Dewis ymchwilydd o IBERS ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig fawreddog Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC)

Iolo Davies
02 Mehefin 2025
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Iolo Davies, rheolwr ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran IBERS, wedi'i ddewis yn un o gyfranogwyr Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2025-26.
Mae'r rhaglen, sydd bellach yn fenter sefydledig gan CAFC, wedi'i chynllunio i arfogi arweinwyr diwydiant amaethyddol Cymru i’r dyfodol gyda'r sgiliau, yr hyder a'r cysylltiadau i ddylanwadu ar, a sbarduno, newid cadarnhaol. Mae'n cynnig cyfle unigryw i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol y diwydiant, datblygu sgiliau proffesiynol a phersonol, a meithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r dirwedd amaethyddol yng Nghymru a thu hwnt.
Mae dewis Iolo ar gyfer y rhaglen yn cydnabod nid yn unig ei angerdd dros ffermio ucheldir cynaliadwy ond hefyd ei ymrwymiad i gefnogi arloesedd a gwydnwch mewn cymunedau gwledig. Mae ei waith ym Mhwllpeiran yn canolbwyntio ar ddefnydd tir cynaliadwy, systemau agroecolegol, a datrysiadau sy'n seiliedig ar natur ar gyfer yr heriau sy'n wynebu ffermwyr ucheldir.
Wrth siarad am gael ei ddewis, dywedodd Iolo:
"Mae'n anrhydedd i mi gael fy newis ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig CAFC. Mae'n gyfle gwych i ddatblygu fy sgiliau a chyfrannu'n fwy effeithiol at ddyfodol amaethyddiaeth Cymru. Rwy'n edrych ymlaen yn benodol at ymgysylltu ag eraill sy'n rhannu ymrwymiad i adeiladu economi wledig fwy cynaliadwy a gwydn."
Bydd gan IBERS bresenoldeb cryf unwaith eto yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, gan arddangos ymchwil arloesol, cydweithrediadau â diwydiant, ac ystod eang o weithgareddau ar draws amaethyddiaeth, yr amgylchedd a'r bioeconomi. Edrychwn ymlaen at gysylltu â ffermwyr, ymchwilwyr, myfyrwyr a'r cyhoedd yn ehangach drwy gydol y digwyddiad.
Mae IBERS yn llongyfarch Iolo ar y cyflawniad hwn ac yn edrych ymlaen at weld effaith ei gyfranogiad ar ei ddatblygiad proffesiynol ei hun a'r gymuned amaethyddol ehangach yng Nghymru.
Darllenwch fwy am Raglen Arweinyddiaeth Wledig CAFC a'r garfan eleni ar wefan CAFC.