Owen Price (1924-2012)

Dr Owen Price Ganwyd Owen Thomas Williams Price ar 21 Tachwedd 1924, yn fab hynaf i rieni o amaethwyr ym Mannau Brycheiniog.  Bwriadai fod yn athro ysgol, tan iddo glywed am gyrsiau mewn economeg amaeth yn Aberystwyth.  Arweiniodd hyn at newid cyfeiriad academaidd wrth iddo ddod yn argyhoeddedig y byddai astudiaethau o’r fath yn gwella bywoliaeth cymunedau amaethyddol fel yr un y cafodd ef ei fagu ynddi. 

Graddiodd yn 1946 yn BSc gydag anrhydedd mewn economeg amaethyddol.  Ar ôl gweithio yn y Brifysgol am ddwy flynedd, dyfarnwyd ysgoloriaeth ymchwil y Weinyddiaeth Amaeth i Owen a galluogodd hynny ef i astudio yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen ac ym Mhrifysgol Wisconsin.  Yn Rhydychen, enillodd ei radd DPhil ac yna astudiodd ym Mhrifysgol Wisconsin am radd Meistr yn economeg y tir.  Ar ôl dychwelyd i Rydychen, enillodd ail radd meistr a threulio tair blynedd yn darlithio ar economeg y tir yn y Sefydliad Ymchwil Economeg Amaethyddol.

Yn 1953, ymunodd ag Imperial Chemical Industries (ICI) a chymryd rhan yn nhrafodaethau llywodraeth y DU ynglŷn â llunio polisi amaethyddol cenedlaethol.  O ganlyniad, datblygodd gred gref yn y Mudiad Ewropeaidd a’r manteision potensial i’r sector amaeth o ymuno â’r Farchnad Gyffredin (yr Undeb Ewropeaidd bellach), safbwynt dadleuol ar y pryd.

Tra gweithiai i ICI, cyhoeddodd lawer o erthyglau mewn cyfnodolion proffesiynol, ac yn 1967, symudodd ef a’i deulu i Washington, DC ac ymuno â’r Banc Rhyngwladol er Ail-lunio a Datblygu (Banc y Byd).  Yn 1971, penodwyd ef yn Bennaeth Adran Economeg, yr Adran Nwyddau a Masnach.

Ar ôl bod yn bennaeth swyddfa Banc y Byd yn Iran am bedair blynedd, dychwelodd Dr Price i Washington yn 1976 ac fe’i benodwyd yn Bennaeth yng ngofal yr Adran Amaethyddol Gyffredinol ar gyfer Dwyrain Asia a’r Môr Tawel.  Yn nes ymlaen fe’i benodwyd yn Bennaeth Cenhadaeth Breswyl y Banc yn Indonesia lle bu’n goruchwylio gweithrediad tua 35 o brosiectau gwerth $2.5 biliwn yn gyfan gwbl.

Roedd Owen yn enwog am ei feddwl disglair a’i broffesiynoldeb ond roedd hefyd yn benteulu cariadus.  Amharwyd ar ei fywyd pan gollodd ei frawd ieuengaf, Geraint, yn 1974 a Mair, ei wraig gyntaf, yn 1977.  Bu farw ei unig blentyn, Lynne, yn 2005 a’i ail wraig, Emily, yn 2008.  Yn ystod yr amseroedd anodd hyn, daeth dementia i amharu ar ei ddisgleirdeb.  Bu ei chwaer deyrngar yn gofalu amdano yn ystod ei ddyddiau olaf.  Bu Owen Price farw ar 9 Mai 2012. 

Bydd Owen yn cael ei gofio fel gŵr ysgafndroed, llawn bywyd a’i lygaid yn pefrio, gŵr oedd yn falch o’i gyflawniadau, o’i deulu, o fod yn fab fferm ac yn falch o fod yn Gymro.  Pan ofynnwyd iddo beth oedd bod yn Gymro yn ei olygu, un dyfyniad cofiadwy oedd, “Mae bod yn Gymro yn golygu bod Cymru yn rhan ohonoch, yn rhan o’ch etifeddiaeth, a bob amser yn rhan o’ch bywyd.”  Nawr, ar ôl ei farw, mae Owen wedi dychwelyd i Gymru lle mae wedi ymuno â’i deulu yn y fynwent wledig ar bwys y fferm lle’i maged. 

Robert Morris