Ennill Gwobr Vernam Hull 2007
Dyfarnodd Prifysgol Cymru Wobr Vernam Hull am
2007 i Dr Ian Hughes, Darlithydd Hŷn yn yr Adran, am ei gyfrol Manawydan Uab
Llyr: Trydedd Gainc y Mabinogi.
Ennill Grant Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau
Dyfarnwyd grant ymchwil sylweddol o £390,889 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau i'r Athro Patrick Sims-Williams.
Cronfa Goffa Thomas Ellis, Prifysgol Cymru 2007
Llongyfarchiadau i Dr Robin Chapman ar ennill £750 o Gronfa Goffa Thomas Ellis Prifysgol Cymru, tuag at ysgrifennu cyfrol ar Lenyddiaeth Gymraeg c. 1740-2005 i gyfres The Oxford Literary History of Wales.
Ymweliad Dr Michael Siddons
Cafodd yr Adran Gymraeg y fraint o groesawu Dr Michael Siddons fel rhan o’i ymweliad ag Aberystwyth a oedd yn cyd-daro ag ymddangosiad ei gyfrol ddiweddaraf, sef cyfrol rhif IV yn y gyfres The Development of Welsh Heraldry.
Cronfa Goffa Thomas Ellis, Prifysgol Cymru
01 Ionawr 2007
Llongyfarchiadau i Dr Robin Chapman ar ennill £750 o Gronfa Goffa Thomas Ellis Prifysgol Cymru, tuag at ysgrifennu cyfrol ar Lenyddiaeth Gymraeg c. 1740-2005 i gyfres The Oxford Literary History of Wales.
Dwned 2007
01 Mawrth 2007
Mae'r rhifyn hwn o'r cylchgrawn Dwned a olygir gan Dr Bleddyn Huws o'r Adran a Dr A. Cynfael Lake o Brifysgol Abertawe yn cynnwys yr erthyglau gan y cyfrannwyr canlynol:
Ennill Gwobr
01 Ebrill 2007
Dyfarnodd Prifysgol Cymru Wobr Vernam Hull am 2007 i Dr Ian Hughes, Darlithydd Hyn yn yr Adran, am ei gyfrol Manawydan Uab Llyr: Trydedd Gainc y Mabinogi. Dyfernir y wobr (£1,000) yn flynyddol i’r gwaith gorau yn ymwneud â rhyddiaith Gymraeg cyn 1700.
Cystadleuaeth y Gadair
05 Mai 2007
Roedd gan y pedwar bardd a ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth hon eleni gysylltiadau gyda'r Adran Gymraeg.