Ennill Cadeiriau

Ceri Meredydd Jones

Ceri Meredydd Jones

25 Tachwedd 2009

Llwyddodd myfyrwraig o’r drydedd flwyddyn, Ceri Meredydd Jones (i’w gweld yn y llun), i gipio Cadair Eisteddfod Ffermwyr Ifainc Meirionnydd yn ddiweddar. Derbyniodd Ceri ganmoliaeth fawr gan y beirniad am ei stori fer fuddugol ‘Amdani’ mewn cystadleuaeth o safon uchel. Mae Ceri’n  aelod o Glwb Ffermwyr Ifanic Maesywaun. Llongyfarchiadau hefyd i Ffion Eluned Owen (Blwyddyn 1af) ar ennill Cadair Eisteddfod Gylch Eryri.