Amdanom ni

Croeso i'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yw un o’r adrannau mwyaf o’i bath o ran maint a phrofiad yn y DU, gan arbenigo mewn amrywiaeth eang o themâu ar draws y gwyddorau naturiol, ffisegol a chymdeithasol. Yn ddiweddar rydym wedi dathlu canrif o Ddaearyddiaeth yn Aberystwyth, ac rydym wedi bod yn addysgu’r Gwyddorau Daear ers mwy na hynny hyd yn oed!

Mae gennym draddodiad hirsefydlog o gynnig cynlluniau gradd cyfoes a chyffrous, ac yn ddiweddar rydym wedi ychwanegu Cymdeithaseg at ein portffolio

Pam dewis yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae gan Aberystwyth gyfoeth gwych o adnoddau naturiol ar garreg y drws, gan gynnwys mynyddoedd, rhostiroedd a thir amaethyddol, afonydd, y môr a’r arfordir ysblennydd, ynghyd ag amgylcheddau gwledig a threfol hefyd. Yma, cewch archwilio Daearyddiaeth, Cymdeithaseg, Gwyddorau’r Ddaear ac Amgylcheddol mewn lleoliad a ffordd na all unrhyw brifysgol arall eu cynnig.
  • Achredir llawer o’n cyrsiau gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (RGS) (gyda Sefydliad y Daearyddwyr Prydeinig).
  • Rydym ni’n cynnig teithiau maes yn lleol, o fewn y DU a thramor i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau gwaith maes ac archwilio materion y byd go iawn mewn ffordd ymarferol.
  • Byddwch yn rhan o brifysgol gampws fywiog sydd â’i chanolfan chwaraeon ei hun a Chanolfan Celfyddydau brysur, gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o bum llyfrgell hawlfraint yn unig yn y DU y drws nesaf i ni.
  • Mae ein staff yn angerddol dros yr hyn y maen nhw’n ei wneud. Maen nhw’n ymchwilwyr ac yn ddarlithwyr ymroddedig, gyda llawer o’u plith yn flaenllaw yn eu meysydd perthnasol. Caiff eu gwybodaeth ymarferol o’r byd ei bwydo i’n holl gyrsiau drwy amrywiaeth o themâu arbenigol.
  • Rydym ni’n darparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu hyblyg i chi, boed mewn darlithfa, dosbarth seminar, tiwtorial, mewn labordy neu ar gwrs maes. Cewch eich asesu mewn ffyrdd amrywiol, gan gynnwys arholiadau, adroddiadau, cyflwyniadau, fideos a thraethodau, gyda’r cyfan wedi’u cynllunio i gyfoethogi eich set sgiliau pwnc-benodol, personol a throsglwyddadwy.
  • Mae Prifysgol Aberystwyth ar y brig yng Nghymru a Lloegr am brofiad myfyrwyr (Canllaw Prifysgolion Da 2025, The Times a'r Sunday Times) ac ar y brig yng Nghymru am fodlonrwydd myfyrwyr yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol diweddaraf.
  • Rydym wedi ein gosod ymhlith y 5 uchaf yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr ym mhwnc Daearyddiaeth gan y Complete University Guide 2025, ac yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2025 The Times a'r Sunday Times, fe'n gosodwyd yn y 15 uchaf yn y DU am brofiad myfyrwyr ym mhwnc Daearyddiaeth a Gwyddor Amgylcheddol. Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr diweddaraf, roeddem yn y 10 uchaf yn y DU am 'Addysgu ar fy nghwrs' ym mhwnc Daearyddiaeth Ddynol a Daearyddiaeth Ffisegol (Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2025)*.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein harbenigedd ymchwil, cyrsiau israddedig ac uwchraddedig drwy ein tudalennau gwe. Fe’n gwahoddwn chi i bori a darganfod mwy am ein cymuned a bywyd yn yr Adran.

Os oes gennych chi gwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â ni - mae ein manylion cyswllt i’w gweld yn yr adran ‘Cysylltu â ni’. Rydym ni’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio gyda ni i ymweld ar Ddiwrnod Agored neu Ddiwrnod Ymweld i Ymgeiswyr i weld beth sy’n gwneud Aberystwyth yn lle mor anhygoel i fyw a dysgu.

Professor Sarah Davies

Pennaeth Adran