Cyhoeddiadau
Argyfwng Taflegrau Ciwba: Ailasesiad Beirniadol
Len Scott a R. Gerald Hughes (gol.), Routledge – 20 Ebrill 2015 – 272 tudalen
Mae'r gyfrol hon yn dwyn ynghyd gasgliad o arbenigwyr rhyngwladol blaenllaw i ailystyried ac adolygu ein dealltwriaeth o Argyfwng Taflegrau Ciwba, trwy ailgloriannu rhai o'r testunau allweddol yn feirniadol. Mae'n cynnwys y penodau canlynol gan aelodau o staff yr adran:
Campbell Craig, 'Reform or revolution? Scott Sagan’s Limits of Safety and its contemporary implications'; R. Gerald Hughes, ''The Best and the Brightest': the Cuban Missile Crisis, the Kennedy administration and the lessons of history'; Sergey Radchenko, 'On hedgehogs and passions: history, hearsay, and hotchpotch in the writing of the Cuban missile crisis'; a Len Scott, ''The only thing to look forward to’s the past': reflection, revision and reinterpreting reinterpretation'. Ym mis Hydref 1962, daeth y ddynoliaeth yn agos at ddiwedd ei hanes. Cydnabyddir bellach bod y risg o drychineb yn uwch nag a sylweddolai’r rhai a fu’n ymwneud â’r argyfwng ar y pryd neu’r ysgolheigion wedi hynny. Mae argyfwng taflegrau Ciwba yn parhau i fod yn un o'r penodau o hanes y byd sy’n cael ei hastudio fwyaf. Mae ein dealltwriaeth ohono wedi’i fframio a'i lywio gan hanesyddiaeth y Rhyfel Oer, gwyddor wleidyddol a phrofiadau personol, wedi’u hysgrifennu gan ysgolheigion, newyddiadurwyr, a swyddogion o’r cyfnod. Mae ymddangosiad naratifau Sofietaidd (Rwsiaidd yn ddiweddarach) a naratifau cenedlaethol eraill wedi ehangu cwmpas yr ymchwil, tra bo craffu ar y dimensiynau gweithredol, yn enwedig y dimensiwn milwrol, wedi herio’r rhagdybiaethau ynglŷn â’r risg o ryfel niwclear. Mae The Cuban Missile Crisis: A Critical Reappraisal yn dod ag ysgolheigion blaenllaw o America, Prydain, Ffrainc, Canada a Rwsia at ei gilydd i graffu’n feirniadol ar y adroddiadau awdurdodol ac edrych o’r newydd ar y rhagdybiaethau a’r dehongliadau. Nod y llyfr yw darparu canllaw hanfodol i fyfyrwyr sy’n astudio’r argyfwng taflegrau, diplomyddiaeth y Rhyfel Oer, a deinameg dehongli ac ailddehongli hanesyddol. Gan gynnig syniadau ac agendâu gwreiddiol, nod y cyfranwyr yw darparu dealltwriaeth newydd o gyfrinachau a dirgelion y foment pan oedd y byd ar drothwy Armagedon.
Bydd y llyfr hwn o ddiddordeb mawr i fyfyrwyr sy’n astudio argyfwng taflegrau Ciwba, Astudiaethau Rhyfel Oer, twf arfogaeth niwclear, hanes rhyngwladol a Chysylltiadau Rhyngwladol yn gyffredinol.
Degawd o gudd-wybodaeth y tu hwnt i 9/11: Diogelwch, Diplomyddiaeth a Hawliau Dynol
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Intelligence and National Security, cyfnodolyn academaidd mwyaf blaenllaw'r byd ar rôl cudd-wybodaeth mewn cysylltiadau rhyngwladol, gasgliad o draethodau sy’n seiliedig ar bapurau a gyflwynwyd yn ein cynhadledd, a gynhelir bob dwy flynedd yng Nghanolfan Gynadledda Prifysgol Cymru yn Neuadd Gregynog ym Mhowys.
Mae'r rhifyn arbennig (INS 27/5) yn cynnwys erthyglau gan bedwar aelod o'r Ganolfan:
- Len Scott, 'Reflections on the Age of Intelligence'
- R. Gerald Hughes a Kristan Stoddart, 'Hope and Fear: Intelligence and the Future of Global Security a Decade after 9/11'
- Claudia Hillebrand, 'The role of News Media in Intelligence Oversight'
I weld y rhifyn arbennig hwn, cliciwch yma.
Intelligence and International Security: New Perspectives and Agendas
Len Scott, R. Gerald Hughes a Martin S. Alexander (gol.) (Routledge, 2011)
Gellir dadlau bod digwyddiadau 9/11 a’r gweithredoedd terfysgol jihadaidd a’i dilynodd, ynghyd â methiannau’r asiantaethau cudd-wybodaeth yng nghyswllt Arfau Dinistr Torfol Irac, wedi esgor ar oes newydd o gudd-wybodaeth. Mae rhai yn colli hyder mewn sefydliadau llywodraethol. I eraill, mae'r bygythiad o derfysgaeth gataclysmig megis ymosodiadau cemegol, biolegol, radiolegol neu niwclear yn gwneud y ddadl academaidd bod methiant cudd-wybodaeth yn anochel yn fwy ingol. Ymddengys bod llawer o'r heriau sy'n wynebu cudd-wybodaeth yn newydd ac yn peri cryn ofid. Mewn ymateb, mae’n amlwg bod cudd-wybodaeth wedi mabwysiadu ffurfiau newydd ac agendâu newydd. Mae’r ffordd y caiff y gwahanol ddatblygiadau hyn eu gweld yn dibynnu ar y fframweithiau hanesyddol, normadol a gwleidyddol a ddefnyddir i’w dadansoddi. Mae'r llyfr hwn yn ymdrin â chwestiynau sylfaenol sy'n codi yn yr oes newydd hon.
Prif nod y casgliad yw adnabod materion a chwestiynau allweddol a’u hystyried o wahanol safbwyntiau methodolegol trwy ddefnyddio arbenigwyr o fri rhyngwladol yn y maes. Mae’r casgliad yn canolbwyntio’n benodol ar safbwyntiau Prydain a Gogledd America. Mae tueddiadau a dadleuon diweddar ynglŷn â’r modd y caiff cudd-wybodaeth ei drefnu a’i gyflawni yn darparu themâu allweddol i’w hystyried. Yn sail i nifer o’r cyfraniadau y mae’r gydnabyddiaeth bod cudd-wybodaeth yn wynebu gwrthdaro o ran syniadau llawn cymaint ag arferion a bygythiadau.
Cyhoeddwyd y llyfr hwn fel rhifyn arbennig o Intelligence and National Security.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu i brynu’r llyfr, gweler Taylor & Francis/ Routledge.
Intelligence, Crises and Security: Prospects and Retrospects
Len Scott a R. Gerald Hughes (gol.) (Llundain: Routledge, 2008)
Mae'r casgliad hwn o draethodau gan arbenigwyr blaenllaw yn ystyried pa wersi ar gyfer rheoli a manteisio ar gudd-wybodaeth gyfrinachol y gellid eu dysgu o amrywiaeth o astudiaethau achos o’r 1920au hyd at y 'Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth'.
Wedi’i ystyried ers blynyddoedd lawer fel ‘dimensiwn coll’ hanes a gwleidyddiaeth rhyngwladol, mae diddordeb y cyhoedd a’r byd academaidd yn rôl cudd-wybodaeth gyfrinachol wedi parhau i dyfu mewn blynyddoedd diweddar, a hynny’n rhannol o ganlyniad i’r dadlau ynghylch yr ymosodiadau terfysgol ar yr Unol Daleithiau ar 11 Medi 2001.
Mae Intelligence, Crises and Security yn ymdrin ag amrywiaeth o themâu gan gynnwys: rheoli argyfyngau, diplomyddiaeth gudd, crefft cudd-wybodaeth, gwrthderfysgaeth, 'gorlwytho' cudd-wybodaeth, cudd-wybodaeth mewn perthynas â gwladwriaethau niwtral, twyll, a chudd-wybodaeth signalau. Mae'r gwaith yn torri tir newydd yng nghyswllt nifer o benodau a digwyddiadau rhyngwladol o bwys, a hynny’n rhannol o ganlyniad i ddatgeliadau newydd o archifau llywodraethau ledled y byd.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu i brynu’r llyfr, gweler Taylor & Francis/ Routledge.
Exploring Intelligence Archives: enquiries into the secret state
R. Gerald Hughes, Peter Jackson a Len Scott (gol.) (Llundain: Routledge, 2008)
Cyflwyniad delfrydol i astudio cudd-wybodaeth gyfrinachol, a'r defnydd a wnaed ohoni dros y ganrif ddiwethaf, mewn dyfnder: detholiad da o astudiaethau achos ynghyd â dogfennau allweddol a sylwebaeth ysgogol. Deunydd darllen hanfodol ar gyfer pob cwrs ar astudiaethau cudd-wybodaeth. Yr Athro Christopher Andrew, Prifysgol Caergrawnt
Cliciwch yma am adolygiad o Exploring Intelligence Archives
Mae’r gyfrol olygedig hon yn dwyn ynghyd llawer o ysgolheigion mwyaf blaenllaw'r byd ym maes cudd-wybodaeth a nifer o gyn uwch ymarferwyr i hwyluso trafodaeth eang ar yr heriau canolog sy'n wynebu’r rhai sy’n astudio cudd-wybodaeth.
Mae'r llyfr yn cyflwyno cyfres o ddogfennau, bron pob un ohonynt wedi’u cyhoeddi yma am y tro cyntaf, ynghyd ag adrannau trosolwg a sylwebaeth. Mae dwy elfen i amcanion canolog y casgliad hwn. Yn gyntaf, mae'n adeiladu ar yr ysgolheictod presennol ar gudd-wybodaeth i ddyfnhau ein dealltwriaeth o'i heffaith ar gyfres o ddigwyddiadau allweddol yn hanes rhyngwladol y ganrif ddiwethaf. Ar ben hyn, mae'n ystyried y gwahanol ffyrdd y gellir astudio cudd-wybodaeth, trwy ddod ag arbenigedd ysgolheigaidd ac ymarferol at ei gilydd i edrych ar ystod o ddeunyddiau gwreiddiol sy'n berthnasol i hanes cudd-wybodaeth ers dechrau'r ugeinfed ganrif.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu i brynu’r llyfr, gweler Taylor & Francis/ Routledge.
Understanding Intelligence in the Twenty-First Century: Journeys in Shadows
L.V. Scott & P. Jackson (gol.) (Llundain: Routledge, 2004)
Dros y degawdau diwethaf, dylanwadwyd yn sylweddol ar hanes a diogelwch rhyngwladol gan ddealltwriaeth well o rôl cudd-wybodaeth ym meysydd diogelwch cenedlaethol a llunio polisïau tramor. Ym Mhrydain, mae llawer o'r gwaith wedi datblygu yn is-ddisgyblaeth hanes rhyngwladol gyda'i rhagdueddiad methodolegol tuag at ymchwil archifol. Mae datblygiadau mewn datgelu archifol, a gyflymwyd gan ddiwedd y Rhyfel Oer, yn ogystal â’r newid mewn agweddau tuag at gyfrinachedd swyddogol a gwaith y gwasanaethau cudd-wybodaeth, wedi hwyluso ymchwil, dealltwriaeth a thrafodaethau ymhellach. Mae dadleuon diweddar, gan gynnwys honiadau bod hanesyddiaeth cudd-wybodaeth wedi cael ei wleidyddoli, wedi ychwanegu elfen ychwanegol o ddiddordeb cyhoeddus i ddadleuon academaidd hirsefydlog. Mae digwyddiadau 11 Medi a'u canlyniadau wedi dangos gwerth a chyfyngiadau cudd-wybodaeth gyfrinachol, gan greu dadleuon newydd i’r cefnogwyr a’r beirniaid.
Mae'r llyfr hwn edrych ar ddatblygiad astudiaethau cudd-wybodaeth mewn modd beirniadol ac yn asesu ei chyfraniad at faes astudio cysylltiadau rhyngwladol. Mae'n trafod safbwyntiau academyddion, newyddiadurwyr a chyn-ymarferwyr blaenllaw i ystyried y ffordd y caiff y pwnc ei astudio, at ba ddibenion, a beth yw’r canlyniadau.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu i brynu’r llyfr, gweler Taylor & Francis/ Routledge.
