Oes Da byw ar blaned Mars?

Adam Dexter yn gweithio ar ranch yn Texas, UDA.

15 Ionawr 2018

Fe all fod bywyd ar Mars yn y dyfodol ar ffurf da byw, yn ôl Adam Dexter, myfyriwr graddedig MSc.

Tra bod y gwaith o chwilio am dystiolaeth o unrhyw fywyd ar Mars yn parhau, bu Adam yn ymchwilio a ellid cynnal da byw ar blaned Mars ar gyfer ei MSc mewn Gwyddorau Anifeiliaid o IBERS Prifysgol Aberystwyth (Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig).

Trwy ddefnyddio clai  o fwynau bentonit o dde Lloegr i ddynwared cyfansoddiad y pridd ar Mars, ac yna'n rhedeg arbrofion cyfochrog yn defnyddio pridd go iawn o Gymru, aeth Adam ati i blannu grwpiau o gnydau rhyg a rhygwellt.

Yna, roedd y grwpiau o blanhigion yn derbyn lefelau amrywiol o ddŵr a gwrtaith mewn amodau dan reolaeth mewn siambrau twf yn y brifysgol.

Ar y cyfan, roedd y rhyg yn dioddef o wahanol glefydau a diffygion yn ystod y treial, tra bod yr rhygwellt yn perfformio'n well.

Roedd y ddau gnwd yn tyfu yn llawer gwell mewn pridd go iawn, ond fe wnaethon nhw dyfu yn y pridd Marsiaidd ffug gan gynhyrchu yn ddigonol i’w gwneud hi'n ymarferol i fagu niferoedd bach o dda byw.

Dywedodd Adam "Fe wnes i astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Bath, ond yn ystod fy amser yno treuliais fy hafau yn gweithio ar ‘ranch’ gwartheg yn Texas a dyma a daniodd fy niddordeb mewn amaethyddiaeth, ynogystal â gweithio ar ffermydd llaeth a defaid yma yn y DG. Fe ysbrydolodd hyn i mi wneud fy MSc yn Aberystwyth.

Roedd yr arbrawf yn ddiddorol i'w wneud ac yn profi fod potensial i gynnal da byw ar Mars rhyw ddiwrnod. "