Athro Emeritws Haydn Mason (1929-2018)

Bu farw yr Athro Emeritws ac Uwch-Gymrawd Ymchwil, Haydn Trevor Mason ar 16 Awst 2018, ychydig o fisoedd cyn ei ben-blwydd yn 90 oed. Rhoddwyd y deyrnged hon gan ei gyn-gydweithiwr ym mhrifysgol Bryste, Dr Edward Forman.

Roedd Haydn Mason yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Officier dans l’Ordre des Palmes Amcadémiques. Daeth y dau gymeriad hyn - y Cymro balch a ffyddlon a gwir ddinesydd y byd gwaraidd - i'r amlwg ymhen ychydig iawn o amser mewn unrhyw drafodaeth gyda Haydn. Er mai Voltaire ac Astudiaethau'r Oes Oleuedig oedd prif ganolbwynt ei waith, roedd ei chwilfrydedd a’i ddysg yn hynod o eang, ac roedd sgyrsiau gydag ef yn fywiog a threiddgar, yn frith o byliau o chwerthin, ond hefyd fe fyddai seibiannau dwys wrth iddo wrando, myfyrio, ac yn aml byddai'n symud y pwnc ymlaen i lefel wahanol a dyfnach.

Wedi ei eni yng nghefn gwlad Sir Benfro yn 1929, bachgen ysgoloriaeth oedd Haydn, ac nid anghofiodd byth ei ddyled i’w gydwladwyr: ei Athrawon yn Ysgol Ramadeg Greenhill yn Ninbych-y-pysgod ac ym Mhrifysgol Aberystwyth, a’r Rotariaid Cymreig, a noddodd ei radd Meistr yng Ngholeg Middlebury yn yr Unol Daleithiau, gan agor y ffordd i'w swydd dysgu gyntaf yn Princeton. Ar ôl cael ei ddoethuriaeth yn Rhydychen fe gafodd swyddi yn Newcastle a Reading, ac yn 1967 fe'i penodwyd yn Gadeirydd Llenyddiaeth Ewropeaidd ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia, sefydliad newydd sbon a oedd wedi ymrwymo i ‘wneud pethau yn wahanol’. Wedi hynny, meithrinai enw iddo'i hun am ei ddysg a'i  arweinyddiaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol: Haydn oedd Arlywydd y Gymdeithas Astudiaethau Ffrengig, Cymdeithas Athrawon Ffrangeg y Prifysgolion, Cymdeithasau Astudiaethau'r Ddeunawfed Ganrif ym Mhrydain ac yn rhyngwladol, a'r Gymdeithas Ymchwil i’r Dyniaethau Modern. Ar ôl dwy flynedd fel academydd uwch ym Mharis III,  symudodd Haydn am y tro olaf i Fryste, lle y bu'n Athro Iaith a Llenyddiaeth Ffrangeg, Pennaeth yr Adran Ffrangeg a Chadeirydd yr Ysgol Ieithoedd Modern tan ei ymddeoliad yn 1994.

Efallai mai fel golygydd y cyfnodolyn rhyngwladol blaenllaw, Studies in Voltaire and the Eighteenth Century fe fydd yn fwyaf adnabyddus. O 1977 hyd 1995, llywiai'r agenda ymchwil ryngwladol mewn mwy na 160 o gyfrolau a gynhyrchwyd yn raenus gan Sefydliad Voltaire. Mae ei gyhoeddiadau ei hun, sydd yn amrywio o fonograff ar Bayle a Voltaire i fywgraffiad o Voltaire a gafodd gryn ganmoliaeth, yn cynnwys sawl un sy'n agor ei ddysg, mewn modd bywiog ac ysbrydoledig, i fyfyrwyr a'r darllenydd lleyg, fel sy’n gweddu i awdur a oedd yn hynod  o hael ac yn garedig bob tro. Roedd pobl eraill - yn gydweithwyr, myfyrwyr, ei ffrindiau a'i deulu - yn rhoi egni iddo. Roedd ei dewder a’i ddycnwch wrth iddo wynebu profedigaethau henaint yn golygu ei fod yn dal i fedru ymhyfrydu yn ei bleser mwyaf hyd y diwedd, sef noson siriol o gwmpas bwrdd gyda’i deulu a'i gyfeillion yn trafod llyfrau, cerddoriaeth, celf, theatr, gwleidyddiaeth neu chwaraeon. Braint yw cael ei gofio yn y modd hynny.