Dr John Gwynfryn Morgan (1934-2010)

Ar ddechrau fy nhymor cyntaf fel glasfyfyriwr yn Aberystwyth y cyfarfûm â Gwyn am y tro cyntaf. Roedd Gwyn eisoes yn ei drydedd flwyddyn ac roeddem ni’n ddau yn astudio’r clasuron. Dewiswyd ni i gymryd rhan ym mherfformiad blynyddol hynod boblogaidd sioe gomedi’r clasuron Rhufeinig, Gwyn fel Iŵl Cesar a minnau fel Mark Anthony.  Dyma ddechrau ein cyfeillgarwch, a gadarnhawyd yn fy ail flwyddyn pan ofynnodd Gwyn imi weithredu fel prif asiant yn ei ymgyrch i gael ei ethol yn Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, ymgyrch a enillodd yn rhwydd ac mewn cryn steil.

Yna cefais wahoddodd gan Gwyn i fynd i Gwmdâr i gwrdd â’i rieni, a thros y blynyddoedd gwelais cymaint oedd ei gariad a’i barch tuag at gymuned Cwmdâr ac Aberdâr, a’r nerth a gafodd o’i wreiddiau a’i gyfeillgarwch â chynifer o’r trigolion lleol. Dymuniad Gwyn oedd cael ei gladdu yma yn Aberdâr, yn agos i’w rieni a Moira, ei chwaer annwyl.

Roedd Gwyn yn amryddawn. Roedd y ffaith hon yn amlwg ers ei ddyddiau cynharaf yn yr ysgol, ac mae ei athrawon a’i gyfoedion o Ysgol Bechgyn Aberdâr yn cofio am Gwyn fel disgybl disglair, amryddawn a oedd yn alluog iawn yn academaidd ac yn ddawnus a brwdfrydig ym myd y campau. Ar ôl cael ysgoloriaeth, aeth Gwyn i Aberystwyth lle graddiodd ag Anrhydedd yn y Clasuron cyn mynd ymlaen i gael Diploma Dysgu a gradd MA ar waith Petronius. Er ei fod wrth ei fodd gyda’r Clasuron a’i fod yn fyfyriwr disglair, ni chafodd ei demtio i ddilyn gyrfa yn y byd academaidd. Trwy ei brofiad fel Llywydd Myfyrwyr, ymdrwythodd ei hun ym myd gwleidyddiaeth myfyrwyr, yn ogystal â dilyn ei gariad mawr tuag at chwaraeon, yn enwedig criced. Bu’n gapten ar Un-ar-Ddeg Aber yn ogystal â thîm criced Prifysgol Cymru, gydag aelodau o blith holl golegau Cymru, ac fe chwaraeodd ambell gêm i ail dîm Morgannwg. Roedd yn gapten a ysbrydolai ei gyd-chwaraewyr, ac yn chwaraewr amryddawn, ond ei fowlio twyllodrus sicrhaodd gymaint o wicedi iddo ac a hawliodd sylw’r penawdau.

Roedd ei ddoniau ym myd y campau’n cynnwys snwcer, gêm hynod boblogaidd yng Nghymoedd y De yn y cyfnod hwnnw. Dros flynyddoedd ein cyfeillgarwch brwydrem yn galed yn erbyn ein gilydd ar y bwrdd snwcer, Aberdâr yn erbyn Cwm Tawe, ac roedd safon ein hergydion diogelwch yn tystio’n glir i’r oriau  yn ein hieuenctid a dreuliasem ni’n dau yn ymarfer ar y ford snwcer pan ddylem, mae’n debyg, fod wedi bod yn astudio.

Ar ôl gadael Aber treuliodd Gwyn ddwy flynedd fel Uwch Feistr y Clasuron yn Ysgol Regis yn Tettenhall, ger Wolverhampton, gan chwarae cryn dipyn o griced a rygbi yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd yn ei swydd ddysgu yno, pan enillodd etholiad i ddod yn Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS), swydd a ddaliodd o 1960 tan 1962. Ef oedd y cyn-fyfyriwr cyntaf o Aber i ddal y cyfrifoldeb hwn ledled y Deyrnas Unedig. Fe’i holynwyd, er mawr foddhad iddo, gan Nye Hughes, a oedd hefyd yn un o gyn Llywyddion Undeb Myfyrwyr Aber.

Roedd yn gyfnod cyffrous ym myd gwleidyddiaeth myfyrwyr ac yn foment dyngedfennol yn natblygiad addysg prifysgol ac addysg uwch yn y Deyrnas Unedig.  Fel Llywydd, bu Gwyn yn gyfrifol am gyflwyno tystiolaeth Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr i Bwyllgor Robbins ar ddyfodol Addysg Uwch. Denodd y cyfraniad hwn i’r drafodaeth genedlaethol ganmoliaeth eang yn y wasg i “ddiplomyddion Stryd Endsleigh”, (Pencadlys Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ar y pryd), yn cynnwys adolygiad llawn yn y Times. Egwyddor graidd Robbins, a blediwyd yn angerddol gan Gwyn, oedd y dylai “cyrsiau Addysg Uwch fod ar gael i’r rhai sydd â’r gallu a’r cymwysterau i’w dilyn” - polisi nad oedd yn cael ei dderbyn yn gyffredinol ar y pryd.

Fel Llywydd, bu Gwyn hefyd yn goruchwylio cyfraniadau sylweddol i ddau adroddiad arall gan y Llywodraeth: Adroddiad Hale ar Ddysgu mewn Prifysgolion, ac Adroddiad Anderson a aeth i’r afael â mater grantiau myfyrwyr. Y sbardun i hyn oll oedd ei argyhoeddiad angerddol y dylai cyfleoedd addysgiadol fod yn agored i bawb, ac y dylai pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol llai ffodus gael y cyfle i wireddu eu potensial. Ni anghofiodd erioed mai ceiniogau’r tlodion dalodd am greu Prifysgol Aberystwyth, sefydliad a oedd mor agos at ei galon, a’i bod wedi agor ei drysau i genedlaethau o fyfyrwyr o Gymru - myfyrwyr â rhieni na chafodd y fath gyfle ond a oedd yn benderfynol o roi pob cyfle i’w plant gael budd addysg uwch.

Rwy’n cofio’n arbennig am un drafodaeth gyffrous ar un o faterion pwysig y dydd, a gafwyd yng nghynhadledd flynyddol Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ym Margate, gyda Gwyn yn Cadeirio. Gwelais Vince Kane, Llywydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd ar y pryd, ac enillydd gwobr ddadlau'r Observer, yn brasgamu at y meicroffon, gan daflu’i araith i ffwrdd yn ddramatig ar ei ffordd i’r llwyfan. Ymatebodd Gwyn i araith lem Kane gydag awdurdod tawel a’i huodledd arbennig ei hun. Datgymalodd ddadleuon Kane yn ofalus â dadansoddiad clinigol gan berswadio’r neuadd  orlawn i gefnogi ei safbwynt ef. Daeth yn amlwg i mi y pryd hynny y byddai Gwyn yn dilyn gyrfa mewn gwleidyddiaeth.

Roedd Gwyn yn adnabyddus yng nghynadleddau Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr am ei ddatganiadau, yn ei lais cwbl amhersain o ‘tres mures , ecce currunt’  - ‘three blind mice, see how they run’, a phan yr anogwyd ef byddai hefyd yn arwain gyda ‘Queenie the pride of the burlesque show’.  Mewn blynyddoedd diweddarach byddai Nye Hughes a minnau’n ei berswadio i ganu i ni’n breifat, a byddem ni’n tri yn crio chwerthin.

Yn ystod y cyfnod hwn yn Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr y gwnaeth Gwyn enw iddo’i hun fel rhyngwladwr ymroddedig. Daeth i fod yn un o’r arweinwyr myfyrwyr uchaf ei barch yn y Gorllewin yng nghyfnod y Rhyfel Oer. Yn wir, ymladdwyd y Rhyfel Oer cyn ffyrniced mewn cylchoedd myfyrwyr rhyngwladol ag yn y byd gwleidyddol ehangach. O dan ei arweiniad daeth Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn un o brif amddiffynwyr egwyddorion democrataidd. Roedd yn hen gyfarwydd â mynychu cynadleddau rhyngwladol, ac yn un ohonynt arweiniwyd Dirprwyaeth Cuba gan frawd Castro a gariai bistol yn ei wregys. Tua diwedd 1962, yn ôl yr hanes, anfonodd Gwyn ei olynydd, Nye Hughes, i gymryd rhan yng nghynhadledd Undeb Comiwnyddol Rhyngwladol y Myfyrwyr yn Leningrad.  Trafododd Gwyn y datblygiadau a’r tactegau gyda Nye dros y ffôn ond, gan wybod bod yr awdurdodau’n gwrando ar y sgwrs, cymerodd ofal i gynnal y sgwrs yn Gymraeg. Ar ddiwedd yr alwad trodd i’r Saesneg drachefn gan ddweud yn ddigon uchel i bawb glywed, “Now sort that out”.

Nid oedd yn syndod pan etholwyd Gwyn yn Ysgrifennydd Cyffredinol ar Undeb Rhyngwladol Anghomiwnyddol y Myfyrwyr, a elwid yn Gynhadledd Ryngwladol y Myfyrwyr, arwydd o’r parch uchel iddo ym myd y myfyrwyr.  Lleolwyd ger Leiden yn yr Iseldiroedd – swydd a ddaliwyd cyn hynny gan Olaf Palme, a ddaeth i fod yn Brif Weinidog Sweden yn ddiweddarach. Gwasanaethodd y Gynhadledd yn rhagorol, ond erbyn y cyfnod hwn roedd byd gwleidyddiaeth gartref yn galw ac fe ddychwelodd Gwyn i Lundain i weithio fel Pennaeth Adran Ryngwladol y Blaid Lafur, gan ddilyn olion traed Dennis Healey a David Ennals, dau o’i ragflaenwyr yn y swydd. Dyma gyfnod Wilson a George Brown a Crosland a Crossman, ac mae’n biti garw na chofnododd Gwyn ei feddyliau a’i sylwadau am y blynyddoedd cyffrous hynny.

Gweithiai Gwyn yn agos iawn â George Brown, yn enwedig pan ymunodd Brown, yr Ysgrifennydd Tramor ar y pryd, â Harold Wilson i adnewyddu cais Prydain i ymuno â’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd.  Yn ystod y cyfnod hwnnw bu rhwydwaith anhygoel Gwyn o ffrindiau o blith y pleidiau sosialaidd a’r democratiaid cymdeithasol yn Ewrop yn help i ddwyn perswâd ar Ewropeaid a oedd yn amau didwylledd cais Prydain. Yn ogystal fe fagai gysylltiadau â phobl megis Douglas Hurd a David Steel o’r pleidiau eraill – cysylltiadau a fyddai’n amhrisiadwy yn ddiweddarach, yng nghyfnod trafodaethau Heath a refferendwm y Deyrnas Unedig ar Ewrop yn 1975.

Roedd Gwyn yn ffigwr blaenllaw gyda’r Gymdeithas Gydwladol Sosialaidd, ac fe ddefnyddiai ei ddylanwad i hybu buddiannau’r Deyrnas Unedig ac i gefnogi datblygiadau arwyddocaol yn y berthynas rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin gan gynnwys Ostpolitic Willy Brandt. Bu’n meithrin cysylltiadau da â’r pleidiau Sgandinafiaidd, a sicrhaodd eu cefnogaeth ar fater Rhodesia. Cydweithiai yn agos â Maurice Foley yn y Swyddfa Dramor ar faterion mawr y dydd gan fynd i’r afael â Nigeria a De Affrica.  Gwnaeth Tom (yr Arglwydd) McNally, a olynodd Gwyn yn Bennaeth Adran Ryngwladol y Blaid Lafur, y sylw canlynol amdano ‘Gwyn kept the Labour Party sane, outward looking and pointing at Europe at a time when the country was struggling to come to terms with its diminished post - war status’.

Cafodd ei ddyrchafu’n Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol i’r Blaid Lafur, a chyda’i enw da cynyddol, mater o amser oedd hi cyn i Gwyn gael ei benodi’n Ysgrifennydd Cyffredinol. Yn 1971 daeth Gwyn yn ymgeisydd ar gyfer yr Ysgrifenyddiaeth Gyffredinol. Mae hanes y digwyddiadau a arweiniodd at bleidlais ddadleuol a phendant y Gweithgor Cenedlaethol ar fore 29 Mawrth 1972 yn cael ei adrodd yn ddramatig gan Roy Jenkins yn ei hunangofiant A Life at the Centre. Mae’n cofio Gwyn fel y mwyaf galluog o’r ddau ymgeisydd, a’r ffefryn amlwg ar gyfer y swydd o bell, cyn gwrthgiliad Harold Wilson, ac o ychydig bleidleisiau hyd yn oed wedyn. Flwyddyn yn gynharach, ysgrifennodd Jenkins, ‘Gwyn would have romped home.  But after hours of procedural wrangle and bitter semi-farce Ron Hayward, not Gwyn, was elected in the third ballot on the casting vote of the then Chairman of the Party, Wedgewood  Benn.  It was a serious defeat because it both symbolized and reinforced a significant leftward shift in the control of the party machine.  It also gave notice that Europeanism was becoming a bar to preferment’.  Ac mae Jenkins yn ychwanegu ‘Gwyn’s supporters left the meeting angry, deflated, and fearful for the future’. 

Pwy a ŵyr sut y byddai gyrfa Gwyn wedi datblygu petai wedi ennill y diwrnod hwnnw?  Fel yr ysgrifennodd un o’m cyfeillion, bu teimlad erioed y gallai pethau fod wedi bod yn wahanol i Glyn. Yn bersonol, nid oes amheuaeth yn fy meddwl y byddai wedi mynd ymlaen i gael gyrfa ddisglair yn Nhŷ’r Cyffredin a swydd yn y Cabinet.

Pan ymunodd y Deyrnas Unedig â’r Gymuned Ewropeaidd (Y Gymuned Economaidd Ewropeaidd fel y’i gelwid bryd hynny) yn 1973, roedd yn ymddangos fel peth digon naturiol i Gwyn gael ei benodi i wasanaethu fel Chef de Cabinet i George (yn ddiweddarach, yr Arglwydd) Thompson, a ddaliodd, ynghyd â Syr Christopher Soames, y ddwy swydd gyntaf fel Comisiynwyr o’r Deyrnas Unedig yn y Comisiwn Ewropeaidd. Yn ystod ei orchwyl mewn cyfnod anodd o sefydlu tair o aelod-wladwriaethau newydd (y Deyrnas Unedig, Denmarc, ac Iwerddon), chwaraeodd Gwyn ran fawr yn y trafodaethau a arweiniodd tuag at greu Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a ddatblygodd yn un o dair prif gronfa’r Gymuned, ac un y mae Cymru wedi cael budd sylweddol ohoni dros y blynyddoedd.

Trwy gyd-ddigwyddiad llwyr, roedden ni’n dri yn gyn-lywyddion Aber yn cymryd gwahanol swyddi yn yr Undeb Ewropeaidd yn gynnar yn 1973, Gwyn yn gyntaf a Nye a minnau ychydig wedi hynny. Mewn dim o dro cyflwynodd Gwyn ni i’r bwyd ardderchog sydd i’w gael ym mwyty Caruso ac yn fuan sefydlwyd ‘La Table Des Gallois’ lle byddai ein triawd, yn ogystal ag Andy Mulligan, yr hen fewnwr Gwyddelig rhyngwladol, yn cwrdd i roi’r byd yn ei le, gyda help llaw ambell i wydraid o grappa.

Un o fentrau cynnar Gwyn, ac un a gymerai gryn falchder ynddo, oedd gwahodd côr meibion Cwmbach i ganu yn Berlaymont, pencadlys y Comisiwn. 
Yn 1975 dychwelodd Gwyn i Gymru fel Pennaeth cyntaf Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru, a oedd newydd gael ei sefydlu, yng Nghaerdydd. Yn gyflym iawn fe wnaeth ei joie de vivre, ei frwdfrydedd heintus, a’i ddawn siarad sicrhau cefnogaeth fawr iddo yng Nghymru. Medrai uniaethu’n naturiol â phobl o unrhyw gefndir. Yn arbennig, fe ddaeth â chyfuniad o angerdd tuag at y prosiect Ewropeaidd, dylanwad ym Mrwsel a Llundain, a dealltwriaeth soffistigedig o safle Cymru yn y weledigaeth eang honno. Yn ystod ei gyfnod yng Nghaerdydd, daeth ei swyddfa yn rhif 4 Heol y Gadeirlan yn fagnet i’r wasg a’r cyfryngau, ac yn ganolfan addysgiadol a chymdeithasol i bobl o bob math ddysgu am ddatblygiadau Ewropeaidd a’u trafod.

Symudodd Gwyn o Gaerdydd i Ottawa i arwain Swyddfa'r Wasg a Gwybodaeth dirprwyaeth yr Undeb Ewropeaidd i Ganada. Yno gwnaeth gyfraniad pwysig i ddatblygiad astudiaethau Ewropeaidd ym Mhrifysgolion Canada. Mae’r gymuned Gymreig fawr yng Nghanada’n parhau i gofio’n gynnes iawn amdano.

Yna, symudodd Gwyn unwaith eto, y tro hwn i Ankara fel Pennaeth dirprwyaeth y Comisiwn Ewropeaidd i Dwrci, lle gwnaeth ei hun yn amhoblogaidd drwy frwydro dros hawliau’r Undebau Llafur. Roedd yn gynrychiolydd ardderchog a hynod wybodus i’r Comisiwn, ac roedd yn deall polisïau yn ogystal â phersonoliaethau a gwleidyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd yn well na’r mwyafrif. Oherwydd y ddawn hon gallai feithrin cysylltiadau anghyffredin o eang â gwleidyddion ar lawr gwlad - i’r graddau iddo ymweld â chyn, a darpar, Brif Weinidogion Twrci, sef Suleyman Demirel a Bulent Ecevit, a oedd yn elynion pennaf pan y’u carcharwyd gyda’i gilydd, ynghyd â channoedd o bobl eraill, yn sgil y chwyldro milwrol yn Nhwrci yn 1980.

Ar ôl Twrci, gwnaed Gwyn yn Llysgennad i Israel lle gwnaeth ei hun yn amhoblogaidd unwaith eto drwy amddiffyn hawliau’r Palesteiniaid yn Israel a’r tiriogaethau meddianedig. Negododd gytundeb masnach cyntaf yr Undeb Ewropeaidd â Phalestina yn y cyfnod hwn. Ar achlysur achrediad Gwyn yn Israel, roedd Gwyn bron yng nghefn y rhes o lysgenhadon a oedd yn aros i gael eu cyflwyno i’r Arlywydd Herzog. Yn sydyn aed ag ef i’r blaen i gwrdd â’r Arlywydd. Cyfarchodd yr Arlywydd ef yn gynnes drwy ddweud, ‘Ambassador Morgan, how’s Aber these days? Do they still sing Lan yn Aber in the College?  I was there during the war for a year as an evacuee student from University College London’.

Swydd dramor olaf Gwyn oedd fel Llysgennad yr Undeb Ewropeaidd a Phennaeth Dirprwyaeth yng Ngwlad Thai.  Fe’i hachredwyd yno i gynnwys Laos, Cambodia, Myanmar a Fietnam.  Gweithiodd yn eithriadol o galed i hybu’r broses heddwch yng Nghambodia, a sefydlodd drefniadau arsylwi’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer etholiadau Cambodia, gan wneud ei orau i ddod â rhesymeg i awyrgylch gwleidyddol hynod anodd ar ôl rhyddhau Cambodia.  Gwyn hefyd helpodd i wneud y trefniadau ymarferol i ddychwelyd pobl cychod Fietnam i’w mamwlad yn dilyn eu hymdrechion i gael eu derbyn yn Hong Kong.

Yn ystod y cyfnod hwn trafododd Gwyn gytundebau’r Undeb Ewropeaidd gyda Fietnam, Cambodia a Laos, gan wneud y ffordd yn glir i gytundeb ASEAN gyda’r Undeb Ewropeaidd, a oedd unwaith eto’n brif gyfrifoldeb iddo pan ddychwelodd i’r Pencadlys ym Mrwsel yn 1996, i gyflawni ei ddwy flynedd olaf fel pennaeth adran y Comisiwn ar gyfer cysylltiadau â De Ddwyrain Asia.

Mwynhaodd Gwyn ei ymddeoliad i’r eithaf, gan deithio’r byd, ar fordeithiau yn aml, gyda Francoise. Yr oedd, fel y dywedodd yr Arglwydd (Asa) Briggs wrthym, ‘yn gartrefol ymhob cyfandir’. Roedd yn gefnogwr ffyddlon i Gymry Llundain yn Old Deer Park a phur anaml y byddai’n colli gêm rygbi rhyngwladol er y 1950au. Teithiai yn eang i weld Morgannwg yn chwarae criced, a byddai’n bleser treulio diwrnod yn westai iddo fel aelod yr MCC yn Lords. Er hynny, llwyddai Gwyn i wneud amser ar gyfer ei  ddiddordeb yn Ne Ddwyrain Asia, gan weithredu fel Prif Arsylwr Etholiadau yr Undeb Ewropeaidd i’r Etholiadau Arlywyddol a Seneddol yn Indonesia.

Parhaodd Aber i fod yn agos iawn at ei galon, a byddai’n anodd dod o hyd i hyrwyddwr mwy perswadiol o rinweddau astudio yn Aberystwyth. Mwynhaodd ei gyfnod yn Gadeirydd ar Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Aber a’i gyfnod yn gweithredu fel aelod o Gyngor y Brifysgol.

Roedd Gwyn yn enghraifft berffaith o berson a oedd yn gyfforddus â’r syniad o hunaniaeth luosog: bachgen o Gwmdâr ydoedd yn anad dim, Cymro i’r carn a oedd yn deyrngar i’r Deyrnas Unedig, Ewropead ymroddedig a rhyngwladwr byd-eang cadarn.  Y llinyn cyswllt rhwng yr hunaniaethau hyn oedd ei gred drwy gydol ei oes mewn cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

Roedd Gwyn yn gymeriad mawr. Dywedodd ysgrifennydd ei ysgol yn Aberdâr wrthyf ei fod yn ‘dipyn o foi!’  Disgrifir ef gan gyfeillion eraill fel ‘Bon vivant’ ac fel rhywun a fyddai’n ‘cyfoethogi’ch bywyd’. Yr oedd ei gwmni bob amser yn dda, ac nid oes amheuaeth nad oedd ei wybodaeth drylwyr o seleri Bwrgwyn a Bordeaux yn cyfrannu at hynny. Byddai rhywun bob amser yn teimlo’n gyfoethocach ac yn hapusach ar ôl treulio amser yng nghwmni Gwyn. Roedd ganddo’r gallu arbennig i roi ei holl sylw i chi - byth yn edrych dros eich ysgwydd i weld pwy arall oedd o gwmpas. Roeddech yn cael y teimlad bod ganddo wir ddiddordeb yn yr hyn oedd gennych i’w ddweud, a’i fod yn gwrando ar bob gair.

Roedd Gwyn bob amser yn hynod deyrngar i’w staff, nifer ohonynt yn asiantwyr lleol yn gweithio mewn amgylchiadau lleol, anodd. Fel y gallaf innau dystio, byddai’n gadael ar ei ôl lu o staff ymroddedig a siaradai’n serchog amdano am flynyddoedd wedi hynny - yn wir hyd heddiw.

O dan gynhesrwydd a didwylledd naturiol Gwyn gellid synhwyro meddwl craff ar waith, a chefais sawl achos i werthfawrogi ei grebwyll meddylgar, dadansoddol am broblemau personol a phroffesiynol, gan gynnwys fy rhai innau, yn ogystal â digwyddiadau ar lwyfan y byd. Roedd ei gof ffotograffig am enwau pobl, a’i allu i gofio gwleidyddion a llefydd ledled y byd, yn gaffaeliad iddo. Efallai mai hyn sydd hefyd yn esbonio ei lwyddiant cyson wrth gwblhau’r croeseiriau anoddaf.  

Y mis Rhagfyr diwethaf, yn ddirybudd, clywodd Gwyn ei fod yn dioddef o ganser anwelladwy. Fe wnaeth ddygymod â’r pedwar mis olaf gydag urddas. Wrth eistedd gydag ef roeddem yn teimlo ei fod o hyd yn credu y byddai’n dod drwyddi i fynd ar fordaith arall gyda Francoise, fel y carent wneud gyda’i gilydd. Tua deufis yn ôl, yn dilyn llawdriniaeth ar ei unig lygad â golwg, llwyddodd o leiaf i wylio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a’r snwcer. 

Mae’n gadael Francoise, ei blant Rhidian, Sian, Gregory, Elliott, a Joanna, a’i wyrion hyfryd a gododd ei galon wrth erchwyn ei wely â’u canu. Bydd pob un ohonom yn cario atgofion arbennig am Gwyn yn ein calonnau. Yn yr ystyr pwysig hwnnw bydd Gwyn yn byw o hyd. 

Hywel Ceri Jones