MA Addysg (Cymru)

Mae'r MA Addysg (Cymru) cenedlaethol yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol ac arloesol ar gyfer gweithwyr addysgol proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau gyrfa i uwch arweinwyr.

Mae'r byd addysg yng Nghymru yn newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gydweithio'n uniongyrchol ag amrywiaeth o ran ddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru-yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i wella ei wybodaeth broffesiynol, ymwneud ag ymchwil, a gwella eu hymarfer proffesiynol. Anogir darpar fyfyrwyr i gysylltu â Dr Megan Hicks neu Dr Lucy Trotter (nat-edu@aber.ac.uk) am fwy o wybodaeth.

Ar gael hefyd:

 

Manylion cyswllt a gwybodaeth am wneud cais:

Rydym yn annog darpar fyfyrwyr i gysylltu â Dr Megan Hicks, Cyfarwyddwr Rhaglen y cwrs MA neu Dr Lucy Trotter (nat-edu@aber.ac.uk) i gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau ac i gofrestru i ddod i un o'n nosweithiau agored ar-lein (cynhelir y rhain ym misoedd Mai, Ebrill, Mehefin, Gorffennaf).

Mae ceisiadau’n cael eu derbyn ar hyn o bryd. Byddant yn cael eu hystyried gan banel adrannol a phanel cyllido cenedlaethol. Cynhelir y paneli rhwng mis Mai a mis Medi. Mae’r panel fydd yn ystyried eich cais chi yn dibynnu pryd y bydd y cais yn ein cyrraedd. 

Bydd ceisiadau'n cael eu derbyn tan 31ain Awst, ond anogir ymgeiswyr i’w cyflwyno cyn gynted â phosibl.

Mae manylion ynglŷn â dechrau'r broses ymgeisio i’w gweld ar un o broffiliau’r cwrs (dolenni uchod)

Proffil Myfyriwr - Bethan Payne

Roeddwn yn awyddus i gofrestru ar y MA Addysg, gyda ffocws ar ADY, gan mai maes o ddiddordeb personol cryf oedd hwn i mi ar ôl gweithio yn y maes hwn am nifer o flynyddoedd. Roedd yn fuddiol cael y dyddiadau cyflwyno ar gyfer yr aseiniadau yn ystod gwyliau’r ysgol gan nad oedd hyn yn golygu fy mod yn gorfod cydbwyso fy astudiaethau gyda’m swydd o ddydd i ddydd yn ormodol. Er y gall y syniad o gwblhau traethawd hir Meistr ymddangos yn frawychus, cawsom ein hannog i feddwl am faes yr oeddem yn awyddus i’w ddeall yn well. Dewisais ymchwilio i ddefnydd effeithiol o gymorth cynorthwywyr addysgu, pwnc craidd i’m rôl, a helpodd wedyn i fireinio a gwella fy ymarfer o ran dyrannu CA. Byddwn yn argymell y MA Addysg yn fawr gan ei fod yn cynnig cyfle gwerthfawr i ymgymryd ag ymchwil sy’n llywio ac yn gwella ymarfer proffesiynol yn uniongyrchol.

Bethan Payne MA Addysg (Cymru) ADY (CADY a ALl)  

Proffil Myfyriwr - Rob Randall

Shwmae, Rob ydw i, ac fe wnes i gwblhau’r MA Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dewisais y cwrs i ddyfnhau fy nealltwriaeth o ymarfer sy’n seiliedig ar ymchwil ac i gefnogi fy natblygiad proffesiynol parhaus.

Y rhan fwyaf gwerth chweil oedd dylunio a chynnal fy mhrosiect ymchwil bach fy hun, gan gyfrannu at drafodaethau ar y ffyrdd gorau o gefnogi dysgwyr ag ADY. Roedd cydbwyso astudio ochr yn ochr â gwaith a bywyd teuluol, gyda dau o blant bach, yn heriol, ond yn gwbl bosibl gyda chyfarwyddyd cyson a chefnogaeth fugeiliol fy nghynghorydd.

Mae’r rhaglen wedi cael effaith amlwg ar fy ymarfer proffesiynol, gan gryfhau fy nealltwriaeth o fethodolegau ymchwil ac yn fy ngalluogi i werthuso dulliau addysgol yn fwy beirniadol.

I unrhyw un sy’n ystyried y MA, mae’n heriol ond yn hynod werth chweil. Mae’r cyfle i gydweithio ag addysgwyr eraill a’r gefnogaeth gref gan y staff yn gwneud y daith yn un y gellir ei rheoli ac sy’n gyfoethog iawn – felly byddwn yn eich annog yn fawr i fynd amdani!

Rob Randall MA Addysg (Cymru) ADY

Proffil Myfyriwr - Meg McFarlane

Cwblheais y MA Addysg Cymru ddwy flynedd yn ôl. Mwynheais yn arbennig ail-ymgysylltu ag astudiaethau academaidd, datblygu fy nealltwriaeth o’r newidiadau oedd yn digwydd gyda gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru, a sut yr oedd hyn yn ymwneud â’m hymarfer. Helpodd y cwrs fi i gymryd cam yn ôl o fy nysgu o ddydd i ddydd ac ystyried yn feirniadol yr hyn yr oeddwn yn ei wneud yn yr ystafell ddosbarth, gan nodi beth oedd yn wirioneddol bwysig a’r pethau y gallwn eu gwella’n ymarferol. Mwynheais yn arbennig yr ymchwil ar gyfer fy nhraethawd hir – hwn oedd y ffactor a’m hysgogodd i wneud cais i astudio’r EdD. Mae cael y cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau addysgu ar-lein a thrafod syniadau a safbwyntiau gwahanol gyda chydweithwyr ac arbenigwyr mewn ymchwil addysgol o bob cwr o’r wlad bob amser yn ysbrydoledig.

Meg McFarlane, MA Addysg (Cymru)

Mae Meg yn wreiddiol o Aberdaugleddau ac ar hyn o bryd yn Arweinydd Dysgu Ieithoedd Modern yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd. Symudodd Meg yn ôl i Sir Benfro ddeg mlynedd yn ôl ar ôl cyfnod yn dysgu Drama ym Manceinion.

Argymhelliad Pennaeth

Argymhelliad gan Bennaeth Uwchradd

Argymhelliad gan Bennaeth Uwchradd

“Fy nod yw arwain ysgol sy’n flaengar ei meddylfryd, yn arloesol ac yn darparu cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel i’n disgyblion, fel eu bod yn cael eu herio i feddwl yn ddwfn ac yn greadigol yn eu dysgu. Er mwyn galluogi disgyblion i wneud hyn, mae angen staff sy’n ymwybodol o ddamcaniaethau addysgol cyfredol, sy’n gallu myfyrio’n feirniadol ar ymchwil ac sy’n barod i roi cynnig ar syniadau newydd yn yr ystafell ddosbarth. Rwyf eisiau athrawon ac arweinwyr sy’n gallu cyfrannu at ddatblygiad yr ysgol ac sy’n gallu herio ein meddylfryd er mwyn sicrhau ein bod yn symud ymlaen fel ysgol mewn ffordd sy’n cefnogi ein disgyblion orau. Rwy’n gweld bod annog athrawon ac arweinwyr i ymgymryd ag ymchwil addysgol drwy raglenni’r MA a’r EdD yn meithrin y synnwyr hwn o chwilfrydedd ac yn datblygu staff sy’n gallu meddwl yn feirniadol i herio eu hunain a’r ysgol i fod y gorau y gallwn fod fel bod y disgyblion, yn y pen draw, yn gallu bod y gorau y gallant fod.”

 

Manylion Ymgeisio

Ffurflenni

Mae ffurflen gais cwrs MA Addysg Genedlaethol (Cymru) a'r gwahanol lwybrau wedi’u rhestru yma:

2026-27 National MA Supplementary Application Form Cymraeg - WORD

Ffurflen Gais Cydnabod Dysgu Blaenorol

MA Addysg (Cymru) - Cydnabod Dysgu Blaenorol

Gweler gwybodaeth ynglŷn â Chydnabod Dysgu Blaenorol isod.

Mae'n nodi'r broses o gydnabod dysgu a gyflawnwyd gan unigolion cyn cael eu derbyn ar y cwrs MA. Mae'n rhoi prifysgolion mewn sefyllfa i wneud eithriadau ar gyfer modiwlau neu feysydd pwnc sydd eisoes wedi'u 'cwblhau' gan ymgeiswyr, naill ai trwy addysg ffurfiol neu trwy brofiad a datblygiad proffesiynol. Felly ni fydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus ail-wneud na chwblhau dysgu y cydnabyddir eu bod eisoes wedi'i gyflawni. Yn y lle cyntaf, dylai darpar ymgeiswyr gysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen i gael cyngor.

Mae’r polisi a'r ffurflen ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol i’w cael yma:

Polisi Cenedlaethol Ar Gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol

Ffurflen Gais Cydnabod Dysgu Blaenorol

Cymhwysedd Ariannu, proses dyrannu a thelerau ac amodau MA Addysg (Cymru) cenedlaethol

Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gael i ymgeiswyr cymwys. I gael gwybodaeth am hyn ac i weld amodau/cymhwysedd meini prawf cyllid am y flwyddyn academaidd hon, cliciwch ar hyn - National MA Funding Criteria - Word

Os hoffech drafod pa mor gymwys yr ydych i gael cyllid, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen.

Hefyd, mae croeso i ymgeiswyr sy'n cyflawni'r gofynion mynediad wneud cais i astudio’r MA trwy dalu eu ffordd eu hunain.

Mae rhai Cwestiynau Cyffredin defnyddiol i’w gweld ar wefan cwrs MA Cenedlaethol Addysg (Cymru)

 

Cwestiynau Cyffredin

Ydw i'n gymwys am gyllid?

 

Gweler meini prawf y cyllid.

Mae meini prawf cymhwysedd y cyllid yn datgan bod yn rhaid imi fod ym mlwyddyn 3 i 6 o ymarfer ar ddechrau'r cwrs. Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid ichi fod ym mlynyddoedd 3 i 6 o'ch gwaith addysgu ar ôl cwblhau eich cyfnod sefydlu fel ANG pan fydd y cwrs i fod i ddechrau (nid pan fyddwch yn cyflwyno cais)

 

Oes rhaid imi fod yn gofrestredig gyda Chyngor y Gweithlu Addysg?

Oes, er mwyn bod yn gymwys am gyllid mae'n rhaid ichi fod yn gofrestredig gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn y categori athro ysgol. Mae'n rhaid cynnal hyn am hyd y cwrs.

Pam mae'r cyllid ar gael i athrawon sydd ym mlynyddoedd 3 i 6 o ymarfer yn unig?

 

Llywodraeth Cymru sy'n cynnig y cyllid ar gyfer y rhaglen hon, fel rhan o'r Pecyn i Athrawon Gyrfa Gynnar.

 

Ar ôl cwblhau fy nghyfnod sefydlu fel ANG, treuliais gyfnod yn gweithio dramor / cymerais saib yn fy ngyrfa. Ydy hyn yn cyfrif?

 

Ni chaiff amser a dreuliwyd yn gweithio fel athro y tu allan i'r DU, neu amser a gymerwyd fel saib yn eich gyrfa, ei gyfrif fel blynyddoedd yn ymarfer.

Oes angen imi feddu ar gontract athro am isafswm cyfnod, e.e. tymor neu flwyddyn academaidd? Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghontract yn dod i ben yn ystod y rhaglen?

 

Ydych, ar yr amod bod cyfanswm eich contractau yn 0.4CALl neu’n uwch, byddwch chi’n gymwys i gyflwyno cais am gyllid  

 

Mae gen i gyflogaeth fel athro mewn nifer o ysgolion ac mae cyfanswm fy nghontractau yn werth mwy na 0.4 CALl. Ydw i'n gymwys am gyllid?

 

Gallwch, ar yr amod bod cyfanswm eich contractau yn 0.4CALl neu’n uwch, byddwch chi’n gymwys i gyflwyno cais am gyllid  

 

Rwy'n athro rhan-amser a/neu’n athro cyflenwi. Ga i gyflwyno cais am gyllid?

 

Cadarnheir cymhwysedd ar ddechrau’r rhaglen. Ar yr adeg honno, bydd yn rhaid i chi feddu ar gontract ar gyfer o leiaf un tymor. 

 

Oes rhaid imi ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl imi gwblhau'r MA mewn Addysg?

 

Wrth dderbyn y cyllid hwn, mae gofyn i athrawon barhau i weithio yng Nghymru, yn y system addysg a gynhelir am isafswm o 2 flynedd ar ôl cwblhau'r rhaglen.

 

Oes gofyniad o ran cyfnod preswylio cyn i'r cwrs ddechrau?

Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, rhaid eich bod wedi bod yn preswylio yng Nghymru am 3 blynedd cyn dechrau'r cwrs ac mae’n rhaid ichi aros yng Nghymru am hyd y rhaglen.

 

Hoffwn i hunan ariannu; faint yw'r ffioedd?

 

£6,500

Rydw i wedi astudio ar lefel Meistr o'r blaen. Ydw i'n gymwys am gyllid ar gyfer y rhaglen hon?

 

Os ydych chi wedi astudio pwnc penodol ar raglen Meistr o'r blaen, rydych yn dal i fod yn gymwys i gyflwyno cais am gyllid (ar yr amod eich bod yn bodloni'r holl feini prawf eraill). Sylwer na fyddwch yn gymwys i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer yr MA Cenedlaethol os ydych wedi astudio MEd a ariannwyd o'r blaen.

 

Roedd fy nghais am gyllid yn aflwyddiannus. Beth yw fy opsiynau?

Os na fydd eich cais am gyllid yn llwyddiannus, gallai fod modd ichi gael lle ar y cwrs o hyd, fel myfyriwr sy'n hunan ariannu.

Roedd fy nghais am gyllid yn aflwyddiannus. Sut ga i apelio yn erbyn y penderfyniad?

 

Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn fodlon ar benderfyniad Panel Dyfarnu Cyllid yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) gysylltu â Chadeirydd y Panel yn y lle cyntaf.

 

Pwy sy'n penderfynu ar ddyrannu cyllid?

 

Wrth dderbyn eich cais, bydd y Tîm Derbyn Myfyrwyr yn y sefydliad o'ch dewis yn sicrhau eich bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Yna bydd Panel Dyfarnu Cyllid yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) yn asesu pob cais cymwys er mwyn pennu'r canlyniad a dyfarnu cyllid i'r rhai sy'n llwyddiannus.  Mae'r Panel yn cynnwys cynrychiolwyr o bob prifysgol sy'n bartner, ac mae'n atebol i'r Bwrdd Rheoli Cenedlaethol (sydd ag aelodau o Lywodraeth Cymru), er mwyn sicrhau atebolrwydd a goruchwyliaeth eglur.

 

Sawl lle a ariennir sydd ar gael?

 

Mae 500 o leoedd a ariennir ar draws partneriaeth yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru)

 

Ydw i'n gymwys am fenthyciad myfyriwr?

 

Os dyfernir cyllid Llywodraeth Cymru ichi ar gyfer yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), mae'n rhaid ichi beidio â chyflwyno cais am gymorth ariannol i ôl-raddedigion drwy'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) hefyd. Caiff myfyrwyr nad ydynt yn derbyn cyllid Llywodraeth Cymru gyflwyno cais i'r SLC.