Rhwydwaith Preifat Rhithwir

1.0 Diben

Mae Rhwydweithio Preifat Rhithwir (VPN) yn creu cysylltiad diogel rhwng eich cyfrifiadur chi a rhwydwaith Prifysgol Aberystwyth (PA). Mae'r polisi hwn yn diffinio'r gofynion ar gyfer defnyddio rhwydwaith PA drwy VPN i sicrhau cydymffurfiaeth â seiberddiogelwch.

2.0 Cwmpas

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob dyfais sy’n defnyddio'r gwasanaeth VPN i gael mynediad i rwydwaith PA.

3.0 Canllawiau

  • Dim ond y cleient VPN cymeradwy (GlobalProtect) y dylid ei ddefnyddio i gysylltu â rhwydwaith PA
  • Rhaid defnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r cleient VPN a gymeradwywyd
  • Rhaid i bob dyfais nad ydynt yn cael eu rheoli'n ganolog ac sy'n cael eu defnyddio i gysylltu â rhwydwaith PA trwy VPN gydymffurfio â’r polisi BYOD. Ni fydd dyfeisiau nad ydynt yn cydymffurfio â'r polisi hwn yn gallu defnyddio'r gwasanaeth.
  • Caiff mynediad VPN ei ddiogelu gan ddefnyddio dilysiad safonol Microsoft Azure MFA.
  • Cyfrifoldeb defnyddwyr sydd â breintiau VPN yw sicrhau nad yw defnyddwyr heb awdurdod yn cael mynediad i rwydweithiau mewnol PA.
    Bydd y VPN yn casglu ac yn monitro gwybodaeth am y ddyfais, i sicrhau cydymffurfiaeth.
  • Bydd pob dyfais sy'n cysylltu â'r VPN yn ddarostyngedig i'r Polisi Rheoli Rhwydwaith

Diweddarir y Rheoliadau hyn gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’u hadolygwyd ddiwethaf ym mis Awst 2023 a byddant yn cael eu hadolygu eto ym mis Awst 2024