Swyddog Datblygu Cymunedol

Enw:

       
Hannah Roberts

Cartref:

Brynmawr, Blaenau Gwent

Teitl Swydd:

Swyddog Datblygu Cymunedol

Sefydliad:

Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

Disgrifiad:

Dechreuais i ddysgu’r Gymraeg drwy ddamwain mewn gwirionedd. Nid wyf yn dod o deulu sy’n siarad Cymraeg. Nid wyf yn dod o ardal sy’n defnyddio’r Gymraeg yn agored. Roeddwn gartref un haf o’r brifysgol ac edrychais am ‘rywbeth’ i’w wneud i ladd amser. Y ‘rhywbeth’ hwnnw oedd dysgu’r Gymraeg ar gwrs blasu Cymraeg i Oedolion. Pan es i yn ôl i’r brifysgol yn Aberystwyth i barhau gyda fy astudiaethau mewn Daearyddiaeth, sylweddolais i fy mod eisiau astudio mwy o Gymraeg. Gyda hynny, gofynnais i Adran y Gymraeg a oedd hi’n bosib imi newid i’w chwrs ar gyfer dechreuwyr pur. Rhoddodd tynged gyfle imi. Roeddwn yn lwcus iawn, a dechreuais i ddilyn y cwrs hwnnw yn 2010. Nid wyf yn edifarhau am ddim.

Erbyn hyn mae gennyf radd yn y Gymraeg ac rwy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg bob dydd. Mae’r cwrs yn y brifysgol wedi fy mharatoi ar gyfer y byd Cymraeg ac wedi rhoi sgiliau llafar ac ysgrifenedig imi. Roedd y cwrs yn ddwys ond yr oedd yn fy siwtio i’r dim; roedd yn brofiad cwbl fuddiol ac roedd llawer o gyfleoedd fel canlyniad.

Heddiw rwyf yn gweithio’n llawn amser gyda Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy. Yn y bôn, fy ngwaith yw hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn y cymunedau hyn. Rydym yn anarferol oherwydd ni yw’r unig un sy’n gyfrifol am dair sir ac felly mae’n rhaid imi weithio yn y tair ardal. Mae llawer o deithio ond llawer o amrywiaeth hefyd.

Diwrnod arferol:

Nid oes diwrnod arferol! Mae oriau gweithio yn dibynnu ar brosiectau neu ddigwyddiadau sy’n mynd ymlaen, felly, mae’n rhaid bod yn hyblyg.

O ganlyniad, mae’r hyn y byddaf i’n ei wneud o ddydd i ddydd yn dibynnu a wyf yn gweithio yn y gymuned neu yn y swyddfa. Mae gwaith swyddfa fel arfer yn golygu trefnu digwyddiadau, cynllunio sesiynau gwahanol a gweinyddiaeth, hysbysebu a marchnata digwyddiadau, diweddaru’r wefan, ymdrin â’r wasg leol a chenedlaethol. Mae’r math o waith rwy’n ei wneud yn golygu fy mod alaln yn y gymuned y rhan fwyaf o’m hamser ac yn gweithio gyda phobl. Rwy’n gweithio gyda phob oedran a rhuglder: mae enghreifftiau o bethau rwyf yn eu gwneud yn cynnwys boreau coffi, sesiynau amser stori a chân, gwaith ieuenctid, rheoli clybiau carco, sesiynau ymwybyddiaeth iaith, sesiynau gwyliau ar gyfer plant, coginio, grwpiau trafod, teithiau…..mae’r rhestr yn ddiddiwedd!

Wrth gwrs, roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn un o’n hardaloedd yn 2016, felly gweithiais i’n agos gydag un o’r pwyllgorau i godi arian ac wedyn ar y maes yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Mae’r math hwn o waith yn gofyn ichi weithio ar y cyd yn aml â mudiadau eraill, felly mae llawer o gyfleoedd i ddatblygu pethau neu i ddechrau rhywbeth newydd ac arbrofi gyda syniadau.

Fy hoff beth!: 

Amrywiaeth, cyfle i fynd allan i’r gymuned a chwrdd â phobl.

Cymwysterau: 

BA Cymraeg.

Sgiliau Allweddol:

• Y gallu i gyfathrebu â phob oedran a rhuglder.
• Y gallu i weithio’n annibynnol.
• Y gallu i yrru.
• Sgiliau ysgrifenedig a llafar yn y Gymraeg a’r Saesneg.
• Hyblygrwydd.
• Y gallu i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.