Colten Hughes (1991 - 2020)

Gyda thristwch mawr y cofnodwn farwolaeth Mr Colten Hughes. Graddiodd Colten ‘Colt’ Hughes o Ysgol Busnes Aberystwyth yn 2017 gyda BSc mewn Busnes a Rheolaeth. I lawer, Colt oedd ein Americanwr hwyliog oedd yn hynod o boblogaidd gyda staff a myfyrwyr. Caiff ei gofio’n annwyl iawn gan bawb oedd yn ei adnabod. Roedd Colt yn fyfyriwr talentog a chyfrannodd yn llawn i fywyd y Brifysgol. Roedd ein staff yn hoff iawn ohono a bydd pawb oedd yn ei adnabod yn gweld ei eisiau’n fawr. Ein cydymdeimlad diffuant â’r teulu.


Yr Athro Andrew Thomas
Pennaeth Adran – Ysgol Busnes Aberystwyth

Ganwyd Colten “Colt” Curtis Hughes ar 17 Tachwedd, 1991, yn Lacrosse, Wisconsin. Roedd yn fab i Curtis a Tressa (Trailer) Hughes. Bedyddiwyd Colt pan oedd yn fabi ac fe’i conffyrmiwyd yn ei ffydd fel llanc yn Eglwys Lwtheraidd Faith yn Hutchinson. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Ridgewater yn Hutchinson ac yn ddiweddarach mynychodd Brifysgol Aberystwyth gan astudio Rheolaeth Busnes.


Gwasanaethodd Colt gyda balchder yn y Minnesota National Guard. Yn ddiweddarach aeth i wasanaeth milwrol gweithredol ym Myddin yr Unol Daleithiau ar 24 Mai 2011 yn Hutchinson, gan wasanaethu ei wlad yn ystod Cyfnod Gwlff Persia. Derbyniodd Ryddhad Anrhydeddus ar 15 Hydref 2013, yn Fort Carson, Colorado.


Ar 12 Hydref, 2019, unwyd Colt mewn priodas gyda Gabriela Bernadetta Pytel ar Lyn Minnetonka. Roedd Colt a Gabriela yn byw yn Silver Lake, Minnesota.


Roedd Colt yn gweithio fel Dadansoddwr Cadwyn Gyflenwi yn 3M yn Hutchinson. Roedd yn aelod balch o’r VFW Post 906 yn Hutchinson.


Roedd Colt yn adnabyddus am ei galon garedig a’i wên ddiddiwedd, fyddai’n llonni diwrnod pawb. Byddai’n mwynhau ei feic modur, hela, pysgota a theithio. Roedd hefyd yn mwynhau grilio a thyfu llysiau. Roedd Colt yn stocddeiliad ac yn ddeiliad tocyn tymor balch Green Bay Packer. Roedd yn arbennig o hoff o dreulio amser gyda’i deulu a’i ffrindiau. Roedd gan Colt lawer o ffrindiau a theulu annwyl, ond yr anwylaf oedd Ryan ac Alexandria; Ryan oedd ei was priodas, a Colt oedd gwas priodas Ryan.


Bu farw Colt ddydd Sul 26 Gorffennaf, 2020, yn Hutchinson Health, yn 28 oed. Bendigedig fyddo’r cof amdano.
Mae Colt yn gadael: Gwraig, Gabriela Hughes o Silver Lake, MN; Rhieni, Curtis a Tressa Hughes o Silver Lake, MN; Siblingiaid, Shane Hughes o Minneapolis, MN, Kylie Hughes o Lacrosse, WI;

Llun https://www.hantge.com/obituaries/colten-colt-c-hughes/

Cymeradwywyd ei ddefnydd gan Hantge Funeral Chapels.