Adam Rowe 1969-2012

Bu Adam Rowe yn Aberystwyth o 1988 i 1991, gan astudio'r Clasuron a Saesneg ac yn byw yn Neuadd Ceredigion ar lan y môr. Yn ystod ei gyfnod fel ‘Ceri boy’, roedd yn 'Rag Rep', ac fe drefnodd sawl taith i godi arian, gan lwyddo i godi miloedd ar gyfer elusennau. Bu hefyd yn Swyddog Adloniant, gan drefnu gweithgareddau cymdeithasol y neuadd. Ymdaflodd i'r ddwy dasg yn frwd ac yn siriol, gan ysbrydoli eraill, yn enwedig myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf, i ymuno â'r hwyl a chymryd rhan weithgar ym mywyd y brifysgol. Roedd yn boblogaidd iawn ar draws y brifysgol.

Wedi graddio, gwnaeth doniau Adam am ysgogi ac argyhoeddi pobl eraill, ac am siarad lol, ei arwain at fyd telewerthu. Llwyddodd i weithio i fyny trwy nifer o bapuron newydd cenedlaethol a chyfnodolion gwleidyddol nes cyrraedd lefel uwch reoli. Ac yntau'n fyw yn Tonbridge, Caint, fe ddaeth yn gymudwr ac fe briododd â Diane, ond fe ddaeth y briodas i ben, yn anffodus. Cadwodd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth a hanes drwy ei oes, a’i brif hobïau oedd llyfrau, ffilmiau a dilyn Southampton FC yn ogystal â chymdeithasu gyda’i ffrindiau niferus.

Yn ystod dwy flynedd olaf ei oes, brwydrodd yn erbyn amryw o afiechydon, yn llawn gobaith a phenderfyniad. Er iddo fynd yn sâl iawn ac er i mi ymweld ag ef yn yr ysbyty yn aml, ni wnes i erioed ei weld yn ddigalon nac yn isel; roedd ganddo ei wên enwog neu ei olwg direidus bob amser.

Bu farw Adam ar 26ain o Hydref 2012 o achos clefyd yr iau, yn 42 oed. Daeth llawer i'w angladd yn Kettering, yn ffrindiau, yn berthnasau ac yn gydweithwyr. Fe fydd colled fawr ar ei ôl.

Keith Nevols