Pam hyffordddi gyda ni?

Mae gennym hanes hir a llwyddiannus o ddarparu rhaglenni gradd arloesol ar gyfer darpar athrawon yn Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth.

Ers 1872, mae ein dulliau dysgu trwy ymchwilio ac ymarfer wedi datblygu cenedlaethau o athrawon sydd wedi ysbrydoli disgyblion o bob cefndir i fod yn llwyddiannus.

Dyma rai o'r rhesymau pam y dylech chi ystyried Aberystwyth ar gyfer eich blwyddyn Addysg Gychwynnol i Athrawon:

  • Mae ein Addysg Gychwynnol i Athrawon (TAR) yn eich galluogi i brofi hyfforddiant athrawon mewn ysgolion Cynradd ac Uwchradd.
  • Bydd pob myfyriwr sy’n bodloni ein gofynion mynediad ac yn cofrestru ar y cwrs fydd yn dechrau ym mis Medi yn cael cynnig Llety am ddim yn y Brifysgol ar gyfer yr 8 wythnos y disgwylir i’r myfyrwyr fod ar y campws. Mae hyn yn golygu y cewch fyw mewn neuadd ar gampws Prifysgol Aberystwyth trwy gydol yr amser y byddwch yn y brifysgol (8 wythnos), defnyddio’r holl adnoddau (Undeb y Myfyrwyr, Llyfrgell, aelodaeth Blatinwm o’r Gampfa am ddim), a dod i adnabod y myfyrwyr eraill ar eich cwrs a fydd yn cychwyn ar eu taith addysgu hwythau.
  • Byddwch yn cael eich dysgu a’ch mentora gan ymarferwyr â phrofiad, gwybodaeth a sgiliau helaeth i’w cyflwyno i chi yn ystod eich blwyddyn ffurfiannol fel myfyrwyr ymarfer dysgu.
  • Rydym mewn partneriaeth ag ysgolion Cynradd ac Uwchradd ar draws canolbarth a gogledd Cymru. Ewch i’n tudalen benodol i ganfod mwy am y partneriaid posibl y gallech fod yn cydweithredu â nhw yn ystod eich blwyddyn hyfforddi athrawon. Mae ein partneriaid hefyd yn ein cynorthwyo â’r cyfweliadau, felly byddwch yn cwrdd ag un ohonynt yn ystod eich cyfweliad TAR.
  • Os nad oes gennych radd B TGAU mewn Mathemateg, Cymraeg neu Saesneg, gallwch sefyll prawf Cyfwerthedd yn y Brifysgol. Os oes gennych radd D neu is mewn Gwyddoniaeth ar hyn o bryd, byddwn hefyd yn cynnig cyfle ichi sefyll papur cyfwerthedd yn y pwnc hwn.
  • Yn rhan o’r drefn ymgeisio, gofynnir i bob ymgeisydd sefyll profion mynediad fydd yn cynnwys Rhifedd, Llythrennedd (Saesneg) a phrawf Llythrennedd Cymraeg (ar gyfer y rhai fydd yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig). Ceir rhagor o wybodaeth am y Profion Mynediad ar y dudalen benodol.