Un o raddedigion IBERS yn ennill grant i astudio effeithiau plastig ar gof anifeiliaid dyfrol

Charlie Treleven

Charlie Treleven

16 Gorffennaf 2018

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Prosiect Israddedig y Gymdeithas Astudio Ymddygiad Anifeiliaid (ASAB) i Charlie Treleven, myfyriwr Bioleg y Môr a Dŵr Croyw, er mwyn ymchwilio i effaith BPA o blastig ar gof infertebratau dŵr.

Mae Charlie, a fydd yn graddio’r mis hwn, yn egluro: “Dechreuais ymddiddori yn y ffordd mae cemegion a hormonau’n effeithio ar infertebratau ar ôl dilyn modiwlau dewisol yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Gan fod llygredd plastig yn datblygu mwyfwy yn bwnc llosg byd-eang, mae’n bwysig deall y gwahanol effeithiau y mae’n ei gael ar ecosystemau dyfrol.”

Cemegyn a ddefnyddir yn helaeth mewn nwyddau plastig yw Bisphenol-A (BPA), ac mae’n mynd i afonydd, llynnoedd a nentydd trwy drwytholchi o wastraff plastig sydd wedi ei daflu ac mae’n llygrydd cyffredin mewn amgylcheddau dyfrol. Rydym yn gwybod bod BPA yn dynwared yr hormon oestrogen, gan effeithio ar ddatblygiad rhywiol a nodweddion rhywiol eilaidd llawer o organeddau dyfrol, ond ni wyddom cymaint am y ffordd y mae’n effeithio ar ymddygiadau eraill. Er mwyn ymchwilio i effaith y cemegyn hwn ar nodweddion gwybyddol anifeiliaid dyfrol, bydd Charlie yn defnyddio malwoden y dŵr croyw, Lymnaea stagnalis yn rhywogaeth fodel i’w brosiect, a fydd yn rhedeg am wyth wythnos yr haf hwn.

Meddai Dr Sarah Dalesman, Darlithydd Bioleg Dŵr Croyw yn IBERS acarolygydd Charlie ar gyfer y prosiect hwn, “Dyma gyfle ardderchog i Charlie gael cipolwg a phrofiad o yrfa ymchwil gydag arweiniad parhaus, cefnogaeth a hawl i ddefnyddio adnoddau. Nid oes gwaith wedi ei gyhoeddi ar hyn o bryd sy’n ymchwilio i effaith y cemegyn hwn ar gof ac ymddygiad archwilio infertebratau dyfrol felly mae llawer o botensial i Charlie ddatblygu’i ddiddordebau ymchwil ymhellach ar lefel uwchraddedig, pe bai’n dymuno gwneud hynny.”

Meddai Charlie, “Mae hwn yn gyfle i mi gael rhagflas ar yrfa ymchwil wyddonol gan y bydd yn rhoi profiad ymchwil annibynnol o’r cynllun arbrofol hyd at ysgrifennu’r adroddiad. Ar ôl cwblhau fy nhraethawd hir, rwy’n fwy hyderus am ymgymryd â phrosiect fel hwn ac yn edrych ymlaen at wneud gwaith ymchwil all gael effaith. Rwy’n hynod ddiolchgar am anogaeth a chefnogaeth fy nhiwtoriaid yn IBERS trwy gydol f’astudiaethau a’r cais am y grant hwn.”