Uned Ymchil Asesu Lles ac Iechyd

 

Monitro Lles ac Iechyd @ Cartef

Ar ôl lansio’r Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd (WARU) ym mis Mawrth, rydym ni’n recriwtio cyfranogwr am ein hastudiaeth gyntaf.  Mae hon yn astudiaeth Ewropeaidd arwyddocaol, a bydd yn cael ei chynnal dros gyfnod o 12 mis, gan anelu i asesu effeithiolrwydd defnydd technoleg ddigidol ‘glyfar’ wrth gynorthwyo unigolion i wella eu maethiad, eu cyfansoddiad corfforol a’u llesiant cyffredinol yn y cartref. Anelwn i recriwtio cyfranogwyr iach sydd yn bodloni’r holl bwyntiau meini prawf canlynol:

Oedran 25-50 mlwydd oed
BMI (pwysau/taldra2) 25 – 29.9
Ysmygu Ddim yn ysmygu
Yfed Alcohol Ddim yn ormodol
Meddyginiaeth Dim meddyginiaeth ddyddiol
Rôl yn y cartref Yn coginio/paratoi prydau yn y cartref

Os ydych chi’n teimlo y gallech fod yn gymwys ar gyfer yr astudiaeth hon, ac mae gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan neu hoffech chi gael  mwy Gwybodaeth, e-bostiwch waru@aber.ac.uk a byddwn ni’n anfon copi o'r ffurflen wybodaeth cyfranogwr, a fydd yn rhoi eich holl wybodaeth rhaid ichi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni.