Rwy'n hynod falch i mi ddewis astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Almaeneg yn Aberystwyth.

Un o uchafbwyntiau'r cyfnod yn y brifysgol oedd y flwyddyn a dreuliais yn yr Almaen. Doeddwn i ddim yn siwr a fyddwn i'n mwynhau byw mewn gwlad dramor ond hedfanodd yr amser a dyma un o'r profiadau gorau i mi ei gael erioed. Euthum i'r Almaen yn syth wedi gorffen fy ail flwyddyn. Aros yn ninas hardd a bywiog Bremen i ddechrau, a gweithio dros fisoedd yr haf i gwmni rhyngwladol sy'n ymchwilio i dechnoleg addysgol. Roedd gweithio ar brosiectau a datrys problemau gyda chydweithwyr o wahanol wledydd a chefndiroedd yn gyffrous dros ben.

Ym mis Medi symudais i Darmstadt, dinas ganolig o ran maint ychydig filltiroedd o Frankfurt. Treuliais y mis cyntaf yn dysgu Almaeneg ar gwrs dwys yn y Brifysgol a gweddill y flwyddyn academaidd yn astudio gwleidyddiaeth. Roedd mynychu'r cwrs yn syniad da gan iddo roi cyfle i mi wneud ffrindiau, gwella fy Almaemeg a threfnu'r holl waith papur cyn dechrau ar y gwaith go iawn. Roedd y profiad o fynd i ddarlithoedd a chyfranu i seminarau trwy gyfrwng yr Almaeneg yn waith caled yn academaidd ond cefais foddhad mawr. Uchafbwyntiau'r flwyddyn oedd gwneud cyfeillion o bob rhan o'r byd, teithio a phrofi'r ffordd Ewropeaidd o fyw.

Einion Dafydd

Rhoddodd y cyfnod cyfnewid ym McGill gyfle i mi brofi amrywiaeth o ddiwylliannau gwahanol: dylanwadau cenedlaetholgar Quebec, trefn bywyd Canada a chymuned ddwyieithog Saesneg-Ffrangeg.  Dyma adeg unigryw yn fy mywyd a’r cyfan yn brofiad gwefreiddiol!

Mae gan Brifysgol McGill Adran Gwyddor Wleidyddol fywiog a dewis eang o fodiwlau. Mae yn Montreal awyrgylch gymdeithasol gyfeillgar gyda chymuned fawr o fyfyrwyr rhyngwladol o bob rhan o’r byd, a bu hyn yn gyfle i mi gynyddu fy ngwybodaeth a’m cysylltiadau â diwylliannau gwahanol. Mae gan y Brifysgol amrywiaeth o glybiau a chymdeithasau a chefais y cyfle i gymryd rhan yn Uwch-gynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ysgolion Uwchradd — un o ddigwyddiadau ysgolion mwyaf y Cenhedloedd Unedig yng Ngogledd America. Rhoddodd y cyfnod cyfnewid gyfle i mi hefyd fynychu gwahanol ddigwyddiadau chwaraeon gan gynnwys gemau hoci ia, pêl droed Americanaidd a phêl fasged. Oherwydd lleoliad Montreal, roedd yn ddigon cyfleus i deithio i Efrog Newydd, i Ogledd Carolina ar gyfer Gŵyl Ddiolchgarwch yr Unol Daleithiau, a threfnu taith bersonol 3 diwrnod yn Quebec. Roedd astudio ym Mhrifysgol gorau Canada yn brofiad bythgofiadwy.

Jason Edwards