Gareth Llewelyn Howell (1942-2018)

Cawsai Gareth Howell ei gydnabod am ddyfeisio atebion arloesol ac ymarferol i broblemau mewn gwledydd a oedd yn trawsnewid neu’n ailgodi o sefyllfaoedd argyfyngus ofnadwy. Cawsai ei ystyried yn hael ac yn rhadlon, a’i gydnabod yn fentor ac yn gynghorydd gwerthfawr i lawer. Oherwydd y cyfraniadau hyn a’i gefnogaeth barhaus i Brifysgol Aberystwyth, fe’i gwnaed yn Gymrawd Anrhydeddus ac yn brif siaradwr yn seremoni raddio Ysgol y Gyfraith ar Orffennaf 20, 2017.

Ganwyd Gareth yn Rhiwbeina, ger Caerdydd, i William Llewelyn (Lyn) Howell a Myfanwy Howell ar Hydref 14, 1942. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Y Bont-faen ac yn Ysgol Mill Hill, ger Llundain, enillodd Radd Anrhydedd yn y Gyfraith o Brifysgol Cymru, Aberystwyth (1963) ac roedd yn aelod o Gymdeithas Anrhydeddus Gray’s Inn, Llundain.

Dechreuodd ei gyfraniadau i wahanol leoliadau ar draws y byd trwy weithio ym maes cysylltiadau llafur yng Nghwmni Moduro Ford cyn cael ei gyflogi yn ymgynghorydd i’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol a Grŵp Banc y Byd, lle bu’n helpu i gynllunio a hybu strategaethau datblygu economaidd. Yr aseiniadau hyn a’i denodd i fyw yn Colombia, Pacistan, Gwlad Thai, Indonesia ac Ewrop. Yn 1996, yn Bosnia-Herzegovina, yn ystod y cyfnod yn dilyn y rhyfel, arweiniodd Gareth dasglu Banc y Byd/Undeb Ewropeaidd i godi $130 miliwn i ailgyflogi’r rhai a fu’n ymladd, a hefyd bu’n helpu i wella safon addysg uwch a thechnolegol yn Nepal a Phacistan drwy ddefnydd effeithiol o fenthyciadau Banc y Byd.

Yn 1999, symudodd Gareth i Ddinas Efrog Newydd ac fe’i gwnaethpwyd yn bennaeth dros dro y Sefydliad Llafur Rhyngwladol i Bencadlys y Cenhedloedd Unedig. Yma, gweithiodd gyda’r Ysgrifennydd Cyffredinol i arwain ailadeiladu yn dilyn y rhyfel yn Kosovo a Dwyrain Timor, ac i godi safonau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol byd-eang, yn cynnwys lleihau’r arferion cyflogi gwael wrth gyflogi plant a mudwyr, a chamau i unioni’r llafur gorfodol honedig yn Burma a gwledydd eraill.

Cefnogodd ddatblygiad economaidd a chymdeithasol yn El Salvador, Georgia, Morocco, a Namibia yn cynorthwyo llywodraethau i wneud y gorau o effaith grantiau mawr gan Gorfforaeth Her Mileniwm Gweinyddiaeth Dramor UDA (MCC).

Roedd Gareth yn Ynad Heddwch yng Nghymru a drafftiodd gynigion cynnar ar gyfer datblygiad cyfansoddiadol yng Nghymru, a ddeddfwyd yn y pen draw yn 1999. Ni phallodd ei gariad tuag at ei etifeddiaeth Gymreig a rhoddodd ei lyfrgell bersonol helaeth o lyfrau Cymraeg i Ganolfan Astudiaethau Cymreig Madog yn Ohio. Roedd yn Llywydd Emeritws Cymdeithas Cymru-America Dewi Sant yn Washington, DC, yn aelod o fwrdd Cymdeithas Gymreig Gogledd America, ac Ysgrifennydd Gogledd America ar gyfer Cymdeithas Hanes Cyfreithiol Cymru.

Roedd yn rhugl yn y Gymraeg a nifer o ieithoedd eraill, yn cynnwys Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg ac Wrdw.

Bu farw Gareth yn ei gartref yn Falls Church, Virginia, ar Ionawr 4 2018 ac mae’n gadael ei wraig ers 30 mlynedd,  Amy Titus, a dau fab, Llewelyn a Rhys.