyd ganddo rhwng dyddiad cyhoeddi’r gwaith a mis Hydref 2004.
Anelir at lansio’r wefan a chyhoeddi’r DVD, a fydd yn cynnwys llyfryn Cymorth i Ddefnyddwyr, erbyn diwedd 2009. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Dr Gwen Gruffudd ar grg@aber.ac.uk neu ewch i: www.aber.ac.uk/aberonline/cy/archive/2006/11/uwa11506/