Tystiolaeth DNA amgylcheddol yn cefnogi amddiffyn ardal natur am y tro cyntaf

Un o'r capiau cwyr a ganfuwyd gan dechneg DNA

Un o'r capiau cwyr a ganfuwyd gan dechneg DNA

13 Chwefror 2019

Mae mathau prin o ffyngau a ganfuwyd gan dechneg DNA amgylcheddol newydd a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi arwain at ddynodiad Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ger Birmingham.

Cafodd Parc Gwledig Leasowes yn Halesowen ei ddynodi fel SoDdGA ar 7 Chwefror 2019 wedi i wyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ddefnyddio'r dechneg arloesol i ganfod presenoldeb amrywiaeth anarferol o uchel o gapiau cwyr, y tro cyntaf yn y Byd i hyn gael ei wneud.

Datblygwyd y dechneg gan Dr Gareth Griffith, Darllenydd mewn Mycoleg yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn Aberystwyth.

Gall y dechneg ddatgelu bodolaeth y ffyngau lliwgar ar unrhyw adeg o'r flwyddyn trwy ddadansoddi samplau pridd, hyd yn oed heb aros i fadarch ffurfio.

(o'r chwith i'r dde): Dr Gareth Griffith, Prifysgol Aberystwyth; Tim Wilkins, Natural England; Katie Lloyd o Natural England ac yn raddedig o Aberystwyth; Antony Ravenscroft, Prif Warden The Leasowes ac yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth a Perry Adams, Warden Cynorthwyol The Leasowes.

Gwahoddwyd Dr Griffith i ddefnyddio ei ddull e-DNA newydd ar y safle gan Brif Warden The Leasowes, Antony Ravenscroft, sydd yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Dr Griffith: “Roeddwn yn falch iawn bod Antony wedi gofyn i mi helpu i ddarganfod pa gapiau cwyr y gellid eu canfod yn The Leasowes gan ddefnyddio’n dull eDNA. Mae'n enghraifft wych o brifysgolion yn ymgysylltu â gwyddonwyr lleyg ac rwy'n gobeithio y byddwn yn cael y cyfle i ddefnyddio'r dull mewn safleoedd bywyd gwyllt eraill.”

Cychwynnwyd ar y gwaith o gofnodi capiau cwyr ar y safle yn 1994 gan Nick Williams, darlithydd bioleg wedi ymddeol.

Erbyn 2014, roedd 23 o rywogaethau wedi eu cofnodi, ffigwr oedd yn awgrymu y gallai'r safle fod yn gymwys i’w dynodi’n SoDdGA.

Wedi arolwg cychwynnol gan ddefnyddio'r dechneg eDNA gan Dr Griffith, darganfuwyd chwe rhywogaeth arall na welwyd yn bwrw ffrwyth o’r blaen, yn ogystal â math arbennig o brin o ffyngau o’r grŵp Microglossum olivaceum.

Dan arweiniad canfyddiadau Dr Griffith, medrodd Nick Williams a chydweithwyr gynnal arolwg manylach o’r safle.

Erbyn 2016, roedden nhw wedi darganfod nid yn unig ffrwyth y M. olivaceum agg. ond hefyd tair rhywogaeth arall o gapiau cwyr gan gynnwys Hygrocybe citrinovirens sydd wedi ei gynnwys yng nghategori ‘Bregus’ Restr Goch Rhywogaethau Dan Fygythiad Undeb Ryngwladol Diogelu Natur (IUCN).

Roedd y rhywogaethau ychwanegol yn allweddol wrth wthio'r cyfrif "dros y llinell" i 28, a thrwy hynny arwain at ddynodiad y safle.

Datgelodd arolwg eDNA diweddarach gan Dr Griffith yn 2017 o feysydd The Leasowes sydd yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd fel rhan o gwrs golf, rhywogaethau capiau cwyr ychwanegol, gan gyfiawnhau cynnwys y safle cyfan yn y SoDdGA.

Mae cynllun ar waith nawr i addasu rheolaeth tiroedd y cwrs golf er mwyn hyrwyddo tyfiant y capiau cwyr ac, y bydd modd ymhen amser, eu gweld yn bwrw ffrwyth.

Katie Lloyd o Natural England, sydd hefyd yn raddedig o Aberystwyth, yw cynghorydd y safle a hi fu’n paratoi’r holl ddogfennau hysbysu.

Dywedodd Katie: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn; dyma’r trydydd SoDdGA yn unig yn Lloegr i’w dynodi ar sail ffyngau glaswelltir, ac mae yma ym Mwrdeistref Dudley.”

Mae gweld ardal gadwraeth natur mor bwysig mewn ardal mor boblog yn annisgwyl iawn.

Gorllewin Canolbarth Lloegr yw’r ardal drefol fwyaf poblog yn y DU ar ôl Llundain gyda phoblogaeth o 2.6 miliwn ac mae'r safle o fewn ychydig filltiroedd i grud y Chwyldro Diwydiannol byd-eang a daniwyd gan James Watt a Matthew Boulton.

Roedd Halesowen yn ardal o ddiwydiant trwm gyda 130 o byllau glo ganrif yn ôl.

Mae Natural England wedi gweithio gyda Chyngor Dudley ar nifer o'u gwarchodfeydd ers sawl degawd ac mae'r dynodiad hwn wedi sicrhau safle arall o bwys cenedlaethol yn y fwrdeistref.

Dywedodd Emma Johnson, Rheolwr Rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr ar gyfer Natural England, sydd hefyd yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth: “Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Lloegr yn hanfodol er mwyn gofalu am yr enghreifftiau gorau o'n treftadaeth naturiol a bywyd gwyllt gwerthfawr am genedlaethau i ddod. Mae’n bleser gennym ddynodi’r dolydd cyfoethog eu rhywogaethau a ffyngau glaswelltir The Leasowes”.

“Mae'n enghraifft wych o sut y gall safleoedd trefol gynnal cynefinoedd sy'n arwyddocaol yn genedlaethol, gan ddarparu lle gwych i bobl a natur. Mae'r dynodiad yn gydnabyddiaeth amserol o'r holl waith rheoli a chadwraeth sydd wedi ei wneud ar y safle gan wardeiniaid, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol dros nifer o flynyddoedd. Rydym yn gweld y dynodiad yn gam pwysig wrth sicrhau bod y lle yn cael ei fwynhau ac yn ffynnu'n dda i'r dyfodol.”