Mrs Amanda Jones Nyrs Gofrestredig , Nyrs Iechyd Cyhoeddus Gymunedol Arbenigol (YI), MSC Iechyd Cyhoeddus, PGCtHE, Athro Nyrsio Cofrestredig, Nyrs Gofrestredig Rhagnodi, Cymrawd ar gyfer yr Academi Addysg Uwch

Principal in Healthcare Education
Manylion Cyswllt
- Ebost: amj36@aber.ac.uk
- Ffôn: 01970 621822
- Twitter: @amandajayne1975
- Proffil Porth Ymchwil
- Rhagenwau personol: Hi
Proffil
Mae Amanda Jones yn Prif Arweinydd am Addysg Gofal Iechyd a Chydlynydd Cynllun (Arweinydd Rhaglen) ar gyfer y Rhaglen Gradd Nyrsio yn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae ganddi gyfrifoldeb gweithredol dros y rhaglen i nyrsio Oedolion a Iechyd meddwl, gan arwain y tîm nyrsio. Mae Amanda yn arwain ar ymgysylltu â rhanddeiliaid â Phartneriaid Dysgu Ymarfer ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), sy’n comisiynu’r lleoedd gradd nyrsio yng Nghymru. Mae Amanda wedi gweithio ar sawl tendr a bidiau ac wedi llwyddo i gael cyllid ychwanegol i gefnogi Addysg Gofal Iechyd yn ardal Canolbarth Cymru.. Mae Amanda yn brofiadol mewn siarad cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraegg a Saesneg.
Mae Amanda yn Nyrs Gofrestredig am 30 flynyddoedd ag hefyd yn Nyrs Iechyd Cyhoeddus Gymunedol Arbenigol (Ymwelwyr Iechyd), sydd â phrofiad helaeth o weithio fel ymwelydd iechyd o fewn y rhaglen Dechrau'n Deg. Mae gan Amanda gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus sydd ag arbenigedd ym maes diogelu Plant a Phobl Ifanc. Mae ganddi Dystysgrif Ôl-raddedig mewn addysgu mewn Addysg Uwch (PGCtHE) wedi'i chwblhau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'n Gymrawd ar gyfer yr Academi Addysg Uwch.
Mae Amanda yn Athro Nyrsio Cofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac yn Nyrs bresgripsiynydd cymunedol cofrestredig
Mae Amanda wedi gweithio fel Uwch Ddarlithydd i Brifysgol Abertawe yng nghynt, a hefyd bu'n Arweinydd yr iaith Gymraeg y Coleg wrth weithredu'r Safonau Iaith Gymraeg ar draws y Coleg cyn dechrau yn ei swydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae gan Amanda brofiad helaeth o addysgu mewn addysg uwch ac mae wedi cefnogi myfyrwyr ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig yn academaidd ac yn glinigol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae Amanda yn siaradwr Cymraeg rhugl, ag yn arholwr allanol i Brifysgol Sunderland ag yn arbenigwr pwnc allanol ar gyfer cymeradwyo rhaglen yr NMC
Enillodd Amanda Wobr Staff yn 2017 am 'Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant'
Mae Amanda yn aelod o Gyngor Doniaid Iechyd Cymru a hefyd gr?p nyrsio Cyn-gofrestru Cymru
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Amanda hefyd yn gymwys mewn tylunio babanod datblygiadol
Dysgu
Module Coordinator
- NU10120 - Introduction to Professional Practice
- NY10400 - Arddangos Ymarfer Proffesiynol (Rhan B)
- NY11400 - Arddangos Ymarfer Proffesiynol (Rhan A)
- NU30100 - Return to Practice (practice)
- NU30000 - Return to Practice (theory)
Coordinator
- NU10120 - Introduction to Professional Practice
- NY10400 - Arddangos Ymarfer Proffesiynol (Rhan B)
- NU30100 - Return to Practice (practice)
- NU30000 - Return to Practice (theory)
- NY11400 - Arddangos Ymarfer Proffesiynol (Rhan A)
Lecturer
- NU10220 - Developing Professional Practice
- NU11400 - Demonstrating Professional Practice (Part A)
- NY11400 - Arddangos Ymarfer Proffesiynol (Rhan A)
- NU10120 - Introduction to Professional Practice
Arweinydd Modiwl ar gyfer Modiwlau:
- Cyflwyniad i ymarfer proffesiynol- Blwyddyn 1/ Rhan 1
Ymchwil
Mae Amanda wedi cyhoeddi dau ddarn o waith trwy gyfrwng y Gymraeg:
Plant yn gor-ddefnyddio dyfeisiau electronig – oes angen i ni boeni? – Golwg360
Mae Amanda hefyd wedi cyflwyno mewn cynhadledd Y Coleg Nyrsio Brenhinol ym Mryste
Cynhadledd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru 2019
Cyfrifoldebau
Prif Arweinydd a Phennaeth Addysg Gofal Iechyd
Cyfrifoldeb gweithredol am raglenni addysg gofal iechyd
Cynghorydd Mamolaeth
Monitro ac adrodd ar ansawdd y cwricwlwm
Arweinydd gweithredol y Rhaglen
Rheolwr tîm ar gyfer staff Canolfan Addysg Gofal Iechyd
Anghenion Ychwanegol/ Cydlynydd cymorth i fyfyrwyr
DBS/ Cydymffurfiaeth Iechyd Galwedigaethol
Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)
- Dydd Llun
- Dydd Mawrth
- Dydd Mercher
- Dydd Iau
- Dydd Gwener