Amdanom ni
Croeso i'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, y gyntaf o'i bath yn y byd!
Mae astudio gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol yn hollbwysig i ddeall ein byd cyfnewidiol sydd ohoni. Mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd, chynnwrf gwleidyddol ac ideolegol, trawsnewidiadau cymdeithasol ac ansicrwydd economaidd a mathau newydd o wrthdaro, mae lles pawb ynghlwm â datrys yr heriau byd-eang hyn. Nod addysg ac ymchwil yr Adran yw ysbrydoli a chefnogi myfyrwyr i gwestiynu, herio, trawsnewid a meithrin hyder yn y ffordd y maent yn meddwl am wleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.
Pam yr Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol?
Yma yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol mae gan ein rhaglenni Israddedig dair nodwedd allweddol: rhagoriaeth academaidd, amrywiaeth o ddewis a chymuned go iawn.
Rhagoriaeth:
Rydym yn ymfalchïo mewn addysgu gwych ac yn gyson yn cael sgôr uchel iawn am fodlonrwydd y myfyrwyr, fel y gwelwch o'r tabl isod. Mae ein staff yn darparu modiwlau ar eu meysydd arbenigol, felly maent yn angerddol a gwybodus am yr hyn y maent yn ei ddysgu, a bydd myfyrwyr yn dysgu am y pynciau a'r syniadau diweddaraf. Mae hyn yn gwneud dysgu yn brofiad gwych i fyfyrwyr a darlithwyr fel ei gilydd!
Dewis:
Mae ein modiwlau yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, o Ddiogelwch Rwsiaidd i America Ladin Gyfoes trwy Wleidyddiaeth y DU, Newid Hinsawdd, Cenedlaetholdeb a Rhyfela Modern. Ym mlynyddoedd dau a thri, gall myfyrwyr ddewis o oddeutu 20 opsiwn y flwyddyn, sy’n llawer iawn o ddewis! Mae'r amrywiaeth hon o ddewis yn seiliedig ar fodiwlau craidd cryf sy'n darparu asgwrn cefn o sgiliau a gwybodaeth.
Cymuned:
Mae gan yr adran gymuned glos ond eangfrydig sy'n gefnogol, yn ysgogol a hwyliog! Rydym yn cynnal digwyddiadau trafod bob semester ac yn gwahodd myfyrwyr i sgyrsiau academaidd, ond rydym hefyd yn cynnal nosweithiau pizza a chwis sy'n dod â staff a myfyrwyr ynghyd, gan gynnwys uwchraddedigion. Mae'r myfyrwyr yn brysur hefyd, gyda'r Gymdeithas Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Gemau Argyfwng a Chymdeithas Modelu’r Cenhedloedd Unedig a Grŵp Amrywioldeb Israddedig yr Adran. Rydym hefyd yn cynnig rhaglen gyfnewid a'n Lleoliadau Seneddol a Gemau Argyfwng chwedlonol. Mae gan bawb diwtor personol ac mae mentoriaid myfyrwyr ar gael hefyd.
Ein Sgoriau yn y Tablau Cynghrair Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
- Yn y 5 uchaf yn y DU am Fodlonrwydd Myfyrwyr ym mhwnc Gwleidyddiaeth (Complete University Guide 2026)
- Yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd yr Addysgu ym mhwnc Gwleidyddiaeth (Canllaw Prifysgolion Da 2026, The Times a'r Sunday Times)
- Yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am fodlonrwydd gyda’r Addysgu a’r Asesu ym mhwnc Cysylltiadau Rhyngwladol (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2026)
- Yn y 5 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr ym mhwnc Gwleidyddiaeth (Canllaw Prifysgolion Da 2025, The Times a'r Sunday Times)
- Yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd yr Addysgu ym mhwnc Gwleidyddiaeth (Canllaw Prifysgolion Da 2025, The Times a'r Sunday Times)
- Yn y 10 uchaf yn y DU am 'Gyfleodd Dysgu' a 'Chymorth Academaidd' ym mhwnc Gwleidyddiaeth* (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025)
- Yn y 10 uchaf yn y DU am Fodlonrwydd Myfyrwyr ym mhwnc Gwleidyddiaeth (Complete University Guide 2025)
Pam Aberystwyth?
Mae Aberystwyth yn dref ddwyieithog, eangfrydig a bywiog rhwng bryniau tirion y Canolbarth a glannau prydferth Bae Ceredigion. Byddwch yn rhan o brifysgol gampws sydd â'i chanolfan chwaraeon ei hun a Chanolfan Gelfyddydau brysur; ac fe fyddwch ddrws nesaf i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y DU.
Yn ddiweddar, gosodwyd Prifysgol Aberystwyth ar y brig yng Nghymru a Lloegr am Brofiad Myfyrwyr gan Ganllaw Prifysgolion Da 2025 The Times Times a'r Sunday Times. Cawsom hefyd ein gosod ar y brig yng Nghymru am Fodlonrwydd Myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 am y 10fed flwyddyn yn olynol.
*(Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr; O'i gymharu â Sefydliadau Addysg Uwch Canllaw Prifysgolion Da, The Times and Sunday Times)
