Rheoli Cyfrineiriau

Mae eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair yn rhoi mynediad breintiedig i chi i systemau Prifysgol Aberystwyth, gyda llawer ohonynt yn cynnwys data personol a sensitif. Mae cyfrineiriau yn rhan bwysig o ddiogelwch cyfrifiaduron.  Cyfrineiriau yw rheng flaen diogelwch ar gyfer cyfrifon y defnyddwyr.  Gall datgelu cyfrinair arwain at gyfaddawdu rhwydwaith corfforaethol y Brifysgol.

Mae pob defnyddiwr yn rhwym i Reoliadau TG Gwasanaethau Gwybodaeth sy’n cynnwys y gofynion i gadw’ch cymwysterau  yn ddiogel.

  • Peidiwch â rhannu eich cyfrinair ag UNRHYW UN  gan gynnwys ffrindiau, teulu, cydweithwyr nag aelodau eraill o staff.
  • Peidiwch â defnyddio’r un cyfrinair ar gyfer cyfrifon Prifysgol, a chyfrifon y tu allan i’r Brifysgol megis cyfrif ISP personol neu fewngofnodi i archebion post safle  siopa ar-lein.
  • Peidiwch â datgelu’ch cyfrinair mewn neges e-bost.
  • Peidiwch ag ysgrifennu eich cyfinair ar bapur.
  • Peidiwch â storio’ch cyfrinair mewn ffeil ar unrhyw system gyfrifiadurol heb amgryptiad.
  • Peidiwch â defnyddio cyfrinair amlwg.
  • Peidiwch â siarad am eich cyfrinair o flaen eraill.
  • Peidiwch â dateglu’r cyfrinair ar holiaduron neu ffurflenni diogelwch.
  • Peidiwch â defnyddio’r nodwedd  ‘Cofio Cyfrinair’ ar raglenni
  • Peidiwch â defnyddio’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair i fewngofnodi i wefannau neu wasanaethau nad ydych yn eu hadnabod.
  • Peidiwch â mewngofnodi i wefannau sy’n dangos ‘ddim yn ddiogel’ wrth ymyl y bar cyfeiriad na chlicio drwy rybuddion diogelwch eich porwr.
  • Peidiwch â gadael cyfrifiadur rydych wedi mewngofnodi iddo heb oruchwyliaeth a heb ei gloi.
  • Peidiwch â chaniatau i eraill ddefnyddio eich cyfrifiadur na’r Gwasanaethau gyda’ch cymwysterau.

Os ydych chi’n amau bod rhywun wedi dyfalu beth yw eich cyfrinair, rhowch wybod am y digwyddiad i’r Gwasanaethau Gwybodaeth a newidiwch eich cyfrinair ar unwaith.

Rhaid i chi newid eich cyfrinair pan ofynnir y Gwasanaethau Gwybodaeth ichi wneud hynny. Mae gennych hawl i newid eich cyfrinair yn amlach os bydd hynny’n fwy cyfleus.

Gallwch newid eich cyfrinair trwy:

Diweddarir y Rheoliadau hyn gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’u hadolygwyd ddiwethaf ym mis Mehefin 2022 a byddant yn cael eu hadolygu eto ym mis Awst 2023.