Mae’r canlynol yn gamau syml a all leihau unrhyw risgiau sy’n codi o waith gyda sgrin arddangos:
- torri cyfnodau hir o waith gyda chyfarpar sgrin arddangos drwy gymryd egwyl (o leiaf 5-10 munud bob awr) yn rheolaidd neu newid y gweithgaredd;
- osgoi ystum chwithig, llonydd drwy newid eich safle’n rheolaidd;
- codi a symud neu wneud ymarferion ymestyn (e.e. cerdded ar y safle yn ystod cyfarfodydd rhithwir neu wrth wneud galwad ffôn);
- osgoi blinder llygaid drwy newid ffocws neu smicio’r llygaid o bryd i’w gilydd;
- pan nad oes eitemau swyddfa penodol ar gael (e.e. cadeiriau ergonomig, desgiau y gellir newid eu huchder), ceisiwch greu amgylchedd gwaith cyfforddus mewn ffyrdd eraill (e.e. clustogau a thywelion i helpu gydag osgo, blychau i orffwys traed arnyn nhw ac ati).
Yn y fideo hwn ceir awgrymiadau ymarferol i bobl sy’n gweithio gartref, gyda mynediad at amrywiaeth o gyfarpar. Gallwch weld ffyrdd syml i leihau risgiau cyhyrysgerbydol a rheoli eich osgo mewn ffyrdd a allai eich synnu, gyda gwrthrychau bob dydd. [https://www.youtube.com/watch?v=EhtaPcrFdao&feature=youtu.be]
Ymgynghoriad rhithwir ynghylch eich gorsaf waith
Bydd y Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn cynnig ymgynghoriad rhithwir ynghylch eich gorsaf waith drwy Microsoft Teams. Bydd aelodau o’r Tîm ar gael yn wythnosol ar yr adegau canlynol i gael golwg ar drefniadau eich gorsaf waith bresennol yn eich cartref a chynnig awgrymiadau i’w gwella:
- Dydd Mawrth 10:00-11:00 (ac eithrio 14 Ebrill)
- Dydd Iau 14:00-15:00
I drefnu cyfarfod rhithwir 10 munud, e-bostiwch hasstaff@aber.ac.uk, gan nodi eich dewis ddyddiad. Yna caiff gwahoddiad calendr ei anfon atoch gyda dolen at gyfarfod rhithwir Microsoft Teams. Bydd angen PC neu liniadur gyda chyswllt rhyngrwyd, meicroffon a gwe gamera. Neu gallwch anfon fideos neu ffotograffau o drefniant eich gorsaf waith bresennol at y Tîm Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd ymlaen llaw.
Rhagor o arweiniad ac adnoddau: