Adnoddau tir

Mae’r ffermydd ymchwil yng Ngogerddan, Morfa Mawr, Trawsgoed a Phwllpeiran yn cynnig llwyfan ymchwilio unigryw sy’n ymestyn dros 1,000 ha, o 0-600 metr uwchlaw lefel y môr. Yn 2017, aethom ati i sefydlu graddiant uchder i gynnig heriau ar bedwar safle ar ffermydd Gogerddan a Thrawsgoed, sef 70, 140, 250 a 340 metr uwchlaw lefel y môr. Mae’r pedwar safle hyn yn manteisio ar ddaearyddiaeth Gorllewin Cymru i ddarparu sbectrwm o heriau amgylcheddol sy’n cynrychioli’n fras amodau tyfu tua 80% o laswelltiroedd y Deyrnas Unedig.  Mae’r safleoedd wedi’u cyfarparu a’u plannu gan ddefnyddio plasm cenhedlu amrywiol a gellir ymweld â phob un ohonynt i’w mesur o fewn un diwrnod. Mae setiau data wedi’u hintegreiddio â data ar weithredu sy’n seiliedig ar amgylchedd dan reolaeth er mwyn dod i ddeall dyfalbarhad, gwydnwch a pherfformiad planhigion. Mae’r lleiniau llawn offer hyn wedi galluogi IBERS i gymryd rhan ym mhrosiect EMPHASIS ESFRI, sef rhwydwaith traws-Ewropeaidd o gyfleusterau amrywiol sy’n ymchwilio i’r hinsawdd er mwyn galluogi bridio rhagfynegol ac ymchwilio i hinsawdd y dyfodol. Yn ogystal, defnyddir y lleiniau yn Rhaglen Strategol Graidd y BBSRC mewn Cnydau Gwydn, sef prosiect GRACE H2020, ac mae data’n cael ei ddefnyddio i lywio’r gwaith o fodelu cynhyrchiant biomas yn Hyb Bio-ynni Supergen EPSRC yn Aberystwyth a chan bartneriaid eraill.

Yn 2020, aeth IBERS ati i ailsefydlu Canolfan yr Ucheldir ar safle Pwllpeiran drwy gymryd y brydles ar gyfer 190 ha o’r tir cyffiniol (Ffridd) ar ôl i Lywodraeth Cymru ei brynu oddi wrth Defra. Mae hyn yn ategu buddsoddiad cynharach o £2.4M gan y BBSRC i gefnogi datblygiad Pwllpeiran fel llwyfan yr ucheldiroedd. Mae gan Bwllpeiran hanes hir o ymchwil i laswelltir yr ucheldiroedd, ac ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif roedd yn gartref i’r arbrofion amaethyddol radical a gynhaliwyd gan Thomas Johnes o Stad yr Hafod. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif daeth yn ganolbwynt i Gynllun Gwella Tir Uchel Cahn, sef canolfan arloesol George Stapledon. Mae Pwllpeiran bellach yn darparu continwwm glaswelltir o dir pori wedi’i ailhadu o ansawdd cymharol dda, i borfa barhaol a phorfa garw lled-naturiol, i weundir a gorgors. Mae system fwydo electronig Porth Calan ar gyfer anifeiliaid cnoi cil bychain (yr unig gyfleuster o’r fath yn y Deyrnas Unedig) yn gallu cadw hyd at 48 o ddefaid, ac mae lle ar gyfer 4 siambr mesur methan. Mae Pwllpeiran yn ficrocosm ar gyfer yr ucheldir a dyma’r unig gyfleuster o’r fath yng Nghymru a Lloegr. Mae ei ymchwil yn hanfodol i sicrhau sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer polisïau ar adeg o newid gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol digynsail.