Teithiau mwy diogel i ferched yw nod canllawiau newydd

Credyd: Trafnidiaeth Cymru
02 Ebrill 2026
Bydd gan awdurdodau lleol Cymru ganllawiau newydd i helpu i sicrhau bod teithiau ar droed, ar olwynion a beicio yn fwy diogel a hygyrch i fenywod a merched, diolch i waith dan arweiniad academydd o Brifysgol Aberystwyth.
Cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru yr adnodd newydd yr wythnos hon, ac mae'n dod â chanfyddiadau o waith ymchwil, dulliau ymgyrchu llwyddiannus, a chamau ymarferol ynghyd, er mwyn i gynghorau eu defnyddio fel y gall menywod a merched wneud mwy o deithiau llesol.
Mae'r canllawiau 'Gwella teithiau bob dydd i fenywod a merched' yn amlygu sut y gellir ymdrin ag anghenion a phrofiadau menywod a merched yn well trwy edrych ar sut mae trafnidiaeth yn cael ei gynllunio, ei ddylunio a’i ddarparu.
Mae'n rhan o waith cydweithredol ehangach rhwng Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru a phrifysgolion Cymru i newid patrymau teithio.
Mae awdur y llyfryn, Dr Lucy Baker o Brifysgol Aberystwyth, yn llais blaenllaw dros wella diogelwch a phrofiadau teithio beunyddiol menywod a merched.
Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar eu profiadau, yr hyn sy’n eu rhwystro rhag teithio’n ddiogel a chamau ymarferol i weithredwyr trafnidiaeth a llunwyr polisi.
Dywedodd y Dr Baker o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Mae degawdau o ymchwil yn dangos bod menywod yn cael profiad gwahanol iawn i ddynion wrth deithio. Maent yn fwy tebygol o gael profiad o aflonyddu ac o bryderu am eu diogelwch mewn mannau cyhoeddus, ac o addasu eu teithiau o’i herwydd. Gan amlaf menywod sy’n gwneud mwy o deithiau sy'n gysylltiedig â gofal, ac yn aml nid yw’r systemau trafnidiaeth presennol bob amser yn adlewyrchu nac yn cefnogi’r patrymau teithio hynny. Trwy ymdrin â'r anghydraddoldebau hyn yn uniongyrchol - trwy seilwaith mwy diogel, dylunio cynhwysol a chreu cyswllt ystyrlon - mae'r canllawiau hyn yn helpu’r awdurdodau i greu amgylcheddau lle mae menywod a merched, yn ogystal â theimlo’n ddiogel, hefyd yn hyderus ac yn teimlo bod croeso iddynt wrth deithio mewn modd llesol.
"Mae hefyd yn cydnabod bod anghenion menywod yn newid gydol oes ac yn cael eu ffurfio gan ffactorau croestoriadol fel hil, anabledd, oedran a chyfrifoldebau gofalu. Mae'r dulliau a amlinellir yma - o gyllidebu sy'n ymateb i faterion rhywedd i ddylunio cyfranogol a gwell ymlwybro - yn cynnig ffyrdd ymarferol o sicrhau bod buddsoddiadau’n wirioneddol lesol i grwpiau amrywiol o fenywod a merched. Drwy ymgorffori'r egwyddorion hyn, gall awdurdodau lleol helpu i drawsnewid teithiau beunyddiol a chefnogi cymunedau iachach a thecach ledled Cymru."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru:
“Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymroi i greu system drafnidiaeth sy’n gweithio i bawb, ac mae’r canllawiau hyn yn gam pwysig ymlaen tuag at deithio ar droed, ar olwynion, a beicio sy’n fwy diogel a hygyrch i fenywod a merched. Drwy gydweithio’n agos ag awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a’n partneriaid mewn prifysgolion, rydym yn helpu i sicrhau bod yr heriau a wynebir gan fenywod a merched yn eu teithiau beunyddiol yn cael eu deall ac yr eir ati i ymdrin â nhw drwy gamau ymarferol ar sail tystiolaeth. Mae ein pecyn cymorth hyrwyddo teithio llesol yn cynnig dulliau y gall awdurdodau lleol eu defnyddio i greu llwybrau, lleoedd a pholisïau sy’n cefnogi teithio llesol yn hyderus, annibynnol a phleserus.”
Mae gwaith Dr Lucy Baker yn mynd y tu hwnt i ymchwil, wrth iddi gydweithredu â chyrff trafnidiaeth, sy’n dangos sut y gall arbenigedd academaidd effeithio’n uniongyrchol ar y byd go iawn.
Hi ysgrifennodd adroddiad dylanwadol 2024 ‘Safer Journeys for Women and Girls’, a gyhoeddwyd gan y Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK), a amlygodd raddfa’r trais ar sail rhywedd a brofwyd gan fenywod a merched sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Drwy brosiect Bws Rhywedd+ THINK, gweithiodd hi gyda Trafnidiaeth Cymru ar weithdai ymchwil a ystyriodd brofiadau menywod o ddiogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan ddarparu dealltwriaeth hanfodol, gan arwain at gamau newydd.
Cyfrannodd i drafodaethau panel mewn digwyddiadau a drefnwyd gan y Cydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr dan arweiniad y diwydiant bysiau a choetsys a chan yr Adran Drafnidiaeth a ystyriwyd sut i wella diogelwch menywod.
Mae ganddi hefyd bartneriaeth â Chymorth i Ferched Cymru a Stagecoach De Cymru i ddarparu hyfforddiant rheng flaen i yrwyr bysiau, i helpu staff i adnabod aflonyddu, adnabod arwyddion o drais ar sail rhywedd, ymateb yn ddiogel ac yn briodol i ddigwyddiadau, a chreu amgylcheddau mwy diogel i deithwyr.
AU7826