Amrywiaeth buchesi gwartheg traddodiadol yn cael ei heffeithio gan fridio dethol – ymchwil

Buwch Jersi – llun gan Ari Kejonen o Pixabay

Buwch Jersi – llun gan Ari Kejonen o Pixabay

10 Awst 2026

Mae degawdau o fridio dethol ac arferion amaethyddol dwys wedi ail-lunio geneteg gwartheg - yn aml ar draul amrywiaeth werthfawr a gedwir mewn buchesi traddodiadol - yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Aberystwyth.

Mae awduron yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Applied Animal Science, yn rhybuddio bod diogelu’r adnoddau genetig hyn yn hanfodol ar gyfer amaethyddiaeth gynaliadwy yn wyneb newid yn yr hinsawdd a gofynion byd-eang sy’n newid.

Mae buchesi gwartheg traddodiadol yn aml yn cario proffiliau genetig unigryw sy'n darparu gwydnwch yn erbyn clefydau, manteision o ran ffrwythlondeb, neu’r gallu i addasu i amgylcheddau heriol. 

Dadleua’r ymchwilwyr y byddai colli’r poblogaethau hyn yn golygu colli nodweddion unigryw a allai helpu cenedlaethau’r dyfodol o ffermwyr i ymateb i heriau byd-eang.

Mae'r adolygiad yn tynnu sylw at enghreifftiau o fridiau megis gwartheg Swydd Aeron, Jersi, a Henffordd, lle mae poblogaethau traddodiadol yn parhau i fod yn wahanol i'w bridiau modern cyfatebol.

Fel arfer, mae’r buchesi hyn yn llai o faint, yn cael eu rheoli’n llai dwys, ac â chysylltiad agosach â’u hamgylcheddau lleol, gan eu gwneud yn hanfodol o safbwynt cadwraeth a strategaethau bridio ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Kardelen Oya Temiz, ymchwilydd:

"Mae poblogaethau gwartheg traddodiadol yn llawer mwy nag olion o’r gorffennol — maent yn llyfrgelloedd genetig byw sy’n dal atebion i rai o’r heriau mwyaf dybryd sy’n wynebu amaethyddiaeth heddiw. Mae bridio modern wedi canolbwyntio ar gynhyrchiant, ac er bod hynny’n ddealladwy, mae hyn yn aml wedi digwydd ar draul amrywiaeth genetig.

"Drwy astudio a chadw’r buchesi traddodiadol hyn, gallwn ddiogelu nodweddion megis ymwrthedd i glefydau, ffrwythlondeb, a’r gallu i addasu i amgylcheddau caled. Gallai’r rhinweddau hyn fod yn hanfodol wrth i ffermwyr a bridwyr ymateb i newid hinsawdd, gofynion defnyddwyr wrth iddynt newid, a’r angen am arferion ffermio mwy cynaliadwy. Os collwn y poblogaethau hyn, rydym mewn perygl o golli adnoddau genetig anhepgor a allai helpu i sicrhau dyfodol ffermio da byw."

Daw’r awduron i’r casgliad bod cadw poblogaethau gwartheg traddodiadol yn gyfrifoldeb diwylliannol yn ogystal ag angen ymarferol.

Wrth i newid hinsawdd ail-lunio amodau ffermio ac wrth i alw defnyddwyr symud tuag at gynaliadwyedd, gall y nodweddion sy’n cael eu cadw mewn bridiau traddodiadol ddod yn fwyfwy gwerthfawr.

Mae'r astudiaeth yn galw am fwy o arolygon genomig o fridiau lle mae poblogaethau hynafol yn dal i fodoli, er mwyn sicrhau bod eu hamrywiaeth yn cael ei dogfennu ac ar gael i'w defnyddio yn y dyfodol.

Ychwanegodd Dr Matt Hegarty, darlithydd uwch yn Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth:

"Mae amaethyddiaeth fodern wedi cyflawni cynnydd sylweddol o ran effeithlonrwydd ac allbwn, ond mae hefyd wedi lleihau sylfaen genetig llawer o fridiau. Mae’r lleihad hwn yn gwneud buchesi’n fwy agored i glefydau, straen amgylcheddol, ac amodau cyfnewidiol y farchnad. Mae bridiau traddodiadol yn cynnig cyfle i ni sicrhau bod poblogaethau gwartheg yn wydn ac yn gallu addasu. Nid mater o gadw treftadaeth yn unig yw eu diogelu – mae’n golygu rhoi’r adnoddau sydd eu hangen ar amaethyddiaeth i wynebu’r dyfodol."