Mrs Elizabeth Wile

Mrs Elizabeth Wile

Community Lecturer in Healthcare Education

Canolfan Addysg Gofal Iechyd

Manylion Cyswllt

Proffil

Proffil

Mae Betty (Elizabeth) newydd ymuno â Phrifysgol Aberystwyth fel Darlithydd Cymunedol rhan-amser mewn Addysg Gofal Iechyd. 

Mae gan Betty gofrestriad deuol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fel Nyrs Gofrestredig ac fel Nyrs Gymunedol Arbenigol ym maes Iechyd Cyhoeddus.  Mae hefyd yn Nyrs Gofrestredig sy’n Rhagnodi. 

Mae Betty wedi gweithio ym maes gofal iechyd dros y 40 mlynedd diwethaf, gan weithio mewn gwahanol leoliadau a thimau gan gynnwys ysbytai'r GIG, gwaith asiantaeth yn Llundain, cartref gofal preswyl preifat i oedolion hŷn a Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd.  Mae wedi gweithio mewn ardaloedd Dechrau'n Deg fel Ymwelydd Iechyd, yng Nghyngor Sir Ceredigion a Gwasanaethau Cymdeithasol. Bu’n Frechwr Covid (Banc) a'i swydd ddiwethaf oedd gweithio fel Ymwelydd Iechyd Arbenigol/Gweithiwr Allweddol o fewn y Tîm Anabledd Iechyd Plant, gan weithio ledled Ceredigion. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth Ychwanegol

Ganwyd Betty yn Aberystwyth a bu'n byw yng Ngheredigion drwy gydol ei phlentyndod nes iddi symud i Dde Cymru i ddechrau ei hyfforddiant nyrsio. 

 

Cymraeg yw iaith gyntaf Betty, ac felly bydd yn gallu cefnogi'r myfyrwyr yn academaidd ac yn glinigol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. 

Mae Betty yn edrych ymlaen i ymgynefino â’i swydd newydd gan roi o’i gorau i’w rôl newydd yn y byd academaidd.  Mae hefyd yn edrych ymlaen at ymgymryd â'i chwrs TUAAU ym Mhrifysgol Aberystwyth i'w chefnogi yn ei rôl fel Darlithydd Cymunedol.

 

Dysgu

Module Coordinator
Lecturer
Moderator
Coordinator

Dysgu

Bydd Betty yn dysgu ar draws holl fodiwlau’r Rhaglenni Nyrsio BSc ar gyfer nyrsio Oedolion ac Iechyd Meddwl, yn ogystal â’r rhaglen lefel 4 a'r rhaglen dychwelyd i ymarfer. 

Mae gan Betty brofiad a diddordeb penodol mewn Nyrsio ym maes Iechyd Cymunedol/Cyhoeddus a hefyd mewn plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau, ac mae’n awyddus i weithio’n neilltuol er mwyn atal a rhoi gofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.  Mae’r meysydd sy’n bwysig i Betty yn cynnwys materion sy’n ymwneud â’r bledren a’r coluddion mewn plant, rheoli ymddygiad, ADHD ac awtistiaeth, ac asesiadau datblygiadol a thrwy ei diddordeb yn y meysydd hyn mae Betty wedi cefnogi cydweithwyr a theuluoedd, disgyblaethau eraill ac asiantaethau a hefyd wedi dysgu ar y pynciau. 

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldebau

Mae cyfrifoldebau Betty yn cynnwys:

Tiwtor Personol/Asesydd Academaidd

Darlithydd Cyswllt Cymunedol

Cydlynydd Modiwlau 

 

Yn ogystal, bydd Betty yn arwain y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn y meysydd canlynol: 

Arweinydd y Gymraeg

learning@Wales (cyrsiau ar-lein ar gyfer myfyrwyr nyrsio) 

Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)

  • Dydd Llun 08:30-17:00
  • Dydd Mawrth 08:30-17:00
  • Dydd Mercher 08:30-17:00