Athrawes Gymraeg

Enw:

       
Llinos Jones

Cartref:

Dinbych

Teitl Swydd:

Athrawes Gymraeg

Sefydliad:

Ysgol Glan Clwyd 

Disgrifiad:

Yn ystod fy mlwyddyn olaf fel myfyriwr ar y cwrs Cymraeg Proffesiynol, daeth yr amser i benderfynu beth oeddwn i am ei wneud wedi i mi raddio. Cwrs meistr, ymgeisio am swyddi yntau mynd i weithio ym myd addysg? Roeddwn i'n bendant eisiau dilyn gyrfa a oedd yn ymwneud â'm gradd a'r iaith Gymraeg. Mae'n rhaid cyfaddef, roedd hi'n gyfnod dryslyd a minnau'n methu'n glir â phenderfynu beth i'w wneud nesaf!

Yn y pen draw, penderfynais ymgeisio am le ar gwrs TAR Uwchradd Cymraeg, sef cwrs blwyddyn er mwyn hyfforddi i fod yn athrawes Gymraeg mewn ysgol uwchradd. Roedd y cwrs yn cynnwys cyfnod byr yn y brifysgol mewn darlithoedd a gweithdai yna tymor yr un mewn dwy ysgol uwchradd wahanol ar brofiad dysgu. Bûm yn ffodus iawn o gael dwy ysgol gefnogol iawn yn ystod fy mhrofiad a'm paratôdd i'r dim ar gyfer ymgeisio am swyddi a dysgu Cymraeg fel pwnc i ddisgyblion o flynyddoedd 7-13. Roedd hi'n flwyddyn hynod o brysur rhwng cynllunio gwersi, cwblhau aseiniadau a myfyrio ar fy nysgu fy hun, ond yn bendant bu'r cwrs yn fuddiol dros ben wrth fy mharatoi'n drylwyr at fyd addysg.

Derbyniais swydd yn fy hen ysgol uwchradd, sef Ysgol Glan Clwyd, ac yno rwy'n gweithio ar hyn o bryd fel athrawes Gymraeg a Llythrennedd yn addysgu disgyblion o gyfnod allweddol tri a phedwar. Roedd hi'n eithaf rhyfedd dychwelyd yn ôl i'm hen ysgol a derbyn nad disgybl oeddwn i bellach, ond athrawes gydag awdurdod a chyfrifoldeb! Ond buan yr arferais gyda'm swydd ac rwyf bellach wrth fy modd yn gweithio gyda rhai o'r athrawon a'm hysbrydolodd i ddilyn yr yrfa wobrwyol hon.
Fel athrawes Gymraeg a Llythrennedd, rwy'n cael rhannu fy ngwybodaeth am yr iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth, pwnc sydd yn amlwg o ddiddordeb mawr i mi, gyda disgyblion o wahanol oedrannau a sicrhau eu bod nhw'n mwynhau dysgu amdani hefyd.

Ond oes, mae'n rhaid cael llawer o amynedd wrth wneud y swydd hon wrth addysgu plant o bob gallu a chefndir. Yn bendant mae gofyn i chi fod yn drefnus wrth gynllunio, asesu a datblygu’r disgyblion yn ddysgwyr annibynnol. Gall fod yn her ar adegau, ac mae plant yn siŵr o'ch profi chi!! Ond mae'n swydd sydd â chymaint o amrywiaeth a mwynhad iddi - ac mae'n bosib dysgu ambell bell gan eich disgyblion o bryd i'w gilydd, hefyd!

Diwrnod arferol:

Rwy'n cyrraedd yr ysgol am 8:20 y bore er mwyn paratoi ychydig o bethau at fy ngwersi, yna mae'r disgyblion yn cyrraedd am 8:55. Wedi pum gwers, awr o hyd, mae'r ysgol yn gorffen am 3:40 a dwi fel arfer yn gadael tua 4:30. Wrth gwrs, fel athrawes, mae 'na waith marcio a chynllunio ar ôl ysgol, ond rhaid cofio nad pob swydd sy'n cael bron i 13 wythnos o wyliau mewn blwyddyn! Felly, oes, mae 'na lwyth gwaith uchel, ac mae 'na wastad rhywbeth i'w wneud neu i'w gynllunio, ond mae'n braf nad oes unrhyw ddiwrnod yr un fath yn yr ysgol.

Fy hoff beth!: 

Un o'm hoff bethau am fod yn athrawes yw cael gweithio gyda phlant a phobl ifanc a'u gweld yn llwyddo ac yn mwynhau. Nid o reidrwydd gweld disgybl yn ennill marciau llawn mewn prawf yw 'llwyddiant' - wrth weld disgybl sy'n casáu darllen yn cyfaddef ei fod wedi mwynhau'r nofel ddosbarth, disgybl o flwyddyn 10 yn gweld perthnasedd cerdd TGAU gyda'u bywyd bob dydd, neu gael rhiant yn dweud fod eu plentyn wrth eu bodd gyda fy ngwersi. Gall y pethau lleiaf roi gwên ar fy wyneb a gwneud i mi deimlo fy mod innau wedi llwyddo i gael effaith ar fywydau’r plant mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, a dyna un o'r pethau gorau am fy swydd.

Cymwysterau: 

 BA Cymraeg Proffesiynol, TAR Uwchradd Cymraeg

Sgiliau Allweddol:

Sgiliau cyfathrebu, sgiliau ysgrifenedig, y gallu i reoli amser, trefnusrwydd, ac amynedd!.