Polisi Defnydd Derbyniol Blackboard

Mae Blackboard yn rhan o'r gwasanaethau cyfrifiadurol y mae'r Brifysgol yn eu cynnig, ac felly mae'r ffordd y’i defnyddir yn cael ei rheoli gan y Rheolau, Rheoliadau, Canllawiau a Chodau Ymarfer. Wrth gofrestru i gael defnyddio'r adnoddau y mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) yn eu cynnig, rydych wedi cytuno i ddilyn y cyfresi o Reoliadau ac y gellir cymryd camau disgyblaethol yn erbyn rhywun sy'n eu hanwybyddu.

Rheoliadau

Dyma Reoliadau’r Gwasanaethau Gwybodaeth sy'n arbennig o berthnasol i Blackboard.

Hawlfraint

"3.14   Rhaid i ddefnyddwyr gadw at gyfraith hawlfraint ac amodau unrhyw drwyddedau ar gyfer deunyddiau maent yn eu defnyddio. " (Rheoliadau'r GG)

Gweler y wybodaeth am ddigideiddio a Blackboard. Mae cyngor a gwybodaeth hefyd ar gael ar wefan Polisïau Gwybodaeth y Brifysgol neu trwy gysylltu â’r Rheolwr Hawlfraint a Diogelu Data (infocompliance@aber.ac.uk). Cynghorir y staff bod defnyddio eitemau a gaiff eu rhyddhau o dan drwydded Creative Commons yn eu galluogi i ddefnyddio delweddau a deunydd arall heb dorri amodau hawlfraint (https://creativecommons.org/).

Os yw’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn credu y gallai deunydd dorri amodau hawlfraint, maent yn cadw’r hawl i’w ddileu pan fo’n briodol.

Mae’r recordiadau a wneir drwy system Panopto ar gael i fyfyrwyr ac mae’r caniatâd i edrych arnynt wedi’i gyfyngu i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y modiwl perthnasol (heblaw bod y staff yn caniatáu iddynt fod ar gael i fwy o bobl). Mewn rhai achosion, gellir lawrlwytho recordiadau at ddibenion academaidd personol. Ni ddylid rhannu recordiadau wedi’u lawrlwytho â myfyrwyr eraill ac ni ddylid eu hailgyhoeddi mewn unrhyw ffordd.

Deunydd Tramgwyddus neu Aflonyddol

"3.15   Ni chaniateir i ddefnyddwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth ddefnyddio rhwydwaith y Brifysgol i gynhyrchu nac arddangos gwybodaeth na chynnyrch cyfrifiadurol o'r math, neu mewn dull, a allai beri tramgwydd i bobl eraill rhesymol gan gynnwys deunydd sy’n gallu ysgogi casineb tuag at unigolyn/unigolion penodol neu grwpiau hiliol neu grefyddol. Mae hyn yn berthnasol i destun ysgrifenedig ac i ddeunydd graffig.”  (Rheoliadau'r GG)

Mae AberDysgu Blackboard yn rhoi mynediad i chi i nifer o adnoddau sy'n golygu y gallwch gyfathrebu â phobl eraill mewn gwahanol ffyrdd. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys byrddau trafod, wicis, podlediadau, fideos a blogiau ymhlith pethau eraill. Wrth ddefnyddio'r adnoddau hyn dylech gadw'r pwyntiau isod mewn cof:

  • Ni ddylai'ch sylwadau fod yn dramgwyddus, ymfflamychol, hiliol, rhywiaethol nac yn bwrw sen mewn unrhyw ffordd.
  • Cofiwch, wrth gyfathrebu ar ddu a gwyn, ni cheir yr arwyddion gweladwy na'r goslef ar lafar sy'n helpu pobl i ddehongli'ch ystyr.
  • Bydd eich sylwadau ar gael i'w gweld gan bawb a gofrestrwyd ar y modiwl. Gallai hyn gynnwys aelodau eraill o'r staff (gan gynnwys staff ysgrifenyddol a gweinyddol), yn ogystal â myfyrwyr o grwpiau seminarau / tiwtorial eraill.
  • Bydd eich sylwadau yn cael eu cadw am bum mlynedd. Os yw'ch sylwadau yn rhan o asesiad fe fyddant yn cael eu cofnodi a'u cadw i gyfeirio atynt yn y dyfodol.
  • Dylai'ch sylwadau ymdrin â phwnc y drafodaeth a dylent fod mewn ieithwedd sy'n briodol i’r cyd-destun dan sylw. Rydym yn argymell yn gryf na ddylid defnyddio unrhyw fath o regfeydd na iaith sy’n rhy gref.
  • Mae cyfreithiau Hawlfraint a Diogelu Data yn berthnasol i'r testunau hyn. Ni ddylech gopïo sylwadau pobl eraill na gwybodaeth heb eu caniatâd penodol. Rhowch gyfeiriadau ar gyfer unrhyw ffynonellau a ddefnyddiwyd. Ni ddylech roi gwybodaeth bersonol am bobl eraill.
  • Os yw'r testun rydych yn ei osod yn cyfrif tuag at asesiad, dylech ymdrin â'r testun yn yr un ffordd ag y byddech unrhyw ddarn arall o waith ysgrifenedig o ran sicrhau nad ydych yn llên-ladrata. Dylech gydnabod gwaith pobl eraill bob tro.

Os cewch fod testun yn peri tramgwydd i chi, ystyriwch y pwyntiau isod cyn ymateb:

    • Sut y bydd eich sylwadau yn cyfrannu'n gadarnhaol at drafodaeth academaidd?
    • Sut y byddech yn ymateb pe baech mewn sefyllfa wyneb-yn-wyneb (e.e. seminar)?
    • A fyddai hi'n well ymdrin â'r mater drwy gysylltu â'ch tiwtor yn hytrach na'r unigolyn?

Os bydd achosion o sylwadau sy’n peri tramgwydd i chi, efallai yr hoffech gysylltu â'ch tiwtor yn breifat yn hytrach na gwaethygu'r sefyllfa drwy ddadlau yn gyhoeddus ar-lein.

Os teimlwch fod angen mynd â'ch cwyn ymhellach, ceir gwybodaeth am drefn y Gwasanaethau Gwybodaeth ynghylch cwyno am ddeunydd ar y we.

Monitro Defnydd

Mae Gweinyddwyr System Blackboard PA yn gallu gweld y defnydd y mae myfyrwyr a staff yn ei wneud ar  Blackboard. Y rheswm am hyn yw efallai y bydd arnynt angen gweld y modiwlau er mwyn ateb unrhyw ymholiadau, yn arbennig o ran cyflwyno aseiniadau neu gael mynediad i Blackboard. Er enghraifft, gweler y E-Gyflwyno: Ymholiadau am Gyflwyniadau sy'n methu. Efallai y bydd y wybodaeth yn cael ei rhoi i aelodau eraill o staff yn PA at ddibenion cefnogi.

Mae modd i Weinyddwyr y System gael mynediad i’r system hefyd fel aelod o staff neu fyfyriwr – caiff yr adnodd hwn ei ddefnyddio i weld beth mae defnyddiwr unigol yn ei weld wrth edrych ar y system er mwyn rhoi cymorth ac ateb unrhyw ymholiadau.

Caiff data log o Blackboard ei ddefnyddio yn rhan o brosiect Dadansoddeg Dysgu’r brifysgol. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, gan gynnwys sut y caiff eich data ei ddefnyddio, ewch i https://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/dp/learning-analytics/

Mae hyfforddwyr y cyrsiau yn gallu defnyddio'r adnoddau olrhain yn Blackboard i edrych ar sut y mae myfyrwyr yn defnyddio deunyddiau’r cwrs mewn modiwlau unigol. Argymhellir i'r staff roi gwybod i'w myfyrwyr fod eu defnydd yn cael ei fonitro (er enghraifft drwy ddefnyddio'r adnoddau hysbysu yn Blackboard).