Prifysgol Aberystwyth yn y Sioe Fawr

20 Gorffennaf 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd yr wythnos nesaf (23-26 Gorffennaf, 2018) gyda rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau llawn.

Consortiwm rhyngwladol i ddatblygu prawf am y TB buchol

20 Gorffennaf 2018

Mae gwyddonwyr yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn arwain consortiwm rhyngwladol newydd a sefydlwyd i ddatblygu prawf newydd am y diciâu mewn gwartheg - twbercwlosis buchol.

£7.3 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd i roi hwb i sector bwyd Cymru

19 Gorffennaf 2018

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £7.3 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau yn y sector bwyd-amaeth ac i helpu busnesau i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd.

Un o raddedigion IBERS yn ennill grant i astudio effeithiau plastig ar gof anifeiliaid dyfrol

16 Gorffennaf 2018

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Prosiect Israddedig y Gymdeithas Astudio Ymddygiad Anifeiliaid (ASAB) i Charlie Treleven, myfyriwr Bioleg y Môr a Dŵr Croyw, er mwyn ymchwilio i effaith BPA o blastig ar gof infertebratau dŵr.

Ymchwil newydd i helpu ffermwyr i ymladd llyngyr

Mae ymgais i helpu i arbed miliynau o bunnoedd i ffermwyr ym Mhrydain, trwy gyfyngu ar ymwrthiant i gyffur allweddol ar gyfer lles defaid a gwartheg, yn cael ei arwain gan fyfyrwraig  ôl-raddedig sy’n cael ei chefnogi gan Hybu Cig Cymru (HCC).