Cyrsiau IBERS yn derbyn Achrediad Cymdeithas Frenhinol Bioleg

29 Ionawr 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn Achrediad Cymdeithas Frenhinol Bioleg ar gyfer ugain o gyrsiau biowyddoniaeth israddedig.

Yn oygstal, mae pum cwrs Meistr Integredig wedi derbyn statws Achrediad Uwch dros dro, a ddaw yn Achrediad Uwch pan fydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr o gyrsiau gradd MBiol yn graddio yn haf 2018.

Y Gymdeithas Frenhinol Bioleg (RSB) yw'r corff proffesiynol blaenllaw ar gyfer y gwyddorau biolegol yn y DU ac mae'r achrediad hwn yn cydnabod ansawdd dysgu biowyddoniaeth yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).

Mae rhaglen Achredu’r RSB yn hyrwyddo rhagoriaeth yn y biowyddorau trwy nodi rhaglenni gradd sy'n cynnig safonau uchelmewn addysgu, darpariaeth y cwricwlwm a setiau o sgiliau ymarferol.

Mae'r achrediad yn cymeradwyo cyflogadwyedd graddedigion biowyddoniaeth IBERS, a'u parodrwydd ar gyfer gyrfa mewn ymchwil biowyddoniaeth.

Dywedodd yr Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr IBERS "Rwyf wrth fy modd yn derbyn y statws Achredu hwn sy’n cydnabod bod yr Athrofa yn cynnig addysg biowyddoniaeth eithriadol, gan ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar ein myfyrwyr i gystadlu a ffynnu yn byd gwaith cystadleuol sydd ohoni.

“Bydd myfyrwyr sy'n graddio o IBERS yn derbyn graddau achrededig o eleni ymlaen a hoffwn gydnabod yn ffurfiol ymrwymiad ac ymroddiad tīm addysgu IBERS a'u cymeradwyo am gyflawni'r wobr bwysig hon.”

Dywedodd Dr David Whitworth, Darllenydd mewn Biocemeg yn IBERS "Drwy ddewis astudio ar gyfer gradd biowyddoniaeth yn IBERS, gall ein myfyrwyr fod yn hyderus ei fod yn cwrdd â set o feini prawf a bennir gan weithwyr proffesiynol biowyddoniaeth sy'n annibynnol o’r brifysgol.

Mae hyn yn rhoi'r sicrwydd y byddant yn graddio â'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar fiolegwyr, gan eu gwneud yn hynod gyflogadwy o fewn a thu hwnt i'r maes dewisol.

Yn ogystal, byddant yn derbyn aelodaeth RSB am ddim yn cynnig blwyddyn unigryw i rannu eu hamser ar gyfer y biowyddorau, gydag ystod o fanteision o gefnogaeth gyrfa gynnar i gymryd rhan mewn gwyliau gwyddoniaeth, blogiau a rhwydweithiau proffesiynol."