Rhaglen Cymorth i Staff - Care First

Cliciwch yma am fanylion mewngofnodi i Raglen Cymorth i Staff Care first

Pwy yw Care first?

Gyda phwysau cynyddol yn y gwaith a gartref, mae adegau pan fydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol ar bob un ohonom i gydbwyso gofynion bywyd bob dydd. Mae Care first yn ddarparwr gwasanaethau cefnogi gweithwyr proffesiynol blaenllaw ac annibynnol. Mae Care first yn cyflogi Cwnselwyr ac Arbenigwyr Gwybodaeth gyda chymwysterau proffesiynol, sydd â phrofiad o helpu pobl i ddelio â phob math o faterion ymarferol ac emosiynol fel Lles, materion teuluol, perthnasoedd, rheoli dyledion, materion yn y gweithle, a llawer mwy.

Care First Leaflet (Saesneg yn unig)

Sut ydw i'n defnyddio'r gwasanaeth?

Mae Care first yn darparu cyngor a chefnogaeth gyfrinachol a diduedd bob awr o’r dydd, a phob dydd o’r flwyddyn. Cewch ddefnyddio’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, pryd bynnag y bydd arnoch ei angen. Does dim angen i chi ofyn caniatâd eich rheolwr neu’ch sefydliad cyn cysylltu â Care first.

Gall yr EAP ddarparu llyfrynnau gwybodaeth, erthyglau, adnoddau gwybodaeth ar wasanaethau cymorth yn eich ardal leol a hyd yn oed yn cwnsela wyneb-yn-wyneb dros y tymor byr i’ch helpu i fod ar y trywydd iawn.

Ar gyfer beth ydw i'n defnyddio'r gwasanaeth?

Cynlluniwyd Care first i'ch helpu gydag ystod eang o faterion gwaith, teuluol a phersonol. O gydbwysedd bywyd a gwaith i wybodaeth am ofal plant, perthnasau i faterion yn y gweithle, iechyd a lles, gadewch i'ch EAP eich cefnogi ar y materion sy'n effeithio ar bob un ohonom ar ryw adeg yn ein bywydau. Mae’r testunau’n cynnwys, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i:

  • Cydbwysedd bywyd/ gwaith
  • Pherthnasau
  • Gwybodaeth gofal plant
  • Iechyd a lles
  • Dyled
  • Anabledd a salwch
  • Gyrfaoedd
  • Profedigaeth a cholled
  • Straen
  • Gwybodaeth gofal am henoed
  • Digwyddiadau bywyd
  • Mudo
  • Pryder ac iselder
  • Materion teuluol.
  • Bwlio ac aflonyddwch
  • Addysg
  • Hawliau defnyddwyr
  • Pwysau yn y gweithle.

A yw'n gyfrinachol?

Nid yw eich sefydliad yn gwybod pwy sy'n defnyddio ein gwasanaeth oni bai bod yr unigolyn yn dewis dweud wrth rywun am ei gyswllt â Care first. Rydym yn darparu ystadegau i'ch sefydliad i ddangos faint o weithwyr sy’n defnyddio'r gwasanaeth a'r mathau eang o faterion y mae gweithwyr yn codi gyda ni, er enghraifft; 'perthynas yn chwalu yn y cartref' neu 'fwlio ac aflonyddu yn y gweithle', felly nid oes unrhyw wybodaeth yn cael ei throsglwyddo o gwbl a allai ddangos pwy ydych chi.

Care first - Cyflwyno gwasanaeth cefnogi newydd (PDF)
Gwasanaeth Rheoli (PDF)
Gwasanaeth gwybodaeth (PDF)
Addewid Cyfrinachedd Care first (PDF)

Adnoddau Parth Llesiant

Mae Care First yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau bob mis sydd am ddim i staff. Dilynwch y dolenni isod, neu am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen Hyfforddiant a Datblygiad, a dilynwch y ddolen i "Iechyd a Lles":  Tudalen Iechyd a Lles Staff