Statws Elusennol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn elusen. Mae’n Elusen Eithriedig* (cyfeirnod X 6599). Dyma fanteision ein statws elusennol:
  • Caiff y Brifysgol adennill treth gan Gyllid y Wlad o dan y cynllun Cymorth Rhodd, sy’n sicrhau cynnydd o bron i draean yng ngwerth rhoddion gan drethdalwyr y DU.
  • Mae trethdalwyr ar y gyfradd uwch hefyd yn gymwys i gael didyniadau treth bersonol am roddion i’r Brifysgol.
  • Nid yw’r Brifysgol yn talu unrhyw dreth incwm na threth etifeddiaeth ar roddion y mae’n eu derbyn ar ffurf arian neu eiddo. Mae rhodd sy’n cael ei roi i’r Brifysgol mewn Ewyllys yn lleihau’r dreth sy’n daladwy ar yr ystad.
  • O roi stociau a chyfranddaliadau i’r Brifysgol, mae’r rhoddwr yn lleihau’i atebolrwydd treth incwm ac mae’r rhodd yn rhydd rhag y dreth ar enillion cyfalaf.
  • Mae rhai elusennau wedi’u ‘heithrio’ rhag goruchwyliaeth y Comisiwn Elusennau oherwydd eu bod yn cael eu goruchwylio’n ddigonol gan awdurdod arall, neu’n atebol i awdurdod o’r fath. Er nad ydynt yn ddarostyngedig i awdurdod y Comisiwn Elusennau, mae’r rheolau cyfreithiol sy’n berthnasol i elusennau’n gyffredinol yn berthnasol i elusennau eithriedig.

Atodlen 2 i Ddeddf Elusenau 1993

http://www.opsi.gov.uk/acts/acts1993/ukpga_19930010_en_1

Mae'r sefydliadau a ganlyn, cyhyd ag y bônt yn elusennau, yn elusennau sydd wedi'u heithrio o fewn ystyr y Ddeddf hon, hynny yw –


(a)    unrhyw sefydliad, pe na bai Deddf Elusennau 1960 wedi cael ei phasio, a fyddai wedi'i eithrio o bwerau ac awdurdod y Comisiwn neu'r Gweinidog Addysg dan Ddeddfau Ymddiriedolaethau Elusennol 1853 i 1939 (ar wahân i unrhyw bŵer sydd gan y Comisiwn neu'r Gweinidog i gymhwyso'r Deddfau hynny yn gyfan gwbl neu'n rhannol i elusennau sydd wedi’u heithrio fel arall) gan delerau unrhyw ddeddfiad sydd heb ei gynnwys yn y Deddfau hynny heblaw am adran 9 o Ddeddf Cofrestru Llefydd Addoli 1855;1


(b)    prifysgolion Rhydychen, Caergrawnt, Llundain, Durham a Newcastle, colegau a neuaddau ym mhrifysgolion Rhydychen, Caergrawnt, Durham a Newcastle, Coleg Queen Mary a Westfield ym Mhrifysgol Llundain a cholegau Winchester ac Eton;


(c)    unrhyw brifysgol, coleg prifysgol, neu sefydliad sy'n gysylltiedig â phrifysgol neu goleg prifysgol, y mae Ei Mawrhydi yn datgan drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor ei bod yn elusen sydd wedi'i heithrio at ddibenion y Ddeddf hon;2


(da)    yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm;3


(f)    Awdurdod Cymwysterau Cwricwlwm ac Asesu Cymru;4


(i)    cwmni olynol i gorfforaeth addysg uwch (o fewn ystyr adran 129(5) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988) ar adeg pan fo sefydliad a weinyddir gan y cwmni yn cael ei ddynodi dros dro dan yr adran honno;


(k)    Bwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Victoria ac Albert;


(l)    Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Wyddoniaeth;


(m)    Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Arfdai;


(n)    Bwrdd Ymddiriedolwyr y Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew;


(o)    Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol ar Lannau Merswy;


(p)    ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig ac ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Hanes Natur;


(q)    Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Oriel Genedlaethol;


(r)    Bwrdd Ymddiriedolwyr Oriel Tate;


(s)    Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Oriel Bortreadau Genedlaethol;


(t)    Bwrdd Ymddiriedolwyr Casgliad Wallace;


(u)    Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol;


(v)    Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Forol Genedlaethol;


(w)    unrhyw sefydliad sy'n cael ei weinyddu gan neu ar ran sefydliad a gynhwysir uchod ac a sefydlwyd at ddibenion cyffredinol, neu unrhyw ddiben arbennig neu mewn perthynas â'r sefydliad a enwir yn olaf;5


(x)    Comisiwn yr Eglwys ac unrhyw sefydliad a weinyddir ganddo;


(y)    unrhyw gymdeithas gofrestredig o fewn ystyr Deddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965 ac unrhyw gymdeithas neu gangen gofrestredig o fewn ystyr Deddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974;


(z)    Bwrdd Llywodraethwyr Amgueddfa Llundain;


(za)    Bwrdd Llyfrgell Prydain;


(zb)    Bwrdd y Gronfa Gymunedol.6


 1Yn ymarferol, mae paragraff (a) yn cynnwys:

  • prifysgolion Birmingham, Bryste, Caerwysg, Hull, Leeds, Caerlŷr, Lerpwl, Manceinion, Nottingham, Reading, Sheffield a Southampton;
  • yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol;
  • yr Amgueddfa Forol Genedlaethol;
  • Corff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru ac unrhyw eiddo a freiniwyd ynddo neu a weinyddir ganddo;
  • eiddo o fewn Mesur Buddsoddi Arian Eglwysig 1958.

 2Gweddill y prifysgolion nad ydynt wedi’u cwmpasu gan (a) a:

  • sefydliadau sy'n gysylltiedig â Phrifysgolion Llundain, Manceinion a Chymru;
  • rhai ysgolion, colegau a sefydliadau meddygol a meddygol ôl-raddedig.

 3Mewnosodwyd gan Atodlen 19, paragraff 175 o Ddeddf Addysg 1993, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg 1997.


4Mewnosodwyd gan Atodlen 15, paragraff 5 o Ddeddf Addysg 1993, fel y'i diwygiwyd gan Atodlen 37, paragraff 120 o Ddeddf Addysg 1996.

5Os nad yw'r ymddiriedolwyr yn sicr a yw eu helusen wedi'i chynnwys o fewn paragraff (w), dylent geisio cyngor y Comisiwn.

6Mewnosodwyd gan Ddeddf y Loteri Genedlaethol ac ati 1993.