Dr Sioned Llywelyn

BSc, MSc, PhD, FHEA

Dr Sioned Llywelyn

Employability and Employer Engagement Manager

Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Manylion Cyswllt

Fel Rheolwr Cyflogadwyedd ac Ymgysylltu â Chyflogwyr, mae Sioned yn cydweithio’n agos â Phennaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd a’r Rheolwr Gyrfaoedd a Menter, ac yn chwarae rhan ganolog yn natblygu a chyflawni strategaeth gyflogadwyedd y Brifysgol. Mae’n arwain y gwaith o wella cyflogadwyedd a hynt graddedigion, gyda ffocws penodol ar feithrin cysylltiadau â chyflogwyr a chyn-fyfyrwyr, ac ar wella ac ehangu gwasanaethau allweddol gan gynnwys darpariaeth rheng-flaen ac ar-lein, systemau a data digidol, profiad gwaith, a mentrau cymorth wedi’u targedu.
 
  • 2014–2019: Graddiodd Sioned gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna cwblhaodd radd MSc mewn Newid, Effaith ac Addasu Amgylcheddol. Wedi derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cwblhaodd PhD yn 2019 ar hyrwyddo ymwybyddiaeth geomorffolegol mewn cyd-destun diwylliant Cymraeg, gan addysgu ar fodiwlau cyfrwng Cymraeg a Saesneg a dod yn Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch.
  • 2019: Gweithiodd ym Menter a Busnes ar brosiect ymchwil yn mesur allyriadau nwyon tŷ gwydr ar ffermydd Cymru, cyn symud i rôl fel Rheolwr Datblygu a Mentora, yn cefnogi unigolion a busnesau drwy fentrau mentora a datblygu.
  • 2020–2021: Dychwelodd i Brifysgol Aberystwyth fel Arbenigwr Dysgu Ar-lein gyda’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu, gan gefnogi staff i ddarparu addysg ar-lein o safon uchel, a datblygu hyfforddiant ac adnoddau cyfrwng Cymraeg.
  • 2021–2024: Penodwyd yn Arweinydd Sgiliau Digidol o fewn Gwasanaethau Gwybodaeth, gan reoli’r Prosiect Sgiliau Digidol a chreu cyfleoedd ac adnoddau i wella hyder a llythrennedd digidol myfyrwyr a staff ar draws Prifysgol Aberystwyth.
  • 2024–2025: Bu’n Rheolwr Prosiect Dysgu Ar-lein, yn arwain ar sefydlu a rheoli partneriaeth Prifysgol Aberystwyth gyda Higher Ed Partners.

  • 13:00-16:30

PhD (DGES, Prifysgol Aberystwyth, Ionawr 2020): "Archwilio’r posibiliadau ar gyfer mewnblannu dealltwriaeth geomorffolegol o fewn cadwraeth treftadaeth ddaearyddol Cymru"

 

Embedding employability into a business school dissertation module. / Fry, Jonathan; Herring, Bev; Llywelyn, Sioned et al.
Unpacking the 3Es: A national perspective. ed. / Stuart Norton; Andy Penaluna. Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru | The Higher Education Funding Council for Wales, 2024. p. 17-26.

Research output: Chapter in Book/Report/Conference proceedingChapter

Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil