Bwrdd Ymgynghorol Newydd Ffermydd IBERS

Yn dilyn uno IGER á Phrifysgol Aberystwyth i ffurfio IBERS, mae gweithgareddau ymchwil a masnachol ffermydd y  Sefydliad hefyd wedi uno i weithredu fel un. Mae ffermydd newydd y Brifysgol yn cynnwys 6 uned ar wahán, dros 1100 hectar o dir ac yn cwmpasu  ystod eang o fentrau cnydau a da byw.
Dywedodd Yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS
“Ein her yw datblygu strategaeth ffermydd newydd sydd yn diogelu darpariaeth  adnoddau ymchwil o’r radd flaenaf,  tra’n gwella  perfformiad masnachol.  Un enghraifft o hyn ydy buddsoddi mewn adnoddau newydd yn Nhrawscoed, gan atgyfnerthu ymrwymiad IBERS i weithio gyda ac i gefnogi’r sector amaethyddol.”
Mae Bwrdd Ymgynghorol Ffermydd newydd wedi ei sefydlu, yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i gyfrannu i ddatblygiad strategol Ffermydd Prifysgol Aberystwyth; gan sicrhau fod y gweithgareddau yn cwrdd ag anghenion ymchwil, ond yn unioni á anghenion cynhyrchwyr, proseswyr a mán werthwyr yn y sector fwyd ym Mhrydain.
“Mae IBERS yn hynod falch i dderbyn ymrwymiad yr aelodaeth o galibr uchel i’r Bwrdd Ymgynghorol Ffermydd; sydd yn cynrychioli  amrywiol  agweddau o fewn y diwydiant” medd Yr Athro Powell

Dr. Huw Mc Conochie, Rheolwr Ffermydd IBERS Dr. Huw Mc Conochie, Rheolwr Ffermydd IBERS

Aelodau Bwrdd Ymgynghorol Ffermydd IBERS, Prifysgol Aberystwyth:

  • Mr Gareth Davies
    Pennaeth Amaeth
    Wynnstay Group Plc

  • Mr David Edwards
    Ymgyngoriaeth DWE cyf.

  • Mr Gareth Evans
    Ysgrifennydd y Cwmni
    Celtic Pride Cyf.

  • Mr Huw Gwillim
    Rheolwr Rhanbarthol Bwyd-Amaeth, DBPF
    Llywodraeth Cynulliad Cymru

  • Mr David Wynne Finch
    Ffermydd Wynne Finch

  • Mr Anthony O’Regan
    Cyfarwyddwr Arolwg Busnes Fferm
    IBERS

  • Mr Duncan Sinclair
    Rheolwr Amaeth DU
    Waitrose Cyf.

  • Mr John Lloyd Jones
    Cadeirydd
    Cyngor Cefn Gwlad Cymru

  • Yr Athro Martin Jones
    Dirprwy Is- Ganghellor
    Sefydliad Daearyddiaeth ac Astudiaethau Daear

  • Dr. Huw Mc Conochie
    Rheolwr Ffermydd IBERS

  • Mrs Rachel Rowlands MBE

  • Dr. Sinclair Mayne
    Cynghorydd Gwyddonol Adrannol
    Adran Amaeth a Datblygu Gwledig Gogledd Iwerddon