Ffioedd a Chyllid

Sut i dalu am y flwyddyn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon

Mae ein holl fyfyrwyr yn gymwys i dderbyn benthyciad myfyriwr ac mae cymhorthdal sy’n talu am y ffioedd dysgu ar gael i rai. Yn ogystal, mae cymhellion ariannol ar gael i’r rheini sy’n ystyried Addysg Gychwynnol i Athrawon. Sgroliwch i lawr y dudalen i gael rhagor o wybodaeth.

 

 

Faint yw’r ffïoedd dysgu?

£9,000 yw’r ffïoedd sydd wedi’u gosod am Addysg Gychwynnol i Athrawon ym Mhrifysgol Aberystwyth (myfyrwyr y DU). £14,000 yw'r ffioedd dysgu i fyfyrwyr rhyngwladol. 

A oes bwrsariaethau ar gael?  

Caiff cynllun cymhelliant newydd ar gyfer pynciau â blaenoriaeth ei lansio erbyn blwyddyn academaidd 2023-2024. Bydd y cynllun hwn yn parhau i gynnig cymhelliant i’r athrawon hynny sydd eu hangen fwyaf yn ysgolion Cymru. Bydd hawl gan bob myfyriwr sydd â 2.2 neu’n uwch mewn Bioleg, Cemeg, Cymraeg, Ffiseg, Ieithoedd Tramor Modern neu Mathemateg i gael cymhelliant o £15,000. Gwneir tri thaliad i fyfyrwyr cymwys yn ystod eu rhaglen AGA a dechrau eu gyrfa.

Mae £5,000 ychwanegol hefyd ar gael i'r myfyrwyr sy'n dysgu addysgu unrhyw bwnc uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’n bosibl y bydd £5,000 ychwanegol ar gael ar lwybrau Cynradd ac Uwchradd fel rhan o’r cymhelliant Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME).

Sylwer: Mae’r wybodaeth yn yr adran ar bwy sy’n gymwys am grant, swm y grant, dosbarthiad cymwysterau gradd a thalu’r grant ar y tudalennau hyn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2022-2023 a blynyddoedd blaenorol. Bydd manylion pellach ar y cynllun newydd ar gael yn fuan.

Nid yw Gweinidogion Cymru wedi llunio’r Cynllun Cymhelliant Hyfforddi Athrawon (2023) (“y Cynllun”) eto. Bydd copi o’r Cynllun ar gael yma unwaith y bydd y Gweinidogion wedi arfer eu pwerau i’w lunio.

Am rhagor o wybodaeth ewch i gwefan Llywodraeth Cymru.