Safonau Gwasanaeth

Amgylchedd
  • Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu amgylchedd groesawgar i gefnogi ein defnyddwyr gyda’u hastudiaethau
Cyfathrebu
  • Yr ydym yn anelu at ateb 100% o ymholiadau i gyfeiriadau e-bost Gwasanaethau Gwybodaeth a chyfrifon cyfryngau chymdeithasol, o fewn 3 diwrnod, ond fel rheol byddwn yn ymateb o fewn 24 awr (oni bai am benwythnosau, dyddiau cau y Brifysgol a Gwyliau Banc)
  • Yr ydym yn anelu at ateb, o fewn oriau craidd, 85% neu fwy o alwadau i Wasanaethau Gwybodaeth ar 01970 622400
  • Bydd tudalennau gwe ac ein Cwestiynnau Cyffredin yn cwrdd ag anghenion defnyddwyr
Cymorth a Chefnogaeth
  • Bydd cymorth a chefnogaeth ar gael o 08:30-17:00 yn ystod y tymor
  • Bydd pob myfyriwr newydd yn cael cynnig sesiwn ymgynefino i’w gyflwyno i wasanaethau ac adnoddau Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Bydd 90% neu fwy o’n defnyddwyr yn fodlon gydag ansawdd y gwasanaeth a dderbynir wrth y desgiau ymholiadau  
Argaeledd Adnoddau TG
  • Bydd holl wasanaethau craidd TG ar gael 99% o’r amser yn ystod oriau craidd gyda’r mwyafrif o’r systemau ar gael 24/7 ar wahân i gyfnodau cynnal a chadw a gynlluniwyd o flaen llaw
  • Bydd 95% o’r cyfrifiaduron cyhoeddus yn gweithio ar unrhyw adeg
  • Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaeth di-wifr cyflym a dibynadwy sydd ar gael ar y campws ac ym mhob adeilad preswyl
Argaeledd Adnoddau Llyfrgell
  • Bydd llyfrau print ar gael i fyfyrwyr a staff trwy'r cynllun Clicio a Chasglu a phan fo'n briodol, y cynllun benthyca drwy'r post, ac ers mis Medi 2021, maent hefyd wedi bod ar gael i'w benthyca'n uniongyrchol o silffoedd y llyfrgell
  • Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn gwella argaeledd llyfrau cwrs a thestunau angenrheidiol

Adroddiad ar Safonau Gwasanaeth GG 2021-2022