Mae’r cwrs TAR yn rhaglen astudiaethau proffesiynol ddwys iawn. Yn y brifysgol, gallwch ddisgwyl bod mewn dosbarthiadau rhwng 9yb a 5yp, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Yn ystod eich cyfnodau ymarfer dysgu, disgwylir ichi fod yn yr ysgol yn ystod yr oriau ysgol. Efallai gofynnir ichi hefyd gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, megis nosweithiau rhieni a chyfarfodydd staff. Oherwydd yr oriau gwaith hir a’r amser sy’n cael ei argymell ar gyfer paratoi a myfyrio, fe’ch cynghorir i beidio â gweithio mewn mannau eraill yn ystod y cwrs.