Cynorthwyydd Camera dan Hyfforddiant

Enw:

       
Sam Rhys James

Cartref:

Aberystwyth

Teitl Swydd:

Cynothwyydd Camera dan Hyfforddiant

Sefydliad:

Y Gwyll / Hinterland

Disgrifiad:

Wedi imi raddio o Brifysgol Aberystwyth yn haf 2014 cefais gyfle i weithio fel Rhedwr y Cynhyrchiad ar ail gyfres Y Gwyll / Hinterland. Fe ddaeth y swydd o ganlyniad i wythnos o brofiad gwaith a gefais ar y gyfres gyntaf a byddaf yn dragwyddol ddiolchgar i’r brifysgol am drefnu’r profiad gwaith hwnnw ac agor y drws imi i’r diwydiant rhyfedd ond arbennig yma sydd wedi troi fy mywyd yn wyneb i waered.

Yn fy nghyfweliad gwreiddiol (nad oedd yn llawer fwy na choffi hamddenol un prynhawn heulog yn Aberystwyth) roedd fy narpar gyflogwyr wrth eu boddau gyda’r ffaith bod gen i radd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg. Mewn gwirionedd roedd fy ngradd yn un gyfun Cymraeg a Drama (er imi gymryd llawer o fodiwlau ymarferol ffilm a theledu hefyd) ond roedd yn amlwg bod cael rhywun gyda Chymraeg ysgrifenedig da yn gweithio yn y swyddfa yn bwysicach i’r cwmni cynhyrchu na chyflogi’r Spielberg nesaf ac rwy’n hyderus mai’r cymysgedd o sgiliau ieithyddol ac ymarferol a roddodd y fantais imi dros ymgeiswyr eraill.

Diolch i’r cysylltiadau a fagais ar ail gyfres Y Gwyll cefais gyfle i weithio ar nifer o gynyrchiadau eraill y llynedd megis The Bastard ExecutionerHolby City a Byw Celwydd a bellach rwyf wedi symud o’r swyddfa i’r set ac rwy’n gweithio i’r adran gamera. Er nad yw safon fy Nghymraeg mor hanfodol ar hyn o bryd mae’n dal i fod yn ddefnyddiol iawn o ddydd i ddydd ac rwy’n bendant y bydd hi o fudd mawr imi yn y dyfodol. Does dim syndod bod cynifer o ddarlledwyr, cyflwynwyr, actorion, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, sgriptwyr ayyb wedi dechrau drwy astudio’r Gymraeg yn y Brifysgol. Mae angen sgiliau iaith cryf ar gyfer swyddi tebyg ac rwy’n annog unrhyw un sy’n bwriadu gweithio yn y cyfryngau Cymraeg i astudio’r Gymraeg yn Aberystwyth ynghyd â Ffilm a Theledu, Gwleidyddiaeth, Newyddiaduriaeth, Drama ayyb. Yn sicr mae’ch iaith yn sylfaen bwysig i bob math o swyddi ond mae angen iddi fod yn hyderus a chryf os ydych chi am ei defnyddio yn broffesiynol – felly ewch amdani ac astudiwch y Gymraeg! 

Diwrnod arferol:

Mae oriau gwaith y criw yn newid o ddydd i ddydd (yn dibynnu ar ba fath o olau sydd ei angen ar gyfer y golygfeydd a drefnwyd ar gyfer y diwrnod hwnnw) ond byddai modd ystyried wyth o’r gloch y bore i saith o’r gloch y nos yn oriau saethu arferol. Mae brecwast ar gael o’r tryc arlwyo am saith o’r gloch y bore ac mae’n syniad da cyrraedd o leiaf hanner awr cyn i’r diwrnod ddechrau’n swyddogol fel bod digon o amser am frecwast mawr a phaned o goffi, teithio i’r lleoliad a dechrau paratoi’r offer. Fel afer ceir awr o ginio ond weithiau does dim amser stopio’n llwyr am fwyd ac rydym ni’n parhau i weithio wrth fwyta. Mae’r oriau yn hir a chaled ac mae’n rhaid bod yn barod i dreulio wythnosau a misoedd heb weld eich teulu a ffrindiau, ond mae’r gwaith yn talu’n dda a byddwn i’n argymell y
diwydiant yma i unrhyw un sydd â diddordeb ynddo.

Mae’r set yn lle hwylus a chyffrous i weithio ynddi ond mae’n rhaid ymddwyn yn barchus a chanolbwyntio’n galed drwy’r dydd wrth geisio’ch gorau i gadw’n hapus a phositif dan amgylchiadau anodd. Weithiau rydym ni’n saethu tu allan yn y gwynt a’r glaw ac mae’n sialens cadw’r holl offer gamera (sy’n werth cannoedd o filoedd o bunnoedd) yn sych a glân, neu weithiau rydym ni’n saethu mewn lleoliadau bychain a thywyll sy’n anoddach fyth oherwydd cyfyngiadau gofod a golau. Mae’n rhaid bod yn barod ar gyfer unrhyw beth a byddai’r cyfrifoldeb ariannol yn ogystal ag iechyd a diogelwch sydd ynghlwm â’r adran gamera yn ymddangos yn eithaf brawychus pe bai amser imi stopio ac ystyried y peth. Serch hynny rwyf wrth fy modd gyda fy ngwaith a phan mae’r tywydd yn braf ac rwy’n rasio o gwmpas yn hel lens, batri neu ffilter, yn helpu i osod y camera, llwytho’r tryc, marcio symudiadau’r actorion neu’n taro’r clepiwr ar ryw leoliad anhygoel yng nghefn gwlad fy mro enedigol, rwy’n gwybod mai dyma’r swydd i mi. 

Fy hoff beth!: 

Perfformio gyda’r Hinterband – sef band roc wedi’i greu o aelodau o’r criw a’r actorion Richard Harrington a Hannah Daniel o’r sioe.

Cymwysterau: 

BA Cymraeg a Drama. Ar hyn o bryd rwy’n astudio’r MA Ysgrifennu Creadigol yn rhan amser gydag Adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth. Diolch i hyblygrwydd a help yr adran rwyf wedi llwyddo i gwblhau’r seminarau a’r gwaith cwrs hyd yma o gwmpas fy ngwaith.

Sgiliau Allweddol:

Mae angen gwybodaeth dechnegol a sgiliau ymarferol wrth gwrs ond y peth pwysicaf yn fy marn i yw cadw agwedd bositif a gwên fawr er gwaetha’r amgylchiadau.