David Wilman (1936 - 2020)

Llun o David

David Wilman – Prifysgol Aberystwyth 1969-2002


Gyda thristwch mawr yr ysgrifennaf atoch i’ch hysbysu am farwolaeth Dr David Wilman, cyn-Ddarllenydd mewn Gwyddorau Amaethyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yntau’n 84 oed. Mae’n anhebygol fod llawer o gyn-athletwyr Olympaidd ymhlith staff Prifysgol Aberystwyth, heb son am athletwr fu’n cystadlu ddwy waith yn y Gemau Olympaidd, ond roedd David, a fu farw ar Awst 9ed 2020, yn ymgorfforiad o’r academydd a’r athletwr traddodiadol.   


Fe’i ganwyd yn Yeadon, Gorllewin Swydd Efrog, ac fe fynychodd Ysgol Ramadeg Bradford cyn Graddio mewn Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Leeds yn 1956. Yn dilyn hynny, cwblhaodd Ddiploma Uwchraddedig mewn Amaethyddiaeth (1957) a Doethuriaeth (1960) yn yr un Sefydliad. O 1960 hyd 1969, gweithiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt, i ddechrau fel Arddangoswr Fferm o 1960-63 ac yna fel Arddangoswr Prifysgol. Dyfarnwyd MA iddo yn 1964 a chafodd ei ethol yn Aelod o Trinity Hall yn 1965.


Blodeuodd ei yrfa ymchwil doreithiog wedi iddo gael ei benodi’n Ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1969, ac erbyn iddo ymddeol yn 2002 yr oedd wedi cyhoeddi dros 100 o bapurau ymchwil ynghyd â mwy na 30 o bapurau cynhadledd ac adolygiadau, yn bennaf ar dyfiant a maeth planhigion porthiant. Cafodd ei ddyrchafu yn Uwch Ddarlithydd yn 1979, ei benodi’n Ddarllenydd mewn Gwyddorau Amaethyddol yn 1998 a dyfarnwyd DSc Cymru iddo yn 1994, cydnabyddiaeth fod y gwaith a gyhoeddodd o werth rhyngwladol a’i gyfraniad sylweddol at ddysg yn y maes.


Yn ogystal â’i ddarlithio a’i ymchwil, ymgymerodd â nifer o swyddogaethau gweinyddol allweddol. Bu’n Gyfarwyddwr y Cwrs BSc Amaeth ac Astudiaethau Busnes am nifer o flynyddoedd ac fe elwodd llu o raddedigion o’i ofal academaidd a bugeiliol di-flino. Gwasanaethodd hefyd ar Bwyllgor Gweithredol y Gwyddorau Amaethyddol a Senedd y Brifysgol yn ogystal â Fforwm y Coleg.


Y tu allan i’r Brifysgol, treuliodd 13 mlynedd ar Fwrdd Golygyddol y Journal of Agricultural Science, Caergrawnt, ac yn Uwch Olygydd am y 3 mlynedd olaf.


Roedd rhagoriaeth David ar y meysydd chwarae wedi dod i’r amlwg erbyn ei ethol yn Gapten timau Hoci a Chriced y Brifysgol, ond fe gyrhaeddodd binacl ei yrfa fel athletwr (ddwy waith) pan gafodd ei ddewis i gynrychioli Tîm Hoci Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd yn 1964 (Tokyo) ac yn 1968 (Mexico). Efallai nad oedd symud i Aberystwyth yn ddoeth o ran hyrwyddo’i yrfa hoci rhyngwladol ond fe barhaodd i chwarae yn gystadleuol ac yn gymdeithasol tra yn Aberystwyth a pharhau i gynrychioli timau Prydain Fawr mewn grwpiau oedran gwahanol. Yn ystod yr amser hwn, datblygodd yn chwaraewr sboncen cystadleuol ac abl iawn hefyd.


Ymddeolodd David o Brifysgol Aberystwyth yn 2002 ac fe symudodd yntau a’i wraig Diane yn ol i Gaergrawnt, ond nid oedd llawer o arwyddion ei fod am arafu. Os oes angen tystiolaeth nad yw pobl weithgar yn ymddeol o ddifrif, ac i amlygu amrywiaeth ei ddiddordebau academaidd, aeth ymlaen i gwblhau MA mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, Diploma Uwch mewn Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Caergrawnt a daeth yn Diwtor Cwrs ym Mhrifysgol y Drydedd Oed yng Nghaergrawnt.


Ni ymddeolodd o’r byd hoci ychwaith gan iddo barhau i chwarae i Glwb Hoci Dinas Caergrawnt a’i ethol yn Is-Lywydd. Roedd disgrifiad Llywydd y Clwb, Tim Ireland, yn briodol iawn: "Roedd David yn athletwr o’r math clasurol, yn gystadleuol ac mor galed â dur ar y maes ond yn fonheddwr gwirioneddol oddi arno. Cynrychiolodd Glwb Ddinas Caergrawnt ymhell i’w 70au ac fe fyddai’n troi i fyny ar gyfer pa bynag dîm oedd ei angen, ble bynnag yr oeddynt yn chwarae. Roedd yn chwaraewr clwb gwirioneddol os bu un erioed."


Dywedodd ei wraig Diane: “Rwy’n gwybod fod gan David atgofion melys iawn o’n hamser yn Aberystwyth. Er ei fod yn gwbl ymroddedig i’w waith a’i fywyd proffesiynol, gwnaeth hynny ddim mo’i rwystro rhag bod yn dad gwych, gan dreulio oriau yn y Brifysgol yn eu cynorthwyo gyda’u amryw ddiddordeb, boed hynny’n redeg, gymnasteg neu hoci, ac roedd wastad yno yn eu cynorthwyo gyda’u gwaith academaidd. Roeddem yn caru’r ardal o gwmpas y dref ac mae gennym atgofion melys iawn o benwythnosau yn darganfod cyfoeth cefn gwlad Ceredigion fel teulu.”


Fel Gwyddonydd Cristnogol defosiynol, roedd byw bywyd caredig, cywir a gonest yn bwysig iawn i David ac roedd y rhinweddau hyn yn amlwg ym mhopeth a wnaeth – fel darlithydd ac ymchwilydd diwyd a gysegrodd ei fywyd i’w waith, tiwtor caredig a chefnogol a oedd wastad ar gael i’w fyfyrwyr, dyn ei deulu a gŵr bonheddig. 


Yng ngeiriau’r Athro Iain Donnison, Cyfarwyddwr IBERS: “Gwnaeth David gyfraniad sylweddol i wyddor glaswelltir ac i addysg myfyrwyr amaethyddiaeth yn Aberystwyth am fwy na thri degawd; roedd hyn yn ogystal â’i orchestion Olympaidd a bod yn weithgar ym mhopeth a wnaeth; gwerthfawrogir ei gyfraniad i’r Adran ac mae’n gadael bwlch mawr ar ei ôl.”

Wrth i ni gydnabod cyfraniad enfawr Dr Wilman i’n Prifysgol, a’i waith fel gwyddonydd ym maes amaethyddiaeth, ymunwch â mi wrth i ni estyn ein cydymdeimlad i’w wraig Diane, ei ferch Karen a’i theulu, a’i fab James yn eu profedigaeth.