Geowyddorau Inni i Gyd Cymru – Hysbysiad Diogelu Data

Mae Geowyddorau Inni i Gyd Prifysgol Aberystwyth (GiG PA) yn ddigwyddiad deuddydd cyffrous i gyflwyno myfyrwyr Lefel A i'r geowyddorau a'r byd gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion heddiw.

Prifysgol Aberystwyth yw'r rheolwr data ac mae'r hysbysiad hwn yn egluro sut rydym ni'n trin ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth diogelu data gyfredol y Deyrnas Unedig.

 

Sut rydym ni'n cael eich data personol?

Rydym yn cael eich data personol yn uniongyrchol gennych chi/gan arweinydd eich grŵp ysgol. Er mwyn ein cynorthwyo i weinyddu trefn archebu'r digwyddiad, mae gofyn i chi lenwi ffurflen gais ar-lein.

Ar gyfer pobl ifanc byddwn pob amser yn gofyn caniatâd gan yr ysgol a'r rhiant/gofalwr/gwarcheidwad.

 

Pam fod arnom ni angen eich data personol?

  1. I weinyddu'r digwyddiad, ac anfon gwybodaeth berthnasol ymlaen.
  2. At ddibenion monitro sy'n caniatáu i dîm GiG PA:  
    • annog mwy o bobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i ystyried y maes geowyddorau.
    • gwerthuso'r gweithgareddau a ddarperir a darparu darlun clir o'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw.  
    • cyflawni gofynion adrodd allanol gorfodol i gyllidwyr fel Geological Society of London, Quaternary Research Association, a'r British Society for Geomorphology.
  1. I sicrhau iechyd, diogelwch a lles pawb sy'n mynychu ein digwyddiadau e.e. sicrhau ein bod yn ymwybodol o gyflyrau meddygol, anableddau a gwahaniaethau dysgu.  
  2. I gysylltu â chi yn y dyfodol er mwyn holi am eich llwybr i addysg uwch.
  3. I anfon gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau sydd ar y gweill.  

 

Pa wybodaeth rydym ni'n ei chasglu ac ar ba sail?

Rydym yn casglu'r wybodaeth ganlynol am bawb sy'n cymryd rhan yn ein gweithgareddau. Mae hyn yn helpu Tîm GiG PA i ddangos bod ein gweithgareddau yn ymgysylltu â phobl ifanc o gefndiroedd nad ydynt yn cael cynrychiolaeth ddigonol o fewn Addysg Uwch Geowyddorau ar hyn o bryd.  

  • Enw
  • Rhagenwau
  • Manylion cyswllt 
  • Dyddiad geni  
  • Rhywedd   
  • Ethnigrwydd
  • Rhuglder yn y Gymraeg
  • Manylion yr ysgol

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth ychwanegol i sicrhau eich iechyd a'ch diogelwch yn ystod digwyddiad Geowyddorau Inni i Gyd Cymru. Gall hyn gynnwys:

  • Gofynion dietegol 
  • Manylion cyswllt brys  
  • Alergeddau 
  • Anableddau 
  • Gofynion hygyrchedd
  • Anghenion dysgu ychwanegol
  • Gwybodaeth iechyd/ feddygol

Bydd lluniau'n cael eu tynnu yn y digwyddiad a bydd yn cael ei ffilmio er mwyn hyrwyddo'r digwyddiad GiG PA y byddwch yn ei fynychu ac i hyrwyddo digwyddiadau'r dyfodol. Bydd y lluniau a dynnir a'r fideos a ffilmir (a allai gynnwys eich delwedd) yn cael eu defnyddio yn y lleoedd canlynol:

  • Ar wefan GiG PA
  • Mewn ymgyrchoedd traddodiadol (llyfrynnau, prosbectws, taflenni, posteri, baneri, stondinau arddangos).
  • Ar brintiau copi caled, y gellir eu harddangos o amgylch adeilad yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac mewn diwrnodau agored ac ymweliadau prifysgol.
  • Mewn datganiadau i'r wasg neu erthyglau yn y cyfryngau, naill ai ar-lein neu gopi caled.
  • Ar y cyfryngau cymdeithasol ehangach, ymgyrchoedd rhaglennol digidol ac e-byst.

Os oes gennych unrhyw wrthwynebiad i'r defnydd o'ch delwedd at y dibenion uchod, cysylltwch â ni.

Sail Gyfreithiol

Mae'r gwaith a wneir gan Geowyddorau Inni i Gyd i hyrwyddo ymgysylltiad ehangach yn y geowyddorau a chyfranogiad mewn addysg uwch yn cael ei wneud er budd y cyhoedd (Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU). 

Byddwn yn casglu gwybodaeth gyswllt gennych megis enw a chyfeiriad e-bost i ymrwymo, gobeithio, i gontract gyda chi i ddarparu'r digwyddiad a'r llety, lle bo angen (Erthygl 6(1)(b) GDPR y DU). 

Byddwn yn gofyn am Ddata Categori Arbennig megis eich anghenion dietegol, alergeddau a gofynion hygyrchedd. Mae'n bosib y byddwn hefyd yn gofyn am wybodaeth feddygol os ydych chi'n cymryd rhan yn ein taith faes. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei phrosesu ar sail rhwymedigaeth gyfreithiol (Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974) a chyda'ch caniatâd penodol (Erthygl 9 (2)(a)).

Os ydych chi'n hapus i gael eich cynnwys ar ein rhestr bostio ar gyfer digwyddiadau'r dyfodol ac i ni gysylltu â chi i ofyn am eich dewisiadau addysg uwch a'ch dewisiadau gyrfa, eich caniatâd fydd y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol. Gallwch dynnu caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Gallwch wneud hyn trwy gysylltu â get-into-geoscience@aber.ac.uk neu trwy ateb unrhyw e-bost gennym gyda'r pwnc 'Datdanysgrifio’.

 

Pwy fydd yn cael gweld fy nata personol?

Dim ond yr aelodau o dîm GiG PA sydd angen gweld eich gwybodaeth neu rannau o'ch gwybodaeth fydd yn cael eu hawdurdodi i wneud hynny. Bydd rhywfaint o wybodaeth berthnasol yn cael ei rhannu gyda chydweithwyr yn ein swyddfa gynadledda er mwyn trefnu'r archeb arlwyo a'r llety.

Byddwn yn rhannu ystadegau dienw gyda'n cyrff cyllido a'n partneriaid e.e. Geological Society of London, Quaternary Research Association, a'r British Society for Geomorphology. Ni fydd modd eich adnabod o'r wybodaeth.

 

Sut mae fy nata personol yn cael ei storio ac am ba hyd?

Caiff eich data personol, gan gynnwys lluniau a ffilmiau ac eithrio gwybodaeth feddygol, ei storio'n ddiogel ar rwydwaith diogel Prifysgol Aberystwyth am gyfnod o 6 mlynedd ar ôl digwyddiad, a bydd y data'n cael ei adolygu'n flynyddol.  Ar ôl y cyfnod hwn gellir cadw lluniau a fideos at ddibenion archifol.   Bydd eich gwybodaeth feddygol yn cael ei dileu ar ôl i'r digwyddiad GiG PA rydych chi'n ei fynychu ddod i ben.

Rydym ni eisiau cadw eich data am y cyfnod hwn i weld sut rydych chi'n symud ymlaen i Addysg Uwch. Byddwn yn cysylltu â chi yn y dyfodol gydag arolwg digidol i weld a ydych chi'n dilyn un o bynciau’r geowyddorau ym maes Addysg Uwch ac a ydych chi'n graddio er mwyn mesur effaith Geowyddorau Inni i Gyd ar y rhai sy'n cymryd rhan.   

Byddwn yn cadw gwybodaeth o geisiadau aflwyddiannus hyd at ddechrau digwyddiad Geowyddorau Inni i Gyd Cymru.

 

Beth yw fy hawliau?

O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau yn ddibynnol ar ein rheswm dros brosesu eich gwybodaeth.

Pan fyddwn yn prosesu eich data personol ar sail rhwymedigaeth gyfreithiol, mae gennych yr hawl: i gael gweld eich gwybodaeth bersonol, i gywiro ac i gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.

Pan fyddwn yn prosesu eich data personol ar sail cyflawni tasg er budd y cyhoedd, mae gennych yr hawl: i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i gywiro, i wrthwynebu, i gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol ac i beidio â bod yn destun penderfyniadau a phroffilio awtomatig.

Pan fyddwn yn prosesu eich data personol ar sail caniatâd, mae gennych yr hawl: i dynnu eich caniatâd yn ôl (gweler uchod sut i wneud hyn) i gael gweld eich gwybodaeth bersonol, i gywiro, i ddileu, i gyfyngu ar brosesu ac ar gludadwyedd eich gwybodaeth bersonol.

Pan fyddwn yn prosesu eich data personol ar sail rhwymedigaeth gyfreithiol, mae gennych yr hawl: i gael gweld eich gwybodaeth bersonol, i gywiro ac i gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.

Ewch i dudalennau Diogelu Data'r Brifysgol i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau. 

Os hoffech chi arfer unrhyw un o'ch hawliau, cysylltwch â get-into-geoscience@aber.ac.uk.

 

Mwy o Wybodaeth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â get-into-geoscience@aber.ac.uk yn y lle cyntaf. Os ydych chi'n anhapus â'r ffordd y mae eich gwybodaeth bersonol wedi ei phrosesu, cewch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol.

Os byddwch chi'n dal yn anfodlon, mae gennych chi'r hawl i gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.