Hilary McConnell B.Add MA

 Hilary McConnell

University Link Tutor

Ysgol Addysg

Manylion Cyswllt

Proffil

Mae Hilary McConnell yn Diwtor Cyswllt yr Ysgol Addysg, Prifysgol Aberystwyth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cafodd Hilary, sy'n siarad Cymraeg yn rhugl, ei B.Add. yng Nghaerdydd ac yn ogystal ag addysgu ar draws y grŵp oedran 3 – 7 oed (dosbarthiadau oedran sengl a chymysg) yn Rhondda Cynon Taf a Cheredigion, mae ganddi brofiad o fod yn Bennaeth Uned Blynyddoedd Cynnar ac Arweinydd Cyfnod Sylfaen. Ategodd Hilary ei chymhwyster gyda ‘Chymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth’ yn 2004 ac M.A. mewn Addysg yn 2009 gan ymchwilio i ‘Gwrando ar Ddysgwr Ifanc’ ac fe ddaeth yn arolygydd Estyn yn 2013.

Mae ganddi hefyd ugain mlynedd o brofiad o weithio mewn rôl ymgynghorol Blynyddoedd Cynnar/Cyfnod Sylfaen ar draws ALlau Ceredigion a Sir Gaerfyrddin ac fe gyflwynodd hyfforddiant gychwynnol ar ddyfodiad y Cyfnod Sylfaen. Mae ganddi hefyd brofiad fel Arweinydd ar gyfer Addysg Bersonol a Chymdeithasol o fewn ALl Ceredigion (CS/CA2/CA3/CA4).

Mae Hilary wedi coetsio llawer o ymarferwyr, wedi hyfforddi athrawon eraill i fod yn goetsys ac wedi cyflwyno ei gwaith ar ddatblygu Sgiliau Meddwl mewn Cynadleddau Cenedlaethol a Rhyngwladol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn addysgeg Dysgu Sylfaen ac arweiniodd ei diddordeb hi i ymgymryd ag wythnos astudio yn Reggio Emilia, yr Eidal (2007), ac i ymweld ag ysgolion meithrin o amgylch Christchurch, Seland Newydd (2004).

Ymchwil

Mae ei ffocws ar addysgeg Dysgu Sylfaen, ynghyd â’i diddordeb mewn datblygiad proffesiynol parhaus, yn llywio ei darpariaeth ac ymchwil DProf cyfredol.