Canllawiau TAW

Rhif Cofrestru TAW - 123763380

Rhif Elusen - 1145141

Am cymorth neu cyngor ar TAW cysylltwch a:      

Y Swyddfa Gyllid
Canolfan Croesawu Myfyrwyr
Campws Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3FB

Ffôn: (01970) 622037
E-bost: vatstaff@aber.ac.uk

Statws Y Brifysgol:-  Mae'r Prifysgol yn elusen esempt ac yn cael ei dosbarthu fel Elsusen Esempt o fewn atodiad 9 o'r Deddf TAW 1994, o dan Nodyn 1(b) grwp 6(Addysg) a Nodyn 2A o grwp 10 (Chwaraeon).

Mae deddfwriaeth TAW yn gymhleth ac mewn llawer o achosion mae’n agored i gael ei dehongli gan swyddfa leol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC). Cysylltwch â ni a fydd yn gallu ymdrin â’ch ymholiad neu drafod yn uniongyrchol â chynghorwyr y Brifysgol neu’r swyddogion Tollau, yn ôl y gofyn.

Awgrymir yn gryf bod adrannau’n ceisio cyngor, fel a nodir ar y tudalennau hyn, am unrhyw faterion TAW sy’n destun pryder, yn hytrach na gohebu’n uniongyrchol â’r Swyddfa Tollau Tramor a Chartref.

Beth yw TAW?

Treth ar wariant defnyddwyr yw TAW. Mae’n seiliedig ar drafodion unigol yn hytrach nag incwm neu elw cyffredinol. Fe’i cynlluniwyd yn wreiddiol fel “treth syml”, ond mae eithriadau wedi arwain at swmp sylweddol o gyfraith achos a deddfwriaeth sydd wedi troi TAW yn faes trethiant cymhleth.

Mae cymhwyso cyfreithiau TAW i’r Brifysgol yn arbennig o gymhleth oherwydd bod prifysgol gyffredin yn ymgymryd â gweithgareddau mewn ystod eang o feysydd.

Mae tair prif gyfradd TAW – y gyfradd safonol, sef 20% ar hyn o bryd, y gyfradd ostyngedig, sef 5% ar hyn o bryd, a’r gyfradd sero.

Codir TAW ar y gyfradd safonol o 20% ar gyfer y rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau. Mae’r gyfradd ostyngedig yn berthnasol i gostau tanwydd a phwer yn bennaf, ac i rai gwasanaethau adeiladu penodedig. Mae’r gyfradd sero’n berthnasol i ddillad a llyfrau plant yn bennaf. Mae Cyflenwadau Eithriedig wedi’u heithrio rhag TAW yn gyfan gwbl.

Drwy ddefnyddio’r dull Eithriad Rhannol, gall y Brifysgol adennill canran fach o’r TAW a delir ar wariant gorbenion, h.y. gwariant sy’n gysylltiedig â chyflenwadau trethadwy ac eithriedig. Defnyddir y swm sy’n cael ei adennill i leihau’r atebolrwydd TAW.

Gan fod ffioedd dysgu’n ymwneud â chyflenwi addysg, ni chodir TAW ar y ffioedd sy’n daladwy gan fyfyrwyr, h.y. mae ffioedd dysgu wedi’u heithrio rhag TAW. Fodd bynnag, mae yna anfantais i’r ffaith fod incwm dysgu wedi’i heithrio rhag TAW, sef na ellir adennill y TAW a delir wrth brynu nwyddau a gwasanaethau sy’n caniatáu i’r dysgu a’r gwaith ymchwil ddigwydd. Mae hyn yn wahanol i fusnesau cyffredin yn y DU sydd wedi’u cofrestru at ddibenion TAW sy’n gallu adennill TAW am y rhan fwyaf o’r eitemau y maent yn eu prynu ar gyfer y busnes.

Rhif Cofrestru TAW

Rhif cofrestru TAW y Brifysgol yw: 123763380

Statws y Brifysgol

Mae’r Brifysgol yn elusen eithriedig – nid oes trefniadau TAW arbennig ar gael ar gyfer elusennau’n gyffredinol (ac eithrio cyfradd sero ar gyfer hysbysebu ac offer ar gyfer hyfforddiant ac ymchwil feddygol a milfeddygol) – lle y gellir prynu eitemau o’r fath ar gyfradd sero os llenwir ffurflen briodol. Cysylltwch â ni i gael copi o’r ffurflen.

Mae’r Brifysgol wedi’i dynodi fel Corff Cymwys o dan Atodlen 9 i Ddeddf TAW 1994, o dan Nodyn 1(b) o Grwp 6 (Addysg) a Nodyn 2A o Grwp 10 (Chwaraeon).

Ni all y Brifysgol adennill TAW ar gyfer ei gweithgareddau eithriedig (addysg a pheth gwaith ymchwil), sef y rhan fwyaf o’r hyn a gyflenwir gan y Brifysgol. Mae hyn yn golygu y bydd cost lawn nwyddau a gwasanaethau (gan gynnwys TAW) yn cael ei chodi ar gyllideb yr Adran berthnasol am ei gwariant.

Mae rhai eithriadau i hyn, sef meysydd fel ymchwil drethadwy a gweithgareddau masnachol, fel arlwyo, ffermydd, ac ati.