Emlyn Hooson (1925-2012)

Bargyfreithiwr, gwleidydd, dyn busnes a bridiwr Gwartheg Duon a defaid Texel, dyna gychwyn nodi amlochredd bywyd Emlyn Hooson.  Hanodd o deulu amryddawn yn Ninbych, ac ymunodd drwy briodas ag un arall yn Llanidloes.  Wedi cyfnod yn y Llynges ac mewn coleg amaethyddol, graddiodd yn y gyfraith yn Aber yn 1949 (penodwyd ef yn Gymrawd yn 1997).  Fe ddaeth i amlygrwydd cynnar ym myd y gyfraith yn dilyn canmoliaeth anarferol gan y barnwr llym hwnnw, yr Arglwydd Goddard, yn cymeradwyo ei waith amddiffynnol ‘galluog a dewr’.  Fore’r dyfarniad yn Nhachwedd 1950 un brîff arall yn unig oedd ganddo yn ei siambrau newydd yng Nghaer; drannoeth roedd ei glerc wedi cael cynnig deuddeg.  Nid rhyfedd felly iddo gael ei ddyrchafu yn Gwnsler y Frenhines yn 1960, yr ieuengaf ers degawdau.  Ei gryfderau o flaen rheithgor a barnwr oedd trylwyredd ei baratoad, eglurder a miniogrwydd ei ddadleuon, y gallu i ddod o hyd i’r pwynt sylfaenol, ynghyd â pherswâd ei bersonoliaeth ddeniadol.  Agweddau tebyg oedd yn gyfrifol, mae’n bur sicr, am ei lwyddiant ym myd busnes; fel Cadeirydd Laura Ashley am gyfnod, ac yna’i gamp yn cadeirio cwmni’r ail bont dros yr Hafren, a sicrhau cydweithio rhwydd rhwng bancwyr a pheirianwyr Prydeinig, Ffrengig ac Americanaidd.

Yn isetholiad 1962, yn dilyn marwolaeth Clement Davies, fe’i hetholwyd yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Sir Drefaldwyn a bu’n gynrychiolydd amlwg yn y Senedd nes colli’r sedd yn 1979.  Yna fe’i penodwyd i Dŷ’r Arglwyddi dan y teitl nodweddiadol ‘Y Barwn Hooson o Sir Drefaldwyn a Cholomendy yn Sir Ddinbych’.

Bu o fewn cyrraedd cael ei ddewis yn arweinydd y Rhyddfrydwyr yn Nhŷ’r Cyffredin yn 1967, ac ef yn bennaf oedd yn gyfrifol am ffurfio Plaid Ryddfrydol Cymru gyda mesur o annibyniaeth o Lundain.  Fe gynigiodd nifer o fesurau yn Nhŷ’r Cyffredin ynglŷn â diboblogi, ac i geisio cefnogi’r Gymraeg a hyrwyddo datganoli (cynigiodd fesur manwl i’r perwyl yn 1967).  Ymhlith ei weithgareddau yng Nghymru gellid rhestru’r ymgais i achub Gwasg Gee ar ganol y pumdegau, ei deyrngarwch i Eisteddfod Llangollen, a’i nawdd i lu o fân gymdeithasau ym Maldwyn a thu hwnt.

O’i ddyddiau coleg ymlaen ‘roedd ganddo ddawn i wneud a chadw cyfeillion, drwy’r pleidiau gwleidyddol, y gyfraith, NATO, neu’r byd amaeth, a hynny ymron bob cwr o’r byd.  Fe gofir amdano fel gŵr o ddifrif ond heb fod yn or ddifrifol, yn bwyllog heb fod yn drymaidd, yn anturus heb fod yn fyrbwyll: gŵr o gymeriad.  Ac fe gofia’i gyfeillion yn arbennig am y wên hyfryd, hyd yn oed yn y dyddiau olaf creulon pan oedd lleferydd wedi pallu.

Bu farw 21 Chwefror 2012 gan adael ei weddw Shirley, hithau’n weithgar iawn yn y bywyd cyhoeddus, a dwy ferch, Sioned a Lowri.

Glyn Tegai Hughes